0:11
Dan y Garreg yw cartref sydd â chwe ystafell wely
0:14
gyda lot o lefydd i bawb ymlacio.
0:16
Mae yna gegin fawr braf, ystafell fwyta, ac ystafell gemau
0:20
sy’n ffefryn gyda’r bobl ifanc.
0:27
Cyn i mi ymuno â'r sector gofal,
0:30
roeddwn i’n athro yn Sbaen,
0:34
am tua wyth mlynedd.
0:37
Roeddwn i’n dysgu pob math o bobl, o oedolion mewn busnes i
0:43
bobl ifanc mewn gwersylloedd haf.
0:46
Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio mewn iechyd a diogelwch.
0:49
Pan rydych chi’n dysgu pobl ifanc mewn gwersylloedd haf,
0:53
rydych chi yno i’w helpu i gyflawni rhywbeth.
0:57
Felly mae’r sgiliau yna’n dod gyda chi,
1:00
a gallwch eu defnyddio yn y sector gofal achos rydych chi’n gwneud yr un peth yn y bôn –
1:05
dysgu a chefnogi,
1:06
helpu, meithrin, a gofalu.
1:10
Gyda’r profiad o ddysgu iechyd a diogelwch,
1:14
roedd llawer o ddeddfwriaethau a chanllawiau i’w dilyn,
1:21
ac mae’n union yr un peth yn y sector gofal.
1:23
Mae rheolau a ffiniau i’w cadw,
1:27
fel bod y bobl ifanc yn cael y gofal gorau posib.
1:39
Fe wnes i gymhwyster Lefel 4 a 5
1:41
oherwydd mi oedd yn teimlo fel y cam nesaf.
1:45
Roeddwn i newydd orffen Lefel 3,
1:48
daeth cyfle i wneud Lefel 4, a chyfle i fod yn ddirprwy reolwr,
1:53
felly roedd yn gwneud synnwyr.
1:55
Roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n dysgu llawer o'r lefel 4,
1:59
ac wedyn defnyddio'r Lefel 5
2:01
i roi pethau ar waith yn y cartref.
2:12
Dysgais llawer am ddeddfwriaeth wrth wneud y Lefel 4
2:17
beth sydd allan yna,
2:19
ac hefyd damcaniaethau a modelau hyfforddi.
2:24
O ganlyniad, rwy’n trio bod yn rhagweithiol, yn rhagweld pethau yn hytrach na dim ond ymateb.
2:35
A gobeithio gallaf rannu hynny gyda’r tîm staff trwy adlewyrchu ar bethau sydd wedi digwydd,
2:41
a defnyddio ein sgyrsiau adlewyrchol i geisio gwella pethau wrth symud ymlaen.
2:47
Yn y pen draw, mae’n golygu gwell gofal i’r bobl ifanc,
2:51
a dyna pham rydyn ni yma.
2:55
Rwy’n atgoffa’r staff bob amser dyma eu cartref nhw,
2:58
felly os ydyn ni’n gwneud ein gorau i fod yn wybodus am ein swyddi,
3:06
mae’r bobl ifanc yn elwa.
3:15
Rheoli amser, doedd e ddim yn hawdd.
3:18
Roedd yn her, cymhwyster sy'n cael ei gwblhau yw e ar ddiwedd y dydd
3:23
ac nid yw'r pethau hyn yn cael eu rhoi i chi ar blât. Mae'n rhaid i chi roi'r gwaith mewn.
3:27
Mae'n cymryd llawer o amser, ond mae hefyd angen rheoli amser arna'i.
3:31
Fe wnes i rannu fy ngwaith yn ddarnau pythefnos.
3:36
Byddai fy nhiwtor yn rhoi tasg i mi ei chwblhau,
3:43
i'w wneud mewn pythefnos.
3:45
Byddwn ni'n gwneud y dasg yn ystod yr wythnos gyntaf, fel bo fi'n gallu anghofio amdano yn yr ail wythnos.
3:51
Felly roedden i'n gwybod bod y pwysau hwnnw wedi dod i ben erbyn ail hanner y pythefnos.
3:57
Roedd Lefel 4 yn eithaf dwys, felly roedd angen canolbwyntio am awr neu ddwy
4:05
i ffocysu i'r ffordd academaidd o feddwl.
4:09
Roedd fy nysgu’n bennaf un-i-un gyda fy nhiwtor,
4:15
felly roedd gen i gefnogaeth, ac wedyn wnes i ymchwil fy hun,
4:21
sy'n bwysig oherwydd mae angen i chi ddod o hyd i'r pethau hyn eich hun,
4:27
i roi dealltwriaeth well i chi o'r hyn rydych chi'n chwilio amdano mewn gwirionedd.
4:31
Roedd safonau Lefel 4 wedi fy helpu i'r cyfeiriad cywir a fy nghadw ar y llwybr hwnnw.
4:38
Dydw i ddim yn berson academaidd,
4:41
a roedden i'n meddwl y byddwn efallai'n cael trafferth.
4:44
Ond fe wnes i gwblhau Lefel 4 a 5 yn eithaf cyfforddus yn y diwedd.
4:58
Roedd fy mhrosiect ar Sgiliau Bywyd Annibynnol (ILS) yn y cartref.
5:04
Roedd y dogfennau gwreiddiol wedi dyddio.
5:06
Gyda Lefel 5, yn seiliedig ar brosiectau, yn seiliedig ar waith,
5:11
roedd hi'n gyfle perffaith i mi gymryd
5:14
y rhaglen ILS wreiddiol ac ailwampio, a'i gwneud yn addas i beth oedd angen.
5:20
Roedd yr elfen yma o Lefel 5 yn rhoi llawer o foddhad,
5:25
gan mai nid dim ond prosiect oedd hwn
5:27
lle oedd dim ond angen ticio blwch i ddweud “wel mae hynny wedi'i wneud nawr”,
5:30
mae'n cael ei weithredu yn y cartref. Ers gwneud Lefel 5,
5:34
mae'r rhaglen ILS yn cael ei weithredu yn y cartref
5:37
ac roedd pobl ifanc yn ran o'r peth o'r dechrau.
5:39
Yr hyn yr oedden i'n hoffi am y cymwysterau
5:42
oedd bod Lefel 4 wedi dysgu'r hyn oedd angen ei wybod
5:45
am y gwaith dwi’n ei wneud.
5:46
Ac roedd Lefel 5, dwi'n caru gwneud y Lefel 5
5:50
gan ei fod yn gweithredu popeth wnes i
5:52
ddysgu yn Lefel 4, a'i roi ar waith
5:55
yn dy gartref gofal dy hun, neu yn fy nghartref gofal i.
6:00
Pan ddechreuais fel dirprwy reolwr, roeddwn i’n brin o hyder.
6:07
Ond nawr, ar ôl cwblhau’r Lefel 4 a 5, rwy’n llawer mwy hyderus.
6:14
Mae wedi fy ngwneud yn fwy gwybodus am fy swydd, a beth sydd i'w ddisgwyl ohonaf fel rheolwr,
6:22
ac roedd y cyfan yno i mi.
6:24
Rwy'n gwerthfawrogi hefyd fy mod i wedi cael cyfarwyddyd da iawn
6:28
drwy gydol y cwrs gan fy nhiwtor.
6:31
Mae wedi dysgu popeth roeddwn i angen ei wybod, er mwyn gallu symud ymlaen.
6:35
Alla'i ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw cael y wybodaeth o’r Lefel 4
6:40
ac wedyn defnyddio'r wybodaeth i weithredu'r Lefel 5.
6:42
Ac wrth gwrs ar ôl gwneud y Lefel 4 a 5 nawr,
6:46
bydd hyn yn fy helpu i gofrestru fel rheolwr wrth symud ymlaen.
All
From Gofal Cymdeithasol Cymru / Social Care Wales