Am y tro cyntaf, mae’r Ddeddf yn rhoi’r un hawliau i ofalwyr â’r rhai hynny maent yn gofalu amdanynt ac fel y cyfryw cyfeirir atynt drwy gydol y Ddeddf.
Datblygwyd yr adnoddau hyn gan Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Maent yn cynnwys modiwl hyfforddi, crynodeb o’r negeseuon allweddol, ac astudiaethau achos, sydd yn rhoi trosolwg o agweddau allweddol y Ddeddf mewn perthynas â gofalwyr di-dâl.
Mae Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru hefyd wedi datblygu Pecyn Adnoddau i Ofalwyr, yn darparu ystod o adnoddau gwybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru gan gynnwys ffeithluniau a briffiau, ymchwil, a phecyn cymorth ac arweiniad