Dysgwch fwy am y rhaglen strategol ‘sgiliau cyfathrebu cydweithredol’ sy’n helpu i ddatblygu sgiliau a newid systemau ar draws y sector.
Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu Cydweithredol
Mae gennym hyfforddiant ar gael i sefydliadau sydd eisiau buddsoddi mewn meithrin sgiliau a galluoedd eu gweithlu i gyflawni ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae’r hyfforddiant hefyd yn ystyried y goblygiadau a’r realiti i'r sefydliad ehangach wrth sefydlu’r ffordd hon o weithio fel dull gweithredu ar gyfer y system gyfan.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys:
- damcaniaethau am ymddygiad pobl sy’n llywio ymatebion effeithiol
- egwyddorion sy’n sylfaenol i’n hymatebion fel gweithwyr proffesiynol
- sgiliau a strategaethau y gall ymarferwyr eu defnyddio i ymgysylltu â phobl ar adegau o her a straen
- sut gall systemau sefydliadol ategu ymarfer effeithiol.
Mae pedwar cam i'r hyfforddiant:
- cynllunio ac ymgysylltu ag uwch reolwyr
- hyfforddiant tîm craidd â sesiynau dilynol
- hyfforddiant i fentoriaid â sesiynau dilynol (hyrwyddwyr ymarfer)
- sesiwn ddilynol ag uwch reolwyr a mentoriaid.
Cysylltwch â ni os hoffech drafod y Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu Cydweithredol, a dysgu rhagor am sut mae’n cael ei chyflwyno a faint fyddai’n gostio.
Sut mae’r Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu Cydweithredol yn helpu i sefydlu ymarfer sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau?
Fe wnaethom gomisiynu gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen Sgiliau Cyfathrebu Cydweithredol ac fel y mae hon wedi helpu i sefydlu’r ymarfer sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau mewn awdurdodau lleol ar draws Cymru.
Fel rhan o'r gwerthusiad cynhaliwyd grwpiau ffocws a chyfweliadau ag ymarferwyr, rheolwyr ac uwch arweinyddion ar draws pum awdurdod lleol mewn gwasanaethau oedolion a gwasanaethau plant. Fe wnaeth y gwerthusiad hefyd adolygu cynlluniau gofal a chymorth.
Canfu’r gwerthusiad y canlynol:
Gweithredu
Gweithredu ffordd o weithio effeithiol a chynaliadwy sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, rhaid gweithredu ar draws y ‘system gyfan’ ac mae hynny’n golygu:
- cefnogaeth gadarn gan yr arweinwyr – yn strategol a gweithredol a hefyd ar draws y sefydliad dan arweiniad mentoriaid a hyrwyddwyr ymarfer
- cyplysu’r dull â gweledigaeth a set o werthoedd sy’n gydlynol, yn argyhoeddiadol ac yn gyfunol
- cysoni systemau, prosesau a strwythurau fel eu bod yn cefnogi yn hytrach nag yn sefyll yn ffordd y dull gweithredu
- sicrhau bod nifer ddigonol o staff wedi cael yr hyfforddiant ac yn ymroddedig
- gweithredu’n barhaus i feithrin a defnyddio’r sgiliau wrth ymarfer drwy sesiynau goruchwylio a myfyrio fel tîm
- cydnabod rôl amser – mae newid yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth ac mae ar weithwyr angen amser i ddefnyddio’r sgiliau’n hyderus.
Effaith
Cymerwyd camau breision ymlaen ers dechrau’r rhaglen ac mae’r effaith ar unigolion, teuluoedd ac ymarferwyr yn cynnwys:
- meithrin gwell perthnasoedd ag unigolion a theuluoedd drwy fod yn fwy agored a thryloyw wrth gyfathrebu
- datblygu canlyniadau personol ag unigolion drwy ddefnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol
- rhoi ystyriaeth i gryfderau ac adnoddau’r unigolyn neu’r teulu ym mhob sgwrs er mwyn cael mwy o gydbwysedd a gwneud penderfyniadau’n gydweithredol
- symud oddi wrth fodel sydd dan arweiniad y gwasanaeth at fodel lle rhoddir y ffocws ar yr hyn y mae’r unigolyn/teulu eisiau ac angen, ac sy’n cynnwys eu hatebion hwythau
- cytuno ar gynlluniau gweithredu cydweithredol ag unigolion a theuluoedd
- ymarferwyr yn cael mwy o foddhad o’u swydd gan deimlo eu bod yn cael effaith bositif.
Fe wnaeth yr adroddiad gwerthuso gloi gan roi ychydig argymhellion er mwyn sefydlu’r dull gweithredu ymhellach:
- ymrwymo i ymarfer myfyriol rheolaidd, hyfforddiant sefydlu a gloywi a buddsoddi yn y rhain
- adeiladu ar y modelau, yr adnoddau a’r wybodaeth sy’n bodoli eisoes yn y sefydliad a chyplysu â’r rhain
- datblygu ymhellach sgiliau goruchwylio ac arwain sy’n seiliedig ar gryfderau
- cysoni systemau a phrosesau gan gynnwys panelau adnoddau a gwaith papur
- hyfforddi ar y cyd neu rannu negeseuon allweddol o'r hyfforddiant ag asiantaethau partner.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma:
Gwrandewch ar ddau ymarferwr yn trafod fel y maen nhw a’u staff wedi sefydlu canlyniadau personol a chynnal y dull newydd ers gwneud yr hyfforddiant Sgiliau Cyfathrebu Cydweithredol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.
Cynnwys cysylltiedig
- Deall dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
- Defnyddio’r dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
- Sefydlu’r dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau