Jump to content
Sefydlu’r dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau

Dewch o hyd i wybodaeth ac adnoddau ar sut mae angen i ddiwylliant, systemau a phrosesau newid i gefnogi ymgorffori dull canlyniadau ar draws ein sefydliadau.

Cydbwysedd rhwng hawliau a chyfrifoldebau: ystyried risg

Gall fod yn anodd cael cydbwysedd rhwng hawliau a chyfrifoldebau, gan fod gweithwyr proffesiynol yn aml yn gweld risgiau fel pethau i'w hosgoi a’u rheoli, yn hytrach na’u bod yn rhan o broses gwneud penderfyniadau a rennir.

Mewn gwirionedd, mae cymryd risgiau yn rhan bwysig o fywyd bob dydd sy’n helpu pobl i wneud yr hyn sy’n bwysig iddynt.

Comisiynwyd darn o waith i gyd gynhyrchu egwyddorion ymarfer ar gyfer cydbwyso risg, hawliau a chyfrifoldebau mewn gwasanaethau i oedolion. Mae’r egwyddorion yn egluro sut y gall ymarferwyr gofal cymdeithasol weithio gyda’i gilydd i gymryd agwedd bositif tuag at wneud penderfyniadau am risg.

Hoffwn wybod sut gallwn helpu chi i ddefnyddio’r egwyddorion hyn yn eich gwaith, cymerwch amser i ateb ychydig o gwestiynau :

Mae’r gwaith yn adeiladu ar astudiaeth a gynhyrchwyd i ddeall sut mae gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi pobl eraill yn gallu symud tuag at wneud penderfyniadau. Darganfyddodd yr astudiaeth y dylai’r broses o wneud penderfyniadau fod yn:

  • yn gytbwys – gan gydnabod y potensial i roi budd yn ogystal â’r risg o niwed, a gan ystyried effaith emosiynol, seicolegol, gymdeithasol a chorfforol bosibl pob dewis
  • yn amddiffynadwy – yn ddilys, yn gyfiawn ac wedi’i chofnodi’n gymesur, ac nid yn amddiffynnol nac wedi’i hysgogi gan yr angen i warchod ein hunain a’n hasiantaethau
  • yn gydweithredol – gyda’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill, gan ddefnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i gyflawni’r canlyniadau sydd bwysicaf i bobl.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn isod.

Ceir egwyddorion cyffredin ar draws modelau tebyg

Mae gwasanaethau plant ar hyn o bryd yn defnyddio nifer o fodelau y gellid eu disgrifio fel modelau sy’n ‘canolbwyntio ar ganlyniadau’, ‘seiliedig ar gryfderau’ neu ‘berthynol’. Mae’r holl fodelau hyn yn seiliedig ar egwyddorion tebyg:

  • perthynas gydweithredol rhwng yr ymarferydd a’r unigolyn/teulu, wedi’i datblygu drwy wrando’n astud ac yn fyfyriol, ac yn seiliedig ar empathi a gan adnabod y gwahaniaethau mewn grym
  • cred bod newid yn bosibl a bod agweddau gwahanol yn naturiol
  • yn annog cryfderau ac yn adeiladu ar eithriadau, ochr yn ochr ag asesu risgiau
  • sgyrsiau gonest ac agored â theuluoedd ac eraill am risgiau
  • gweithio ag unigolion a theuluoedd i ganfod atebion a gosod nodau
  • canfod a defnyddio rhwydweithiau ac adnoddau ehangach
  • gweithredu ar draws y system gyfan â theuluoedd, cymunedau a gwasanaethau.

Beth sy’n cynorthwyo ymarferwyr i weithio fel hyn?

Mae goruchwyliaeth effeithiol a rheolaidd yn holl bwysig a dylai:

  • ‘gynnal’ tensiwn ac ansicrwydd drwy fod yn sylfaen diogel i ymarferwyr fel y gallant feddwl ac ystyried eu cysylltiad â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill, a phrosesu eu hymatebion emosiynol eu hunain
  • craffu’n gadarnhaol ar farn ei gilydd
  • hybu diwylliant sy’n barod i ddysgu lle caiff ymarfer creadigol â theuluoedd ei annog a lle caiff risg a dulliau arloesol arfaethedig eu trafod yn agored
  • trafod y gwerthoedd sy’n arwain yr ymarfer
  • chwilio am yr eithriadau, y cryfderau, y canlyniadau dymunol ac atebion posibl â theuluoedd
  • hybu cydgyfrifoldeb dros risg.

Ffactorau eraill a oedd yn gefnogol i ymarferwyr weithio fel hyn:

  • datblygu sgiliau a hyfforddiant, ynghyd â chyfleoedd i gysgodi a chydweithio
  • sicrhau’r cyfleoedd gorau i ymyrryd yn gynnar
  • cynnwys teuluoedd i gynllunio ar gyfer diogelwch er mwyn datblygu eu gallu i atal ac ymateb yn effeithiol i argyfwng i'r dyfodol
  • cydnabod yr effaith y gall tlodi ei chael ar deuluoedd, gydag ymarferwyr yn bod yn sensitif i anghydraddoldebau grym a strwythur.

Gwyliwch y fideo hwn i weld sut mae’r gweithiwr cymdeithasol Dawn yn gweithio â rhiant i ddatblygu cynllun diogelwch:

Beth sy’n rhwystro ymarferwyr rhag gweithio fel hyn?

  • system berfformiad sy’n canolbwyntio ar brosesau, tasgau ac allbynnau, yn hytrach nag ar ansawdd yr ymgysylltiad a chanlyniadau gwirioneddol i blant a phobl ifanc
  • pwysau oherwydd amserlenni caeth
  • galw cynyddol yng nghyd-destun llai o adnoddau
  • diwylliant gweld bai mewn gwasanaethau, y system ehangach a’r cyfryngau sy’n gallu cynyddu ymarfer amddiffynnol
  • tybiaeth bod trothwy mesuradwy yn bosibl mewn sefyllfa gymhleth
  • edrych yn or-syml ar y ffactorau risg
  • prosesau llys yn cynyddu ymarfer amddiffynnol a dadleuol.

Pam ei bod yn bwysig clywed llais y plentyn mewn prosesau amddiffyn plant?

  • mae’r fframwaith deddfwriaethol yn glir y dylai plant fod yn rhan o'r broses gwneud penderfyniadau pan maent yn rhwym wrth brosesau statudol
  • os na chaiff y plant eu gweld, ni chaiff eu lleisiau wrandawiad, mae ymarferion anniogel yn fwy tebygol
  • mae prosesau effeithiol i gynnwys plant a phobl ifanc yn caniatáu i ymarferwyr gael dealltwriaeth o beth yw eu hanghenion cyn gynted â phosibl
  • pan mae gan blant a phobl ifanc ran yn eu cynlluniau maent yn fwy tebygol o gael eu grymuso, a gallant deimlo eu bod yn rhan o'r newidiadau positif sy’n digwydd yn eu teuluoedd
  • mae plant a phobl ifanc sy’n cael eu cynnwys yn effeithiol yn adrodd am brofiadau mwy positif o brosesau amddiffyn plant.

Beth mae plant a phobl ifanc yn ei werthfawrogi mewn gwasanaethau amddiffyn plant

  • y cyfle i feithrin perthynas gadarnhaol â’u gweithiwr
  • cael gwybodaeth glir, hygyrch ac amserol am brosesau, cyfarfodydd a chynlluniau
  • bod yn gallu penderfynu a ydynt am fynychu cyfarfodydd a chael eu helpu i gyfranogi os ydynt; neu cael eu cynnwys mewn penderfyniadau mewn ffyrdd eraill sy’n briodol i'w hoedran.

Pam cydweithredu â rhieni a gofalwyr mewn gwasanaethau amddiffyn plant?

  • mae ymgysylltu’n well â theuluoedd yn ei gwneud yn haws i weithwyr gael darlun llawnach o les y plant
  • pan fo gweithwyr proffesiynol yn cydnabod cryfderau rhieni, gall wella’u morâl a’u hawydd i newid
  • pan fo’r rhieni’n cyfranogi’n llawn yn y broses o lunio cynlluniau amddiffyn plant mae’n fwy tebygol y gwelwn well canlyniadau
  • mae diffyg cefnogaeth a chyswllt effeithiol â rhieni y mae eu plant yn cael eu cymryd oddi arnynt yn gallu cynyddu’r siawns na fyddant yn gallu ymdopi fel rhiant i'r dyfodol, gan arwain at fod rhagor o blant yn cael eu tynnu oddi arnynt – yn enwedig rhieni iau
  • rhaid i brofiadau a safbwyntiau teuluoedd gael eu hystyried fel caffaeliad i helpu i wella systemau a phrosesau; gallwn ddysgu oddi wrth ymarfer sy’n digwydd eisoes ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio’n dda i ymgysylltu â rhieni a allai fod yn anghyfeillgar i ddechrau.

Beth mae rhieni a gofalwyr yn ei werthfawrogi mewn gwasanaethau amddiffyn plant

Corff cymharol fychan o dystiolaeth ymchwil sydd ar gael ynglŷn â safbwyntiau a phrofiadau rhieni a gofalwyr o brosesau amddiffyn plant. Pan ofynnir iddynt, fodd bynnag, clywir yr un neges yn gyson sef eu bod eisiau cael eu cynnwys i raddau mwy helaeth pan fo’u plant dan arolygaeth gwasanaethau amddiffyn plant statudol. Yn benodol, dywed rhieni a gofalwyr eu bod yn gwerthfawrogi neu y byddent yn hoffi:

  • gwybodaeth glir, heb jargon am y prosesau a’r amser ynghyd â help i ystyried y wybodaeth yn eu hamser eu hunain
  • y cyfle i feithrin perthynas â gweithiwr cymdeithasol (un yn ddelfrydol), sy’n dod i adnabod y teulu, yn treulio amser â’u plant ac yn ymddwyn ‘fel ti a fi’
  • cymorth ymarferol, nid dim ond monitro
  • dull cytbwys lle bo’r gweithwyr a’u hadroddiadau’n cydnabod cryfderau a bwriadau positif rhieni, ond hefyd fod yn onest ac yn benodol ynglŷn â’r pryderon a’r risgiau
  • cynadleddau nad ydynt yn cynnwys gormod o bobl na gormod o bethau annisgwyl, ac sydd mor anffurfiol a chynhwysol â phosibl
  • gweithwyr sy’n gofyn i rieni am eu syniadau nhw am atebion yn eu teuluoedd eu hunain, ac sydd hefyd yn gofyn am eu hadborth ynglŷn â sut gellid gwella’r system a’r prosesau ehangach
  • cynlluniau sy’n datgan yn glir yr hyn a ddisgwylir ganddynt, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau ac nid dim ond ar allbynnau, ac sy’n cael eu dilyn heb ‘symud y nod’
  • gweithwyr nad ydynt yn feirniadol, sy’n ddibynadwy ac yn onest
  • gweithwyr sydd wir yn gwrando ac sy’n cydnabod pa mor anodd a thrawmatig y gall y prosesau hyn fod i deuluoedd.

Gwrandewch ar riant yn siarad am sut wnaeth cydweithio â hi mewn ffordd oedd yn canolbwyntio ar y canlyniadau ac ar ei chryfderau ei helpu i wneud newidiadau er ei mwyn ei hun a’i phlant:

Gwrandewch ar Keri yn siarad am fel y gwnaeth hi annog y gwasanaethau plant i newid agwedd drwy gydweithredu â theuluoedd a staff rheng flaen

Pa fath o arweinyddiaeth sy’n angenrheidiol i sefydlu’r ffordd hon o weithio?

Mae angen i'r ffyrdd hyn o weithio fod yn rhan o newid ar draws yr holl systemau os ydynt am gael eu sefydlu. Mae gan arweinyddion ran allweddol i'w chwarae a dylent:

  • fodelu elfennau cyd-gynhyrchiol, cydweithredol a seiliedig ar gryfderau yn eu harddull arwain eu hunain
  • helpu ymarferwyr i weld yr hyn maent yn ei wneud sy’n helpu i wella canlyniadau i blant, a’u helpu i feddwl sut gallant ddatblygu ar hyn
  • dathlu a hyrwyddo arferion da – er mwyn rhoi hwb i waith cymdeithasol â phlant a theuluoedd
  • defnyddio templedi a phrosesau a gynhyrchwyd ar y cyd â theuluoedd a gweithwyr rheng flaen
  • hybu’r un gwerthoedd a ffyrdd cyson o weithio ar draws asiantaethau
  • rhannu’r cyfrifoldeb ar draws y system yn hytrach na gwarchod cyllidebau unigol a phasio’r risg ymlaen.

Gwrandewch ar Maria yn esbonio sut mae newid gwaith papur a phrosesau i ganolbwyntio mwy ar y canlyniadau wedi gwneud gwahaniaeth positif i deuluoedd:

Cwestiynau ar gyfer trafod a hunan-fyfyrio ymhellach

Ymarfer:

  • beth yw ansawdd eich perthynas â theuluoedd?
  • beth yw’r manteision a’r sialensiau a geir wrth feithrin perthynas â theuluoedd?
  • beth yw’r risgiau i chi ac i’n sefydliad drwy ein bod yn gweithio’n fwy cydweithredol â theuluoedd?
  • beth ydych chi eisoes yn ei wneud sy’n gweithio i reoli risgiau’n gydweithredol â theuluoedd?
  • a yw teuluoedd yn deall ein pryderon, beth mae angen iddynt wneud am y peth a beth allai’r canlyniadau fod? Sut gwyddoch hynny?
  • pa rôl ydych chi’n chwarae i gefnogi gwaith cydweithredol â theuluoedd?
  • debyg i beth fyddai canlyniad llwyddiannus i deuluoedd? A allwch chi roi esiampl o beth oedd y cydrannau i esgor ar hyn?
  • beth, yn ôl y teuluoedd yr ydych chi’n gweithio â nhw, a fu fwyaf defnyddiol i'w helpu i reoli risgiau’n well?
  • sut gwyddoch fod y plant yr ydych chi’n gweithio â nhw yn fwy diogel?

Strategaeth:

  • sut ydych chi’n creu diwylliant lle’r ydych chi’n gallu rheoli risgiau ar y cyd â’r teuluoedd?
  • sut mae eich sefydliad yn cefnogi creadigrwydd, chwilfrydedd ac yn delio ag agweddau gwahanol ac ansicrwydd wrth ymarfer?
  • beth ydych chi’n sylwi am eich sefydliad pan aiff pethau o’u lle?
  • pa brosesau sy’n helpu teuluoedd fwyaf; pa rai a allai fod yn wrthgynhyrchiol?
  • a ydych chi’n mynegi ac yn mesur ‘risgiau’ a ‘chanlyniadau’ o ran y gwahaniaethau pendant a wneir i blant a theuluoedd, ynteu drwy eich prosesau ‘chi’?
  • sut gall gwahanol rannau o'r system, ac asiantaethau partner, gefnogi ei gilydd orau er mwyn rheoli risgiau ar y cyd?
  • beth yw rôl aelodau etholedig yn hyn?
  • beth fyddai’r sbardun/cymhelliant i newid y system yn eich sefydliad chi?

Goruchwyliaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac ymarfer myfyriol

Er mwyn gweithredu drwy ddull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau rhaid sefydlu diwylliant o gyd-gynhyrchu, ac mae angen i ymarferwyr feithrin eu sgiliau, eu hyder a’u gallu drwy weithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar gryfderau. I gefnogi’r newid hwn yn y diwylliant, mae arnom angen gweld y system gyfan yn newid er mwyn sicrhau bod pob proses a pholisi yn cefnogi’r ffordd hon o weithio

Mae hyn yn golygu cynnwys canlyniadau personol mewn:

  • cymorth i staff
  • cynllunio’r gweithlu
  • rheoli perfformiad
  • datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae goruchwyliaeth yn broses ddwyffordd, sy’n cefnogi, yn cymell ac yn galluogi gweithwyr proffesiynol i ddatblygu arferion da. Mae goruchwyliaeth yn darparu cysylltiad rheolaidd rhwng goruchwyliwr a gweithiwr, a rhoddir lle ar gyfer myfyrio a dysgu.

Mae trafodaeth ddwyffordd dda wrth wraidd y profiad goruchwylio, gan fodelu’r dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n seiliedig ar gryfderau ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Bydd fframwaith ymarfer y goruchwyliwr yn dylanwadu ar natur y drafodaeth a bydd hynny, yn ei dro, yn siapio’r broses adolygu, myfyrio, gwerthuso a phennu canlyniadau. Yn yr un ffordd ag y dylem fod yn meithrin perthnasoedd â theuluoedd lle sefydlir pŵer ‘gyda’ yn hytrach na phŵer ‘dros’, dylid meithrin amgylchedd lle gall y goruchwyliwr a’r sawl sydd dan oruchwyliaeth gyfrannu eu harbenigedd i'r berthynas.

Mae’r ffordd hon o weithio yn helpu’r sawl sydd dan oruchwyliaeth ddod o hyd i atebion ynddynt eu hunain a hynny ar sail eu cryfderau presennol a’u profiadau positif blaenorol.

Gall goruchwyliaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gael ei sefydlu gan ddefnyddio’r fframwaith drafod ganlynol:

  • beth ydyn ni’n gweithio ato (canlyniad)?
  • beth sy’n gweithio’n dda (cryfderau)?
  • beth ydym yn poeni amdano (risgiau â blaenoriaeth)?
  • beth sydd angen digwydd (pa ddewisiadau ydyn ni’n eu harchwilio)?
  • ble ydyn ni nawr (faint o gynnydd a wnaed cyn belled)?
  • ble ydyn ni eisiau bod (beth yw’r camau nesaf)?

Gwyliwch y fideos hyn i weld sut mae defnyddio goruchwyliaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn helpu’r gweithiwr i fyfyrio ar ei gwaith.

Gwelwch chi yn y fideo cyntaf am sesiwn goruchwylio 'draddodiadol' nad yw hi'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae'n rhoi llai o le i fyfyrio.

Nawr gwyliwch y fideo isod am ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau mewn sesiwn goruchwylio. Cymharwch y ddwy fideo a gweld sut mae'r ail un yn canolbwyntio ar ganlyniadau personol, risgiau sy'n flaenoriaeth a chanlyniadau digon da.

Gall yr adnodd canlynol gael ei ddefnyddio i gefnogi’r broses oruchwylio:

Sesiwn myfyrio fel grŵp sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau

Dylid hefyd fyfyrio fel grŵp i helpu dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, mae hyn yn wahanol i oruchwyliaeth. Mae myfyrio fel grŵp yn dwyn timau ynghyd i drafod gwaith achosion, rhannu ymarfer ac i helpu i wneud penderfyniadau. Gellir myfyrio fel grŵp fel rhan o gyfarfod tîm rheolaidd neu gellir ei strwythuro i gefnogi gweithgaredd datblygu tîm rheolaidd ac mae’n rhoi cyfle ardderchog i feithrin hyder a gallu mewn ymarfer sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.

Wrth fyfyrio bydd aelod o'r tîm yn siarad am un o’i achosion am 10-15 munud a bydd gweddill y tîm yn gwrando heb dorri ar draws. Wrth drafod y manylion bydd yn rhannu manylion am y sawl a/neu’r teulu y buont yn gweithio â nhw:

  • cryfderau
  • canlyniadau
  • risgiau â blaenoriaeth
  • beth sydd angen digwydd?
  • ble rydyn ni?
  • ble ydyn ni eisiau bod?

Gall y tîm wedyn ofyn cwestiynau i gael eglurhad a herio’n adeiladol i sicrhau bod rhwydwaith yr unigolyn, gwasanaethau cymunedol ac yn olaf y dewisiadau a gomisiynir wedi cael eu hystyried yn llawn. Gall y drafodaeth fod o gymorth i wneud penderfyniadau a dylid ei chofnodi mewn ffordd sy’n dangos y cam myfyriol a’r cam gwneud penderfyniadau. Pan fo’r broses o fyfyrio mewn grŵp yn seiliedig ar gryfderau gall wella cymhelliant, creadigrwydd a hyder ymarferwyr a’u rheolwyr.

Mae’r adnodd hwn yn dangos sut i hwyluso sesiwn grŵp myfyriol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau:

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 28 Ionawr 2020
Diweddariad olaf: 9 Mai 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (149.8 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch