0:01
Helo a chroeso. Diolch am gymryd rhan yn y digwyddiad rhithiol yma fydd yn ein helpu i ddatblygu’r cam gweithredu nesaf y Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
0:12
Pwrpas y cyflwyniad yma yw egluro sut aethom ati i ddatblygu'r camau gweithredu arfaethedig
0:18
Cyflwyno'r prif negeseuon a themâu a glywsom gan y sector yn ystod ein hymgysylltiad
0:23
Cyflwyno'r camau gweithredu arfaethedig ar gyfer y cam gweithredu nesaf,
0:28
a rhai gwybod i chi sut y gallwch ymateb i'r ymgynghoriad.
0:34
Cyhoeddwyd Cymru Iachach: Ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ym mis Hydref 2020
0:41
Yr uchelgais erbyn 2030 yw bod â gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol brwdfrydig, ymroddedig a gwerthfawr â chapasiti, cymhwysedd a hyder i ddiwallu anghenion pobl Cymru
0:55
Mae bron i dair blynedd wedi mynd heibio ers lansio’r Strategaeth Gweithlu, ac ers hynny, rydym wedi gwynebu heriau sylweddol yn sgil pandemig byd eang, argyfwng costau byw, y rhyfel yn Wcráin ac effaith Brexit
1:09
Ond, er gwaethaf yr heriau hyn, mae ein nod yr un fath ac rydym wedi gwneud cynnydd
1:14
fel y gwelwch yn ein cynlluniau cyflawni ac adroddiadau blynyddol, sydd ar gael ar ein gwefan.
1:21
Er y cynnydd hwn, mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn gwynebu heriau mawr
1:26
Mae’n cael trafferth wrth ddenu pobl i’r sector, recriwtio digon o bobl, a chadw’r gweithlu presennol.
1:32
Mae’r gweithlu’n dal i deimlo effaith barhaus y pandemig a’r ymdrechion a wnaed i gadw gwasanaethau i fynd, i gadw pobl yn ddiogel ac i ateb y galw cynyddol
1:41
Mae lefelau uwch o straen, blinder a gorweithio yn effeithio ar lesiant staff, ynghyd ag amodau gweithio gwael tybiedig a diffyg cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol
1:52
Byddwn yn blaenoriaethu’r materion gweithlu yma wrth symud ymlaen
1:57
Ni allwn ddarparu gwasanaethau na chymorth iechyd a gofal cymdeithasol o safon uchel i bobl Cymru heb ein gweithlu, sy’n gweithio fel gwirfoddolwyr neu ofalwyr mewn amrywiaeth o wasanaethau statudol, preifat neu wirfoddol.
2:11
Wrth ddisgrifio’r gweithlu, rydym yn cynnwys gofalwyr maeth, gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl
2:17
Mae’r camau gweithredu rydym yn eu cynnwys, lle bo hynny’n berthnasol, yr un mor berthnasol i’r grwpiau hyn ag ydynt i’r diffiniad mwy traddodiadol o’r gweithlu.
2:27
Mae cynllun cyflawni 2023 i 2026 yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma ac mae’n cynnwys datblygiadau sy’n seiliedig ar adborth a gawsom drwy ymgysylltu â’r sector.
2:39
Mae’n disgrifio’r camau gweithredu a fydd yn helpu i symud y gweithlu yn ei flaen dros y tair blynedd nesaf.
2:46
Ni fydd uchelgais y strategaeth gweithlu yn cael ei gyflawni gan un partner neu un rhanddeiliad yn unig
2:52
Mae angen i ni weithio ar y cyd ac mewn partneriaeth ar bob lefel.
2:56
Mae’r cynnydd a wnaed hyd yma wedi’i seilio ar gydweithio effeithiol mewn amrywiaeth o feysydd, a fydd yn parhau drwy gam nesaf y ddarpariaeth.
3:07
Yr haf diwethaf, fe wnaethom gynnal digwyddiadau ymgysylltu gydag ystod eang o rhanddeiliaid i’n helpu i lunio cam nesaf y gwaith o gyflwyno’r Strategaeth Gweithlu.
3:17
Bu i ni gynnal 6 digwyddiad wyneb yn wyneb ym Mehefin a Gorffennaf – dau yn y Gogledd, dau yn y Gorllewin a dau yn y De.
3:25
Cawsom ddau ddigwyddiad rhithiol ym mis Medi a Hydref a oedd yr un fath â'r digwyddiadau wyneb yn wyneb ond cynhaliwyd ar-lein, ac roedd gennym hefyd arolwg ar-lein a gynhaliwyd ym mis Hydref.
3:36
Yn gyffredinol, drwy'r holl ddulliau ymgysylltu, roedd gennym dros 350 o bobl yn bresennol ac yn cyfrannu yn y cam ymgysylltu cychwynnol.
3:46
Yr adborth cyffredinol gan y sector o'r digwyddiadau yma oedd ein bod ar y trywydd cywir ond efallai bod angen i ni symud yn gyflymach yn enwedig o ran telerau ac amodau a lles y gweithlu.
4:01
Yn ogystal â'r hyn y dywedodd y sector wrthym bu i ni gynnal ymarfer sganio’r gorwel oedd yn cynnwys adolygu ac ystyried polisïau, fframweithiau deddfwriaethol ac adroddiadau ymchwil a’i effaith ar y gweithlu
4:14
Gwnaethom hefyd ystyried y wybodaeth a data diweddaraf am broffil y gweithlu i ddallt maint a chyfansoddiad y gweithlu presennol.
4:23
Fel rhan o’r gwaith paratoi terfynol cyn mynd allan i ymgynghori, yn ystod mis Mawrth ac Ebrill eleni buom yn ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol ar lefel genedlaethol
4:35
megis Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
4:39
yr Undebau, Llywodraeth Cymru,
4:42
Y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol, a Rhwydwaith Rheolwyr y gweithlu i enwi ond ychydig.
4:51
Mae Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru eisoes wedi cael ei gyhoeddi ers Ionawr 2023
5:00
felly mae’r cynllun cyflawni rydym yn ymgynghori arno yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol a’r camau gweithredu ar y cyd gyda’n partneriaid iechyd.
5:10
Yn y cynllun cyflawni rydym wedi ceisio croesgyfeirio i’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i ddangos y cysylltiadau a’r sgôp ar gyfer gweithio ar y cyd.
5:27
Mae camau gweithredu'r strategaeth yn seiliedig ar y saith thema a gafodd eu hadnabod drwy’r ymgynghoriad cychwynnol gyda'r sector a luniodd y strategaeth.
5:35
Mae llesiant, yr Iaith Gymraeg a Chynhwysiant yn egwyddorion sylfaenol y strategaeth gweithlu ac yn edau aur sy’n gwehyddu i mewn i’r holl gamau gweithredu.
5:46
Roedd eich adborth yn nodi’n glir y dylai cymorth llesiant fod ar gael i bob rhan o’r gweithlu a drwy gydol cyfnod gweithiwr yn ei swydd.
5:54
Dylid cynnig cymorth yn rhagweithiol ac nid mewn ymateb i fater penodol.
5:59
Dylid gofalu am lesiant y tîm a dylid rhoi rhywfaint o reolaeth ac ymreolaeth iddynt.
6:05
Dylai aelodau’r gweithlu hefyd allu cymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a’u llesiant eu hunain, gyda chymorth perthnasol ar waith.
6:14
Roedd eich adborth am y Gymraeg yn glir.
6:17
Mae angen i ni newid canfyddiad pobl y dylai eu Cymraeg fod yn berffaith a rhaid i ni helpu pobl i fagu hyder i siarad Cymraeg, heb boeni y byddant yn cael eu barnu.
6:27
Rydych chi am i ddysgu Cymraeg gael ei ystyried yn gyfle cadarnhaol a hwyliog sy’n gallu gwneud cyfraniad pwysig i’ch gwaith ac i’r bobl sy’n cael cymorth.
6:37
Mae eich adborth yn cadarnhau bod gwaith i’w wneud o hyd i wneud yn siŵr bod y sector gofal cymdeithasol yn gwbl gynhwysol.
6:45
Mae angen i ni wneud mwy i gyrraedd y lleisiau nad ydym yn clywed yn aml ganddynt yn ein gweithlu, ac mae angen i ni hyfforddi ac addysgu pobl ar bob lefel am yr hyn y mae gwir gynhwysiant yn ei olygu.
6:59
O ran gweithlu sy’n Ymgysylltu, yn Llawn Cymhelliant ac yn Iach o’r gwaith ymgysylltu gyda’r sector, roedd yn glir eich bod angen i ni barhau i flaenoriaethu llesiant ac i ddal ati gyda’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
7:14
Wrth i’r gweithlu ddod yn fwy amrywiol, mae angen rhoi mesurau diogelu ar waith i gefnogi pobl i ddod ac i barhau i fod yn aelodau gwerthfawr o weithlu cynhwysol.
7:25
Roedd y sector hefyd yn glir bod angen mynediad cyfartal at y cynnig llesiant a chydraddoldeb rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd.
7:33
Nid yn unig o ran cyflog yw’r cydraddoldeb yma, ond hefyd o ran telerau ac amodau ehangach, gan gynnwys mwy o hyblygrwydd mewn perthynas â threfniadau gweithio ac atebion creadigol i gynigion contractau cyflogaeth.
7:48
Mae’r gweithlu eisiau gwell ffyrdd o gasglu eu barn a gweld camau’n cael eu cymryd o ganlyniad i’r safbwyntiau hynny.
7:55
Roeddynt yn glir bod y pethau bychain yr un mor bwysig â’r newidiadau mawr.
8:00
Mae gwaith wedi dechrau mewn sawl maes pwysig lle rydym wedi cyflwyno Fframwaith Iechyd a Llesiant er mwyn i gyflogwyr a gweithwyr fesur eu sefydliad yn erbyn set o safonau y cytunwyd arnynt.
8:12
Am y tro cyntaf, mae gennym wasanaeth cymorth iechyd meddwl cyffredinol sydd am ddim ar bwynt mynediad i’r gweithlu cyfan ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
8:22
Rydym hefyd wedi datblygu rhwydweithiau o gymheiriaid sy’n rhoi cymorth a chefnogaeth i reolwyr er mwyn helpu i feithrin eu gwytnwch.
8:31
Rydym wedi dechrau gwaith hanfodol ar delerau ac amodau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, ac rydym wedi cefnogi gwaith y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy’n gweithio ar fframwaith datblygu gyrfa sy’n ceisio bod yn gysylltiedig â chyflog.
8:46
Rydym yn cydnabod bod llawer mwy i’w wneud i sicrhau bod y sector a'r gweithlu’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.
8:53
Mae’r agenda ataliol ar gyfer llesiant yr un mor bwysig â phobl yn cymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a’u llesiant eu hunain,
9:01
ond mae angen cymorth, amser a lle ar y gweithlu i wneud hyn.
9:07
Mae’r camau gweithredu arfaethedig ar gyfer Gweithlu sy’n Ymgysylltu, yn Llawn Cymhelliant ac yn Iach yn cynnwys:
9:14
cam gweithredu un
9:15
Cefnogi cyflogwyr i flaenoriaethu llesiant y gweithlu yn eu sefydliadau drwy weithredu ac adnewyddu’r Fframwaith Iechyd a llesiant.
9:24
cam gweithredu dau
9:26
Gweithio at gydraddoldeb, gwobrwyo teg a chydnabyddiaeth drwy’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ac ystyried telerau ac amodau gwaith cymdeithasol dan arweiniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
9:42
Cam gweithredu tri -Cefnogi llesiant y gweithlu drwy hyrwyddo a datblygu adnoddau a gwasanaethau llesiant, gan gynnwys Canopi a’r Cerdyn Gweithiwr Gofal.
9:53
cam gweithredu pedwar
9:55
Cynnal a datblygu rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid, cymunedau a chynhadledd genedlaethol i rannu gwahanol ffyrdd o wella llesiant y gweithlu.
10:05
a cam gweithredu pump - Cynnal gwaith ymchwil ac ymgysylltu, gan gynnwys arolwg annibynnol blynyddol o weithwyr cofrestredig, a defnyddio’r hyn rydym yn ei ddysgu i wella ein dealltwriaeth o sut mae cefnogi llesiant y gweithlu.
10:22
Denu a recriwtio yw’r ail thema ac mae’r strategaeth gweithlu yn disgrifio ein huchelgais i’r sector gofal cymdeithasol fod yn gyflogwr model.
10:32
Yn ystod ein gwaith ymgysylltu, ddaru chi ddweud fod cadw staff yr un mor bwysig â recriwtio.
10:40
Wrth edrych ar weithlu’r dyfodol, mae angen newid canfyddiadau o yrfa yn y maes gofal cymdeithasol ac mae'r naratif am weithio yn y sector angen bod yn bositif.
10:51
Rydych chi eisiau mwy o bwyslais ar weithio gydag ysgolion a cholegau,
10:54
er mwyn i ni allu siarad â phobl ifanc ar ddechrau eu gyrfa.
10:58
Rydych hefyd eisiau dangos i bobl gwerth prentisiaethau fel ffordd o ymuno â’r sector gofal cymdeithasol.
11:06
Roeddech yn cefnogi ein hymdrechion parhaus i gynnal rhaglenni cyn-cyflogaeth, sy’n rhoi sgiliau chwilio am waith â gwell dealltwriaeth o’r sector i’r rhai sy’n cymryd rhan, a fydd, gobeithio, yn helpu i wella lefelau cadw staff.
11:21
Mae angen i ni ddangos bod gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn werth chweil ac yn werthfawr yn gymdeithasol.
11:27
Rydym yn gweithio i’w wneud yn fwy deniadol, drwy wella’r telerau ac amodau cyffredinol a chynnig llwybrau gyrfa glir i’r rheini sydd eisiau datblygu’n ymhellach.
11:38
Rydym eisiau denu amrywiaeth eang o bobl i weithio yn y sector sy’n adlewyrchu’r cymunedau maent yn gweithio ynddynt.
11:45
Rydym hefyd eisiau cefnogi uchelgais Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau, er mwyn i ofal cymdeithasol barhau i fod yn rhan bwysig o’r economi sylfaenol ledled Cymru.
12:01
Mae hyn yn ymestyn i gefnogi gwaith sy’n ymwneud â recriwtio rhyngwladol, wrth i ni edrych mor bell ac eang â phosibl ar gyfer ein gweithlu.
12:11
Rydym yn gwybod bod heriau mawr yn ein gwynebu a bod llawer iawn o waith i’w wneud,
12:15
ond rydym hefyd yn gwybod bod tua 84,000 o bobl yn y sector yma sydd wrth eu bodd efo’i gwaith.
12:21
Maent yn darparu cefnogaeth wych o ddydd i ddydd ac maent yn hyrwyddwyr ac yn bencampwyr go iawn ar gyfer y sector.
12:28
Mae angen i ni eu helpu i deimlo’n falch o’u gwaith a hyrwyddo’r sector fel lle positif i weithio ynddo.
12:36
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi defnyddio’r pencampwyr a’r hyrwyddwyr yma yn ein hymgyrchoedd Gofalwn Cymru i adrodd straeon positif ynghylch pam maent yn gweithio yn y sector.
12:47
Mae’r straeon hyn wedi cael eu rhannu’n eang ac rydym wedi ceisio targedu grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys dynion a siaradwyr Cymraeg.
12:58
Mae’r camau gweithredu ar gyfer Denu a Recriwtio yn cynnwys:
13:02
Cam gweithredu chwech - Darparu ffyrdd clir o ymgysylltu â’r sector, i gefnogi dull cydlynol o ddenu gweithwyr i ofal cymdeithasol.
13:11
Cam gweithredu saith - Datblygu a gweithredu cynlluniau i hyrwyddo gofal cymdeithasol yn barhaus fel gyrfa o ddewis.
13:20
Cam gweithredu wyth - Datblygu ffyrdd o ehangu mynediad at yrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol, gan gynnwys llwybrau i wirfoddolwyr.
13:30
a cam gweithredu naw
13:32
Gwella arferion recriwtio’r sector.
13:36
Y trydydd thema yw Modelau gweithlu di-dor. Mae’r polisi presennol yn nodi’n glir ein bod am ddarparu gofal yn y cartref, neu mor agos at y cartref â phosibl.
13:47
Yn ystod ein gwaith ymgysylltu, roeddech yn glir y dylid canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar y person sy'n cael gofal a chymorth a’u gofalwyr.
13:55
Roeddech yn teimlo y dylid rhoi caniatâd i’r gweithlu ddatblygu a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gweithio ar draws ffiniau proffesiynol.
14:05
Mae gwaith yn mynd rhagddo i benderfynu sut y dylai’r ffyrdd newydd o weithio ar draws ffiniau edrych.
14:11
Ar ôl cadarnhau hyn, gallwn benderfynu ar atebion gweithlu ar gyfer y modelau a’r cynlluniau gwasanaeth newydd yma.
14:18
Mae’n debygol y bydd y newid hwn o ran diwylliant a darparu gwasanaethau yn digwydd gam wrth gam, ac ni fydd newidiadau mawr dros nos.
14:26
Ond, y naill ffordd neu’r llall, mae angen i ni fod yn barod i gefnogi’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol i wneud y trawsnewid hwnnw.
14:35
Gwnaethoch ofyn am ddulliau cydweithredol o ymdrin â phroblemau cyffredin, ond roeddech yn teimlo mai cyfathrebu oedd y rhwystr mwyaf i weithio’n ddi-dor.
14:44
Byddai rhwydweithio mewn mannau diogel, lle gall pobl archwilio a rhannu atebion, yn annog arloesi ac yn hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio,
14:52
ond byddai angen ystyried gweithio di-dor ochr yn ochr â modelau newydd o gomisiynu ar y cyd.
14:59
I oedolion sy’n byw yn ein cymunedau, mae cysylltiad hollbwysig rhwng gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill megis tai
15:06
sy’n caniatáu i unigolion fyw bywydau mor annibynnol â phosibl.
15:11
Mae dulliau newydd megis y rhaglen gofal sylfaenol strategol a gwasanaethau cymunedol integredig yn golygu bod angen i’r gweithlu weithio’n wahanol.
15:21
Ar gyfer plant sy’n agored i niwed, y prif nod bob amser fydd helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd lle bynnag y bo modd.
15:28
Mae hyn yn dibynnu ar weithlu gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol digonol a sefydlog, fel bod teuluoedd yn cael cefnogaeth ystyrlon a chyson.
15:37
Lle nad yw’n bosibl i deuluoedd aros gyda’i gilydd, mae angen amgylchedd diogel a chariadus ar blant a phobl ifanc i’w alw’n gartref, yn ogystal â mynediad at gymorth therapiwtig.
15:48
Mae hyn yn gofyn am weithlu medrus sy’n cynnig parhad er mwyn meithrin perthnasoedd ystyrlon.
15:54
Mae gwaith datblygu sylweddol yn cael ei wneud ar draws sectorau o ran trawsffurfio gwasanaethau plant, gan gynnwys dileu elw, sicrhau bod cynnig eiriolaeth gyson, a gwella rôl y rhiant corfforaethol.
16:06
Mae gwaith eisoes wedi dechrau i ddatblygu rôl asesydd dibynadwy ac i sicrhau bod hyn yn cael ei gefnogi drwy adnoddau a hyfforddiant perthnasol.
16:15
Mae gwaith wedi dechrau hefyd ar wella mynediad at lwybrau dysgu i nyrsio,
16:20
rolau ail-alluogi mewn lleoliadau gofal cymdeithasol a datblygu ymarfer sy’n seiliedig ar drawma.
16:29
Mae’r camau gweithredu ar gyfer Modelau gweithlu di-dor yn cynnwys:
16:33
Cam gweithredu deg - Cyflwyno cynlluniau i gefnogi gweithio ar draws ffiniau iechyd a gofal cymdeithasol.
16:41
Cam gweithredu un deg un - Datblygu ffyrdd o gefnogi gwaith amlbroffesiynol.
16:47
a cam gweithredu deuddeg - Canfod ac ymateb i oblygiadau’r gweithlu o ran gyrwyr polisi a modelau gwasanaeth newydd.
16:57
Adeiladu gweithlu sy’n barod yn ddigidol yw’r bedwaredd thema y strategaeth gweithlu.
17:03
Yn ystod ein gwaith ymgysylltu, fe wnaethoch chi ddweud wrthym fod y pandemig wedi bod yn gyfle i ni wneud cynnydd sylweddol o ran defnyddio technoleg a sgiliau digidol, ac nad ydych chi am i ni golli momentwm.
17:14
Rydych chi eisiau gwneud yn siŵr nad yw rhannau o’r gweithlu wedi’u heithrio’n ddigidol ac rydych chi am i ni fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i fuddsoddi mewn seilwaith a rhaglen datblygu sgiliau.
17:26
Mae angen i ddulliau dysgu drwy lwyfannau digidol fod yn hygyrch, ac mae cyfleoedd dysgu bach yn helpu gyda’r dull yma.
17:33
Mae hyn yn creu mwy o degwch o ran mynediad, yn yr un modd â defnyddio technoleg symudol.
17:39
Roedd y neges yn glir nad yw “un maint yn addas i bawb.”
17:44
Rydym wedi cefnogi’r sector yn y newid i dechnoleg ddigidol, drwy dargedu cynnydd mewn cyllid a datblygu modiwlau dysgu cenedlaethol i wneud yn siŵr bod y cynnwys yn gyson.
17:55
Mae angen gwneud mwy, ond rhaid iddo adlewyrchu anghenion y gweithlu, sy’n amrywio gan nad yw pawb yn defnyddio nac yn cael gafael ar gynnwys digidol yn yr un ffordd.
18:05
Roedd hyn yn glir yn yr ymchwil Symud i Ddysgu Digidol a gynhaliwyd gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth ar ein rhan yn 2020.
18:17
Mae’r camau gweithredu ar gyfer Adeiladu gweithlu sy’n barod yn ddigidol yn cynnwys:
18:23
Cam gweithredu un deg tri
18:25
Gweithredu ffyrdd o wella llythrennedd digidol a hyder y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ehangach yng Nghymru
18:33
Cam gweithredu un deg pedwar
18:35
Creu cyfleoedd i ehangu mynediad at ddysgu a datblygu digidol
18:41
Cam gweithredu un deg pump
18:43
Dysgu pa sgiliau digidol sydd eu hangen i roi modelau gwasanaeth digidol newydd ar waith
18:52
Y pumed thema yw Addysg a dysgu rhagorol ac roedd sicrhau bod cyfleoedd dysgu a datblygu ar gael i fwy o bobl yn thema gyffredin yn yr adborth a gawsom gennych.
19:02
Fe ddywedoch chi wrthym fod cydraddoldeb a chynhwysiant yn bwysig i’r gweithlu nawr ac yn y dyfodol, a bod angen i ni gynnig mwy o gyfleoedd i chi ddysgu Cymraeg a gwella eich sgiliau Cymraeg,
19:13
ynghyd a thrin dysgu, datblygu a datblygiad proffesiynol parhaus gyda’r un lefel o bwysigrwydd â chymwysterau.
19:22
Roedd eich adborth yn dangos i ni pa mor bwysig yw cael llwybrau gyrfa clir sy’n gysylltiedig â dysgu.
19:28
Mae’n bwysig ei bod yn hawdd i chi symud o’r broses o ddysgu a datblygu sgiliau sy’n benodol i’r swydd i gymwysterau mwy ffurfiol.
19:37
Mae hyn yn golygu y dylem ystyried cyfleoedd i chi ddatblygu eich modelau datblygu eich hun, sy’n rhoi’r cyfle i’r gweithlu presennol ddysgu wrth ennill.
19:46
Byddai hyn yn mynd i’r afael â phryderon am y pwysau ariannol sy’n gysylltiedig â dysgu, a’r ddyled sy’n gallu codi gyda rhaglenni dysgu llawn- amser mwy traddodiadol.
19:57
Er mwyn proffesiynoli’r gweithlu gofal cymdeithasol, roeddech chi’n teimlo bod angen mwy o gymorth arnoch i ddatblygu gallu’r sector i asesu ac addysgu ar gyfer pob llwybr galwedigaethol a phroffesiynol.
20:10
Rydym eisoes wedi darparu mwy o gymorth yn rhanbarthol ac yn lleol drwy ein Rhaglen Datblygu’r Gweithlu.
20:17
Mae hyn o ran elfennau grant a heb fod yn grant y rhaglen, ac mae’n canolbwyntio ar lefydd noddedig ar gyfer y radd gwaith cymdeithasol.
20:27
Ynghyd â mwy o fwrsarïau gan Lywodraeth Cymru, rydym yn ceisio gwneud y llwybrau proffesiynol yn fwy hygyrch a deniadol i amrywiaeth eang o ddysgwyr, ond rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy.
20:38
Rydym wedi gwneud llawer o waith i gefnogi’r sector gyda’r cymwysterau galwedigaethol iechyd a gofal cymdeithasol a gyflwynwyd yn 2019 a 2020, ac eleni gwnaethpwyd newidiadau i sut mae lefel 2 a lefel 3 yn cael eu hasesu.
20:54
Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud yn fuan ar gymwysterau lefel 4 a 5.
21:01
Mae’r camau gweithredu ar gyfer addysg a dysgu rhagorol yn cynnwys:
21:06
Cam gweithredu un deg chwech - Gweithio gyda darparwyr addysg i sicrhau bod addysg yn diwallu anghenion y system iechyd a gofal cymdeithasol, a’i fod yn cynnwys rhaglenni a gynigir yn Gymraeg
21:19
Cam gweithredu un deg saith - Parhau i fuddsoddi mewn cynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar werth.
21:33
Cam gweithred un deg wyth - Ei gwneud yn haws i bobl ddechrau gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol drwy gael gwared ar rwystrau a datblygu’r model dysgu seiliedig ar waith.
21:44
a cam gweithredu un deg naw
21:46
Datblygu ffyrdd o wella sgiliau a gwybodaeth y gweithlu.
21:52
Arweinyddiaeth ac Olyniaeth yw chweched thema'r strategaeth gweithlu.
21:57
Yn unol â strategaeth y gweithlu, buom yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i gytuno ar egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol a ‘chwmpawd ymddygiad arweinyddiaeth dosturiol’, sy’n egluro sut mae creu diwylliannau ac arweinwyr tosturiol yn y maes iechyd a gofal.
22:13
Mae’r holl raglenni arwain a datblygu cenedlaethol ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr y maes gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn.
22:24
Yn ystod yr ymgysylltu gyda’r sector roedd hi’n braf clywed cefnogaeth gyffredinol i’r ffordd rydym yn defnyddio ac yn hyrwyddo arweinyddiaeth dosturiol.
22:32
Ond, mae’r gweithlu eisiau i rolau arweinyddiaeth dosturiol gael eu modelu o’r top i’r gwaelod ac maent am gael gofod i ddefnyddio arweinyddiaeth dosturiol, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd o bwysau uchel.
22:45
Roeddech chi hefyd yn teimlo bod angen i ni ganolbwyntio ar greu diwylliant tîm tosturiol sy’n adlewyrchu gwerthoedd arwain ac yn dod o hyd i ffyrdd o wobrwyo pobl nad ydynt eisiau bod yn arweinwyr neu’n rheolwyr ond sydd eisiau parhau i ymarfer.
23:00
Ddaru chi ddweud wrthym eich bod yn meddwl bod datblygu gwefan Gwella yn gadarnhaol iawn ond nid oedd llawer yn gwybod amdan y safle
23:07
ac roedd angen ei farchnata’n well.
23:09
Byddai hyn yn helpu i fanteisio i’r eithaf ar y safle a chreu diwylliant o arweinyddiaeth dosturiol a datblygu sefydliadol.
23:17
Cawsom hefyd lawer o adborth cryf ynghylch yr angen i’r gwaith o gynllunio’r gweithlu lleol gynnwys cynllunio ar gyfer olyniaeth
23:25
manteision datblygu arweinyddiaeth ar y cyd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a ffyrdd trylwyr o fentora rheolwyr ac arweinwyr newydd, gan ganolbwyntio ar lesiant.
23:37
Rydym yn gwybod bod gan sefydliadau gofal cymdeithasol sy’n ymarfer ac sy’n gwreiddio arweinyddiaeth dosturiol ac arweinyddiaeth ar y cyd weithlu mwy ymroddgar, ac mae hyn yn arwain at well canlyniadau iechyd i bobl.
23:50
Er mwyn cael gwasanaeth gofal cymdeithasol cryf, mae angen i ni gael arweinyddiaeth dosturiol ar bob lefel a grwpiau proffesiynol.
24:00
Mae’r camau gweithredu o ran Arweinyddiaeth ac Olyniaeth yn cynnwys, cam gweithredu dau ddeg
24:06
Creu rhaglenni ac adnoddau hygyrch ar gyfer datblygu arweinyddiaeth unigolion a sefydliadau,
24:11
yn seiliedig ar egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol.
24:15
cam gweithredu dau ddeg un
24:17
Datblygu llif rheoli talent ar gyfer rolau arwain.
24:21
a cam gweithredu dau ddeg dau
24:24
Dod o hyd i ffyrdd o gefnogi gwasanaethau i ddatblygu a gwreiddio diwylliannau cadarnhaol.
24:31
Thema olaf y strategaeth gweithlu yw cyflenwad a ffurf y gweithlu. Dylai cynllunio’r gweithlu fod yn swyddogaeth craidd o gyflenwad a galw’r gweithlu yn seiliedig ar gynllunio a modelu gwasanaethau.
24:43
Ond, roeddech yn teimlo nad ydym yn deall ein gweithlu’n ddigon da, na bod gennym y data na’r wybodaeth sy’n ein helpu i gynllunio’r gweithlu yn effeithiol.
24:51
Mae hyn yn cynnwys bod yn hyderus ynghylch y rhagfynegiadau o faint o bobl sydd eu hangen i weithio yn y sector yn y dyfodol, wrth ystyried y galw cynyddol a ddisgwylir am wasanaethau.
25:02
Fe ddywedoch chi wrthym nad niferoedd yn unig sy’n bwysig, ond deall yr hyn y gall pobl ei gynnig ar draws sectorau, gan gynnwys sgiliau a galluoedd, bylchau a dyblygiadau.
25:13
Roeddech yn teimlo bod gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o’r gwaith o gynllunio’r gweithlu, ac mae angen i ni eu cynnwys mwy.
25:19
Mae hyn yn cynnwys darparu cyfleoedd dysgu a datblygu a llwybrau gyrfa i wirfoddolwyr lle bo angen.
25:26
Mae ein hymatebion i faterion sy’n ymwneud â’r gweithlu yn tueddu i fod yn adweithiol ond rydym yn gwybod bod angen darlun clir a chyfredol o’n gweithlu presennol arnom, ac mae angen i ni ddeall yn well pam fod gweithwyr yn newid cyflogwyr neu’n gadael y sector.
25:42
Rydym wedi dechrau cael data mwy cyfredol a manwl am y gweithlu, ond mae hwn yn dal i fod yn waith sydd ar y gweill. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o droi’r data hwnnw’n rhywbeth y gallwn ei ddefnyddio wrth gynllunio’r gweithlu yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
25:58
Nid yw hyn yn ymwneud â chyflogaeth yn unig. Bydd ffyrdd gwell o gynllunio’r gweithlu yn ein helpu i benderfynu sut rydym yn comisiynu gwasanaethau a sut rydym yn comisiynu cyfleoedd addysg a dysgu fel y gallwn recriwtio o’r boblogaeth sy’n bodoli yn barod, yn ogystal â bod a digon o bobl yn y system addysg i ateb gofynion y dyfodol.
26:18
Mae rhoi ar waith y camau gweithredu gweithlu Mwy na geiriau yn cynnwys gwella data sylfaenol am sgiliau yn y Gymraeg fel y medrwn gynllunio ar gyfer gweithlu cynhwysol ac amrywiol.
26:31
Mae’r camau gweithredu o ran Cyflenwad a ffurf y gweithlu yn cynnwys:
26:36
cam gweithredu dau ddeg tri
26:38
Meithrin capasiti a gallu wrth gynllunio a datblygu’r gweithlu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, wedi’i gefnogi gan ddull safonol.
26:48
cam gweithredu dau ddeg pedwar - Datblygu ymatebion y gweithlu ar gyfer gweithwyr proffesiynol a rhannau allweddol o’r sector.
26:56
a cam gweithredu dau ddeg pump - Dysgu beth fyddai Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn ei olygu i'r gweithlu.
27:05
Hoffem gael eich barn am y strategaeth gweithlu ar gyfer gofal cymdeithasol
27:10
Fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad hoffem i chi ystyried y cwestiynau canlynol:
27:16
Ydych chi’n meddwl y bydd y camau gweithredu yn cefnogi uchelgais y strategaeth gweithlu?
27:22
Sut gellir eu cryfhau?
27:24
Pa gamau y mae angen eu hychwanegu?
27:28
Beth mae angen i ni ei ystyried wrth roi’r camau gweithredu ar waith?
27:32
a chynnwys unrhyw sylwadau pellach sydd ganddo’ch
27:37
Yn ogystal â’r gweminar yma mae gennym dudalen we ymgynghori bwrpasol lle gallwch gael mynediad at yr holl wybodaeth berthnasol.
27:46
Os hoffech ddweud eich dweud am y camau gweithredu arfaethedig, mae sawl ffordd i chi ymateb:
27:52
Gallwch gwblhau’r ddogfen ymgynghori a’i anfon yn ôl atom dros e-bost
27:57
Gallwch gwblhau’r ffurflen ymgynghori ar-lein
28:00
Neu gallwch hefyd anfon eich safbwyntiau atom mewn fformat gwahanol os yw’n haws i chi. Er enghraifft, gallwch ysgrifennu atom, anfon fideo neu recordiad sain.
28:10
Os oes angen copi o’r ymgynghoriad arnoch mewn fformat gwahanol neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni
28:18
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw hanner nos, 25 Mehefin 2023.
28:26
Diolch am wrando. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar strategaethgweithlu@gofalcymdeithasol.cymru