Mae bron i dair blynedd wedi mynd heibio ers lansio’r Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac ers hynny, rydym wedi wynebu heriau sylweddol yn sgil pandemig byd eang, argyfwng costau byw, y rhyfel yn Wcráin ac effaith Brexit.
Ond, er gwaethaf yr heriau hyn, mae ein nod yn aros yr un fath, sef cael gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig, ymrwymedig a gwerthfawr gyda’r gallu, y cymhwysedd a’r hyder i ddiwallu anghenion pobl Cymru.
Rydym wedi wynebu heriau sylweddol dros y tair blynedd diwethaf, ond rydym hefyd wedi gwneud cynnydd, fel y gwelwch yn adroddiad blynyddol ein cynllun cyflawni. Ond er y cynnydd hwn, mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn wynebu heriau mawr. Mae’n cael trafferth wrth ddenu pobl i’r sector, recriwtio digon o bobl, a chadw’r gweithlu presennol.
Ochr yn ochr â’r heriau hyn, mae’r gweithlu’n dal i deimlo effaith barhaus y pandemig a’r ymdrechion a wnaed i gadw gwasanaethau i fynd, i gadw pobl yn ddiogel ac i ateb y galw cynyddol. Mae lefelau uwch o straen, blinder a gorweithio yn effeithio ar lesiant staff hefyd, ynghyd ag amodau gweithio gwael tybiedig a diffyg cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol.
Byddwn yn blaenoriaethu’r gwaith o ddatrys y materion hyn sy’n ymwneud â’r gweithlu wrth symud ymlaen. Rhaid i ni weithredu’n gyflym i ddatrys yr heriau sy’n wynebu’r gweithlu presennol a delio â’r mater o ddenu pobl newydd i’r gweithlu. Mae angen i ni greu’r amodau cywir i ganiatáu i bobl ddarparu gwasanaethau o safon.
Ni allwn ddarparu gwasanaethau na chymorth iechyd a gofal cymdeithasol o safon uchel i bobl Cymru heb ein gweithlu, sy’n gweithio fel gwirfoddolwyr neu ofalwyr mewn amrywiaeth o wasanaethau darparwyr statudol, preifat neu wirfoddol. Mae’r holl weithwyr a'r gwirfoddolwyr hyn wedi’u cynnwys yn y strategaeth hwn.
Wrth ddisgrifio’r gweithlu, rydym yn cynnwys gofalwyr maeth, gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl. Mae’r camau rydym yn eu cynnwys, lle bo hynny’n berthnasol, yr un mor berthnasol i’r grwpiau hyn ag ydynt i’r diffiniad mwy traddodiadol o’r gweithlu.
Rydym hefyd am wella gwasanaethau yng Nghymru yn unol â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac uchelgeisiau Cymru Iachach i ddarparu gofal yn nes at adref ac i wella ansawdd y gefnogaeth i blant ac oedolion agored i niwed o bob oed. Roedd y pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar y gweithlu, ond yn fwy difrifol ar draws ein cymunedau, yn enwedig y rheini sy’n dibynnu ar ofal a chymorth o ansawdd da. Rydym nawr yn gweld mwy o bwysau ar y sector yn sgil teuluoedd yn byw mewn tlodi, a mwy o alw oherwydd newidiadau demograffig.
Mae cynllun cyflawni 2023 i 2026 yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma ac mae’n cynnwys datblygiadau sy’n seiliedig ar adborth a gawsom drwy ymgysylltu â’r sector. Mae’n disgrifio’r camau gweithredu a fydd yn helpu i symud y gweithlu yn ei flaen dros y tair blynedd nesaf, ac mae’n cynnwys:
- camau gweithredu newydd, yn seiliedig ar eich adborth
- camau gweithredu presennol a fydd yn parhau gan eu bod yn hanfodol i’n gwaith
- rhan nesaf y gwaith o ddatblygu camau gweithredu blaenorol.
Mae’r camau gweithredu’n adeiladu ar feysydd y gallwn eu datblygu’n effeithiol mewn partneriaeth â’n cydweithwyr ym maes iechyd. Mae’r meysydd cydweithio hyn yn cynnwys llesiant, cynllun y gweithlu iechyd meddwl, arweinyddiaeth, a datblygu’r gweithlu i gefnogi gofal a chymorth integredig.
Mae camau gweithredu’r strategaeth hefyd wedi arwain at ddatblygu cynlluniau gweithlu sector-benodol ar gyfer:
- y gweithlu gofal uniongyrchol
- y proffesiwn gwaith cymdeithasol
- y gweithlu iechyd meddwl, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Mae’r cynlluniau hyn yn helpu i gefnogi nodau’r strategaeth gweithlu ac mae ganddynt gamau gweithredu’n gyffredin, fel dulliau llesiant, denu a recriwtio. Maent hefyd yn cynnwys camau gweithredu sy’n benodol i’r rhan berthnasol o’r sector.