Jump to content
Atodiad A

Cynllun cyflawni Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2023 i 2024, yn cyd-fynd ag uchelgais y strategaeth gweithlu

Gweithlu ymroddgar, brwdfrydig ac iach

Ein huchelgais erbyn 2030

Bydd aelodau’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi lle bynnag y maent yn gweithio.

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2023 a 2026

1. Cefnogi cyflogwyr i flaenoriaethu llesiant y gweithlu yn eu sefydliadau drwy weithredu ac adnewyddu’r Fframwaith iechyd a llesiant.

2. Gweithio at gydraddoldeb, gwobrwyo teg a chydnabyddiaeth drwy’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ac ystyried telerau ac amodau gwaith cymdeithasol dan arweiniad CLlLC.

3. Cefnogi llesiant y gweithlu drwy hyrwyddo a datblygu adnoddau a gwasanaethau llesiant, gan gynnwys Canopi a’r Cerdyn Gweithiwr Gofal.

4. Cynnal a datblygu rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid, cymunedau a chynhadledd genedlaethol i rannu gwahanol ffyrdd o wella llesiant y gweithlu.

5. Cynnal gwaith ymchwil ac ymgysylltu, gan gynnwys arolwg annibynnol o weithwyr cofrestredig, a defnyddio’r hyn rydym yn ei ddysgu i wella ein dealltwriaeth o sut mae cefnogi llesiant y gweithlu.

Denu a recriwtio

Ein huchelgais erbyn 2030

Bydd iechyd a gofal cymdeithasol wedi ennill ei blwyf fel brand cryf y gellir ei adnabod a’r sector o ddewis ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol.

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2023 a 2026

6. Darparu strwythurau ymgysylltu ar gyfer y sector er mwyn cefnogi dull cydlynol o ddenu gweithwyr i ofal cymdeithasol.

7. Datblygu a gweithredu cynlluniau i hyrwyddo gofal cymdeithasol yn barhaus fel gyrfa o ddewis.

8. Datblygu ffyrdd o ehangu mynediad at yrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol, gan gynnwys llwybrau i wirfoddolwyr.

9. Gwella arferion recriwtio’r sector.

Modelau gweithlu di-dor

Ein huchelgais erbyn 2030

Modelau gweithlu amlbroffesiwn ac aml-asiantaeth fydd y norm

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2023 a 2026

10. cyflwyno cynlluniau i gefnogi gweithio ar draws ffiniau iechyd a gofal cymdeithasol.

11. Datblygu ffyrdd o gefnogi gwaith amlbroffesiynol.

12. Nodi ac ymateb i’r ffordd mae gyrwyr polisi a modelau gwasanaeth newydd yn effeithio ar y gweithlu.

Adeiladu gweithlu sy’n barod ar gyfer y byd digidol

Ein huchelgais erbyn 2030

Bydd gallu digidol a thechnolegol y gweithlu wedi’i ddatblygu’n dda ac yn cael ei ddefnyddio’n eang i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosib, er mwyn ein helpu i ddarparu’r gofal gorau posib i bobl.

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2023 a 2026

13. Gweithredu ffyrdd o wella llythrennedd digidol a hyder y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ehangach yng Nghymru.

14. Creu cyfleoedd i ehangu mynediad at ddysgu a datblygu digidol.

15. Dysgu pa sgiliau digidol sydd eu hangen i roi modelau gwasanaeth digidol newydd ar waith.

Addysg a dysgu rhagorol

Ein huchelgais erbyn 2030

Bydd y buddsoddiad mewn addysg a dysgu ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu’r sgiliau a’r gallu sydd eu hangen i ddiwallu anghenion pobl Cymru.

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2023 a 2026

16. Gweithio gyda darparwyr addysg i sicrhau bod addysg yn diwallu anghenion y system iechyd a gofal cymdeithasol, a’i fod yn cynnwys rhaglenni a gynigir yn Gymraeg.

17. Parhau i fuddsoddi mewn cynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar werth.

18. Ei gwneud yn haws i bobl ddechrau gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol drwy gael gwared ar rwystrau a datblygu’r model dysgu seiliedig ar waith.

19. Datblygu ffyrdd o wella sgiliau a gwybodaeth y gweithlu.

Arweinyddiaeth ac Olyniaeth

Ein huchelgais erbyn 2030

Bydd arweinwyr yn y system iechyd a gofal cymdeithasol yn dangos arweinyddiaeth ar y cyd a thosturiol

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2023 a 2026

20. Creu rhaglenni ac adnoddau datblygu arweinyddiaeth hygyrch ar gyfer unigolion a sefydliadau, yn seiliedig ar egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol.

21. Datblygu llif rheoli talent ar gyfer rolau arwain.

22. Dod o hyd i ffyrdd o gefnogi gwasanaethau i ddatblygu a gwreiddio diwylliannau cadarnhaol.

Ffurf a chyflenwad y gweithlu

Ein huchelgais erbyn 2030

Bydd gennym weithlu cynaliadwy gyda digon o bobl i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ein poblogaeth.

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2023 a 2026

Cynllun cyflawni Gofal Cymdeithasol Cymru 2023 i 2024

24. Datblygu ymatebion y gweithlu ar gyfer rhannau allweddol a phroffesiynol o’r sector.

25. Dysgu beth fyddai Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn ei olygu i'r gweithlu.