Jump to content
Cymru Iachach: strategaeth y gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, adroddiad blynyddol 2021 i 2022

Mae'r adroddiad blynyddol yn crynhoi'r prif feysydd cynnydd a gyflawnwyd yn y flwyddyn lawn gyntaf ac yn adeiladu ar y gwaith cychwynnol a wnaed yn syth ar ôl y lansiad y strategaeth.

Cyflwyniad

2021-2022 oedd y flwyddyn weithredol lawn gyntaf ers lansio Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC), yn Hydref 2020 i gefnogi gweithrediad Cymru Iachach. Roedd y flwyddyn gyntaf hon yn cyd-ddigwydd ag un o’r cyfnodau mwyaf anodd mewn cenhedlaeth, gan brofi ac ymestyn adnoddau a systemau iechyd a gofal cymdeithasol.

Roedd hyn ar ben y newidiadau deddfwriaethol a gwleidyddol a oedd yn cynnwys:

  • cyflwyno’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid
  • ymgynghoriad ar y Papur Gwyn Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth
  • etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021 a’r rhaglen lywodraethu yn sgîl hynny.

Mae Covid-19 yn parhau i effeithio ar y sector ac yn cyflwyno newid mawr mewn sawl maes yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, megis sut rydym yn darparu ein gwasanaethau, sy’n cynnwys y cynnydd mewn defnyddio technoleg ddigidol a rhithiol i gynorthwyo ffyrdd newydd o weithio a chefnogi dinasyddion. Mae’n ddiamheuol bod y pandemig Covid-19 wedi cael effaith barhaol ar y ddau sector, a fydd yn parhau i gael effaith am flynyddoedd i ddod. Mewn ymateb rhaid parhau i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar y gweithlu a chyflogwyr drwy weithredu’r ymrwymiadau yn y strategaeth, gyda chyflymder ac egni.

Mae’r edafedd aur o les, yr Iaith Gymraeg a chynhwysiant yn rhedeg ar draws yr holl themâu a’r camau gweithredu ac yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn y newid diwylliannol sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau modern a hanfodol i ateb anghenion pobl Cymru.

Mae materion sicrhau parch cydradd i’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod dan ffocws, ac mae gwaith wedi dechrau ar gydnabod a rhoi sylw i rai o’r heriau sy’n bodoli. Mae’r angen i ni warchod diogelwch a lles ein pobl, yn enwedig y rhai sydd yn y rheng flaen o ddarparu gwasanaeth, yn parhau hyd heddiw, ynghyd â’r angen i roi ffocws pellach ar amrywiaeth ein gweithlu ac ar y sefyllfaoedd bregus a’r problemau ychwanegol a wynebodd rhai pobl, yn enwedig ein cydweithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig. Mae’n cadarnhau manteision adeiladu ar, a datblygu, dull arweinyddiaeth dosturiol ar bob lefel i ddatblygu diwylliant cynhwysol ac amrywiol sy’n adlewyrchu ein cymunedau lleol, lle y mae lles staff yn cael blaenoriaeth a bod pob unigolyn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi fel rhan o garfan iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r prif feysydd cynnydd yn ystod y flwyddyn lawn gyntaf gan adeiladu ar y gwaith cychwynnol a wnaed yn syth ar ôl lansio, a gallwch ddarllen mwy am hynny yma. Mae’n dangos y cynnydd a wnaed ar ein rhaglenni gwaith, a’n gwaith mewn partneriaeth ag AaGIC. Mae’r broses hwn wedi cynorthwyo datblygiad y cynllun darparu newydd ar gyfer 2022 i 2023 sydd ar gael yma.

Yn ystod 2022 i 2023 rydym eisiau cyd-gynhyrchu, gyda’r sector, gynlluniau gweithredu tymor canolig a fydd yn disgrifio sut y gallwn gyd-ddarparu a chyd-fonitro darpariad ac effaith uchelgais cyffredinol y strategaeth.

Gweithlu cyfranodol, iach ac ymroddedig

Gydag AaGIC rydym

  • wedi rhannu arferion da ac adnoddau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol i yrru gwelliannau, gan sicrhau bod cynrychiolwyr or ddau sefydliad ar rwydweithiau iechyd a lles ei gilydd
  • wedi cyfrannu at lansio’r gwasanaeth cymorth iechyd meddwl newydd, ‘Canopi’.

Rydyn ni

  • wedi parhau i ychwanegu at, gwerthuso a diwygio’r ystod o adnoddau lles sydd ar gael ar ein gwefannau ac fel adnoddau y gellir eu prynu’n allanol
  • Wedi parhau i gynnig rhaglenni cymorth staff i weithlu’r sectorau preifat a gwirfoddol
  • wedi cyhoeddi a monitro’r hyn a gyflawnwyd yn erbyn ein cynlluniau cydraddoldeb strategol
  • Wedi cyfrannu at ddatblygu a darparu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil Llywodraeth Cymru
  • wedi datblygu model ar gyfer gweithredu egwyddorion ein fframwaith iechyd a lles gofal cymdeithasol, gan gadarnhau’r hyn a ddisgwylir gan gyflogwyr a’n pobl ein hunain i wella profiad ein staff
  • wedi parhau i hwyluso rhwydwaith lles cymdeithasol ar gyfer partneriaid a rhanddeiliaid
  • wedi parhau i hwyluso grwpiau cyd-gymorth ar gyfer rheolwyr gofal cartref, rheolwyr cartrefi gofal a rheolwyr gofal plant preswyl i wella gwydnwch a lles rheolwyr yn y gweithle
  • wedi parhau i gasglu adnoddau lles at ei gilydd i gefnogi lles a gwydnwch arweinwyr gofal cymdeithasol
  • wedi creu pecyn croeso safonol i bawb sy’n cofrestru o’r newydd
  • wedi parhau i gefnogi’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar i sefydlu ei hun fel fforwm cenedlaethol ac amlsector ar gyfer sefydliadau sy’n helpu i ddatblygu a hybu gweithgareddau / gweithredau lleol er mwyn gwella lles cymunedau ar draws Cymru
  • wedi parhau i gynorthwyo’r sector i weithio’n ddwyieithog drwy ddarparu adnoddau targed i gefnogi’r gweithlu presennol, a gweithlu’r dyfodol, ac wedi cyfrannu at adolygiad Mwy na Geiriau’r grŵp gorchwyl a gorffen
  • wedi parhau i gefnogi hyrwyddo cerdyn gweithiwr gofal a symud at un ateb digidol gyda dau ddarparwr disgownt mawr i gynyddu’r manteision manwerthu sydd ar gael, ac yn unol â’r hyn sydd ar gael yn y GIG
  • wedi parhau i gyfrannu at Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru - gallwch ddysgu mwy am sut y maen nhw’n ceisio gwella amodau gweithio mewn gofal cymdeithasol, a’u cylch gwaith llawn yma
  • Wedi peilota arolwg lles ac ymgysylltu ar gyfer holl weithwyr y sector.

Denu a recriwtio

Gydag AaGIC rydym

  • wedi datblygu cysylltiadau â’r Rhwydweithiau Gyrfaoedd rhwng dulliau gyrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn cyrraedd mwy o bobl
  • wedi creu rhwydwaith ar-y-cyd i rannu arfer da ac adnoddau i sbarduno gwelliannau mewn denu a chadw staff ar draws y sectorau
  • wedi datblygu mwy ar yr adnodd Careersville yn ogystal â thargedu ysgolion a dysgwyr coleg yn ystod yr ymgyrch brentisiaeth.

Rydyn ni

  • wedi creu cynlluniau targed ar gyfer proffesiynau sy’n wynebu prinder, a meysydd anodd recriwtio iddynt, megis gofal cartref
  • wedi parhau i hyrwyddo prentisiaethau fel dewis gyrfa hyfyw ar gyfer ymuno ac aros yn y sector, gan gynnwys drwy ymgyrch tair wythnos ar y teledu a chyflwyno prentisiaid o’r sector
  • wedi parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol fel yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru, a chyrff dyfarnu (City & Guilds a CBAC) i gryfhau’r cysylltiadau rhwng pobl sy’n chwilio am waith a gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol
  • wedi darparu rhaglenni hyfforddiant sy’n hyrwyddo adnoddau a dulliau denu a recriwtio ar sail gwerthoedd
  • wedi lansio adnoddau ar gyfer ysgolion i hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol
  • wedi parhau i ariannu’r swyddi cysylltydd gyrfaoedd gofal yn y saith rhanbarth
  • wedi gwerthuso cyflwyniad y rhaglen beilot gofal cymdeithasol
  • wedi sicrhau cyllid i gynnig y cyflwyniad i’r rhaglen gofal cymdeithasol ar draws Cymru
  • wedi partneru â City & Guilds i gefnogi eu rhaglen pontio sgiliau a chyfeirio ymlaen at wefan Gofalwn.cymru fel rhan o’r dull
  • wedi parhau i ddatblygu gwefan Gofalwn Cymru, gan gynnwys darparu adnoddau penodol a chymorth i gyflogwyr
  • wedi cyfrannu at barhau i ddatblygu’r porth swyddi gan wella profiad y defnyddiwr i gyflogwyr a phobl sy’n chwilio am waith
  • wedi parhau i roi’r neges ein bod ‘wastad yma’ wrth redeg ymgyrchoedd recriwtio yn y cyfryngau.

Modelau gweithio di-dor

Gydag AaGIC rydym

  • wedi gweithio gyda phartneriaid i ehangu’r hyfforddiant i weithwyr iechyd mewn cartrefi gofal drwy swyddi hwyluswyr addysg cartrefi gofal
  • wedi datblygu cynllun gweithlu i gyd-fynd â Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, gan ganolbwyntio ar y blaenoriaethau cynnar ar gyfer CAMHS a gwasanaethau seicoleg glinigol ac ‘amenedigol’
  • wedi symud ymlaen i weithredu’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid
  • wedi cyhoeddi gwerthusiad o gynllun peilot cynefino iechyd a gofal cymdeithasol ar-y-cyd Hywel Dda, a rhannu gwersi a ddysgwyd.

Rydyn ni

  • wedi datblygu cynllun gweithlu i’r gweithlu gofal uniongyrchol
  • wedi cyfrannu at ddatblygu safonau cynefino ar gyfer gwirfoddolwyr
  • wedi datblygu cynllun gweithlu i’r proffesiwn gwaith cymdeithasol, gan gynnwys fframwaith ôl-gymhwyso newydd
  • wedi sefydlu Rhwydwaith Ymarferwyr Iechyd Meddwl Arweiniol Cymeradwy Cymru-Gyfan i rannu arfer da ac adnoddau i helpu i wella a datblygu’r rôl
  • wedi cyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Gweithredu Strategol Anableddau Dysgu fel rhan o’n rôl ar y Grŵp Cynghori Gweinidogol.

Creu gweithlu digidol-barod

Gydag AaGIC rydym

  • wedi datblygu hyfforddiant digidol ar Atal a Rheoli Haint (IPC).

Rydyn ni

  • wedi cefnogi datblygu sgiliau digidol gwell ar draws ein gweithlu
  • wedi parhau i ddatblygu adnoddau dysgu digidol
  • wedi lansio llwyfan dysgu digidol ac wedi profi cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant unwaith i Gymru, gan gynnwys diogelu, lles a phecyn sgwrsio am les, ayyb
  • wedi monitro darparu blaenoriaeth genedlaethol i gyflwyno dulliau digidol drwy Grant Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer 22021 i 2022
  • wedi dechrau ymchwil i ddeall y symud tuag at ddulliau dysgu digidol wrth ddarparu dysgu a datblygu.

Addysg a dysgu rhagorol

Gydag AaGIC rydym

  • wedi gweithio gyda’r City & Guilds i rannu gwybodaeth a data ar effaith Covid-19 ar ddarparu ac ennill cymwysterau galwedigaethol.

Rydyn ni

  • wedi gweithio gyda phartneriaid i gynnig mwy o gyfleoedd i ddysgwyr gael derbyn eu haddysg a’u hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg
  • wedi ehangu cyfleoedd ar gyfer dysgu seiliedig ar waith (WBL) a phrentisiaethau fel dewisiadau gyrfa hyfyw i ymuno ac aros yn y sector
  • wedi diwygio a diweddaru’r canllawiau lleoliad ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr
  • wedi arwain ar ddatblygu rhaglen ddysgu i gefnogi gweithrediad y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid
  • wedi monitro’r nifer sy’n astudio a darpariaeth y cymwysterau Lefel 2 a 3 newydd ac wedi cefnogi gweithrediad y cymwysterau Lefel 4 a 5 newydd
  • wedi cefnogi’r sector i weld sut y gellir datblygu’r cymwysterau ymarfer ymhellach er mwyn ateb anghenion dysgwyr
  • wedi cefnogi gweithrediad parhaus y cymwysterau Lefel 2 a 3 drwy gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu i gyflogwyr a digwyddiadau cyfnewid arferion gorau
  • wedi cefnogi gweithrediad a faint sy’n defnyddio’r fframweithiau prentisiaeth Lefel 4 a 5 diwygiedig
  • wedi cynnal a datblygu Rhwydwaith Mentoriaid Cymru-Gyfan ar gyfer ymarfer sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
  • wedi lansio adnodd dysgu digidol ar ddiogelu
  • wedi dechrau gweithio ar ddatblygu fframwaith hyfforddiant diogelu sy’n seiliedig ar safonau cenedlaethol
  • wedi diwygio’r adnodd ‘arferion cyfyngol’ mewn gofal cymdeithasol, a dechrau trafod datblygu adnodd dysgu digidol i gyd-fynd â’r canllawiau
  • wedi gweithio gyda Cymwysterau Cymru, City & Guilds, CBAC ac AaGIC i rannu gwybodaeth am effaith Covid-19 ar ddarparu ac ennill cymwysterau galwedigaethol, ac wedi cydweithredu ar gyflwyno mesurau lliniaru ac addasiadau fel bod dysgwyr yn gallu symud ymlaen at ennill cymwysterau
  • wedi cwblhau adolygiad o’r ffrydiau cyllido sy’n cefnogi datblygu’r gweithlu, gan gynnwys y grant SCWWDP
  • wedi rhoi cymorth parhaus i fyfyrwyr-weithwyr cymdeithasol o’r cam hyfforddiant cymhwyso i’r cam cyflogaeth, gan gynnwys adolygu’r trefniadau cyllido ar gyfer hyfforddiant cymhwyso ac ôl-gymhwyso
  • wedi adolygu’r fframwaith cymhwyso i ystyried y gwahanol lefelau darpariaeth a chyllid
  • wedi datblygu fframwaith dysgu ôl-gymhwyso i weithwyr cymdeithasol
  • wedi cefnogi darparu fframwaith cynefino i reolwyr gofal cymdeithasol
  • wedi datblygu gweithlyfrau manwl ar gyfer Fframwaith Cynefino Cymru-Gyfan, ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
  • wedi cefnogi datblygu adnoddau ar gyfer y cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol
  • wedi datblygu fframwaith cymwyseddau ar gyfer gweithwyr Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
  • wedi cefnogi datblygu fframwaith cymwyseddau ar gyfer gweithwyr eiriolaeth wedi parhau i hyrwyddo’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ofalwyr sydd ar gael i weithwyr cymdeithasol.

Arweinyddiaeth ac olyniaeth

Gydag AaGIC rydym

  • wedi lansio’r egwyddorion ar gyfer arweinyddiaeth dosturiol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn cael diffiniad, dealltwriaeth ac iaith gyffredin o ran sut beth yw arweinyddiaeth dosturiol ar draws y ddau sector yng Nghymru, ac wedi datblygu cynnwys ymgysylltu ar-lein ar gyfer arweinyddiaeth dosturiol i ‘amlygu’ egwyddorion a themâu perthnasol.

Rydyn ni

  • wedi parhau i fuddsoddi mewn datblygu arweinwyr tosturiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol
  • wedi cyhoeddi tudalen ‘arweinyddiaeth dosturiol’ ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru
  • wedi parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni arweinyddiaeth penodol ar gyfer penaethiaid gwasanaeth proffesiynol a chyfarwyddwyr statudol sy’n gyfrifol am ofal cymdeithasol, gan gynnwys cymwysterau TMDP a MMDP, gyda rhaglenni datblygu pwrpasol yn eu lle ar gyfer cyfarwyddwyr ac is-gyfarwyddwyr gwasanaeth a’r gweithlu
  • wedi gweithio gyda’r trydydd sector i ddatblygu ‘cynnig’ arweinyddiaeth dosturiol mewn gofal cymdeithasol
  • wedi cefnogi rhwydweithiau rheolwyr gofal cymdeithasol cofrestredig mewn gwasanaethau preifat, gwirfoddol a chyhoeddus i wella lles a chynnal gwydnwch
  • wedi parhau i gefnogi hyrwyddo a gweithredu’r cymwysterau Lefel 4 a 5 newydd, gan gynnwys y llwybrau prentisiaeth cysylltiedig
  • wedi parhau i ddarparu rôl arweinyddiaeth mewn datblygu a hyrwyddo gweithio’n ddwyieithog
  • wedi cyfrannu ac ymateb i adolygiad Llywodraeth Cymru o gynllun gweithredu’r fframwaith Mwy na Geiriau, gan gynnwys yr is-grŵp datblygu’r gweithlu
  • wedi cyhoeddi adnodd ‘camau cyntaf i reolwyr’ wedi cyhoeddi adnodd goruchwylio effeithiol.

Cyflenwad a siâp y gweithlu

Gydag AaGIC rydym

  • wedi datblygu cynllun gweithlu ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl.

Rydyn ni

  • wedi cyfrannu at ddatblygu safonau cynefino ar gyfer gwirfoddolwyr
  • wedi lansio’r model diwygiedig o gasglu data gweithlu, gan ddefnyddio’r dangosfwrdd cyflogwyr newydd
  • wedi parhau i addasu dulliau casglu data i sicrhau bod data trylwyr ar gael a bod mwy o ddata ar iaith a tharddiad ethnig yn cael ei adrodd
  • wedi parhau i gefnogi’r gweithlu cartrefi gofal i gofrestru’n wirfoddol
  • wedi datblygu cynlluniau gweithlu ar gyfer y gweithlu gofal uniongyrchol a’r proffesiwn gwaith cymdeithasol
  • wedi darparu adroddiadau data i ddeall proffil y gweithlu’n well, fel bod gwybodaeth ar gael i wneud penderfyniadau effeithiol, e.e. proffilio nyrsys gofal cymdeithasol, cyfraddau trosiant mewn meysydd allweddol fel gwaith cymdeithasol a gofal cartref
  • wedi cyflawni adolygiad llawn o grant Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru
  • wedi darparu cyllid ychwanegol, drwy’r grant hwyluso rhanbarthol, i fwy o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol a noddir.

Casgliad yr adroddiad

Wrth i ni edrych tuag at 2022 i 2023, mae’n anochel y bydd mwy o newid a heriau o’n blaenau wrth i ni barhau i weld effaith y pandemig. Bydd rhain yn ynnwys pharhad y rhaglen frechu a dileu’r cyfyngiadau ar symud, a dychwelyd at systemau gweithredu mwy normal mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Er mwyn gwireddu uchelgais y strategaeth 10 mlynedd, bydd angen cydweithrediad rhagorol ac ymroddedig parhaus ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, a rhwng cyrff lleol a chenedlaethol drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Mae’r gwaith a wnaed ers lansio’r strategaeth, sy’n gysylltu’n glir i’r saith thema allweddol ac yn ategu edafedd aur y strategaeth, wedi creu momentwm y gallwn adeiladu arno yn y dyfodol, yn unol â’n dyheadau a’n hamcanion mwy hirdymor a fydd yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i ateb yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn 2022 i 2023.

Rydym yn parhau i adolygu’r strategaeth i sicrhau bod yr uchelgais a’r gweithredau’n parhau i fod yn berthnasol tra’n cydnabod bod yr adroddiad hwn yn trafod y meysydd sydd angen prysuro i weithredu arnynt er mwyn cwrdd â heriau taer iawn yn y sectorau.

Gyda hyn mewn golwg, mae gwaith wedi parhau ar gryfhau’r gwaith o gyd-lywodraethu’r strategaeth a bydd gwaith pellach yn cael ei wneud yn 2022 i 2023, drwy roi cynlluniau yn eu lle i weithio â’r sector i loywi a moderneiddio’r strategaeth i fod yn barod am yr adolygiad ffurfiol cyntaf yn 2023. Bydd hyn yn cwrdd ag un o’r egwyddorion sylfaenol gwreiddiol y byddai’r strategaeth yn ddogfen fyw a deinamig fydd yn parhau i ddangos y ffordd i’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Medi 2022

Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Medi 2022
Diweddariad olaf: 20 Mawrth 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (71.8 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch