Jump to content
Newidiadau arfaethedig i'r Codau Ymarfer Proffesiynol

Rydyn ni wrthi’n diweddaru ein Codau Ymarfer Proffesiynol, a hoffwn ni gael eich barn am ein newidiadau arfaethedig.

Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben hanner dydd, 17 Rhagfyr 2024.

Newidiadau arfaethedig i’r Cod Ymarfer Proffesiynol i weithwyr

Beth yw’r Cod Ymarfer Proffesiynol i weithwyr?

Mae’r cod yn rhestr o ddatganiadau sy’n disgrifio’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sy’n ofynnol gan bobl sy’n gweithio yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’n adnodd i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddeall sut beth ydy ymddygiad ac ymarfer da.

Mae'r cod hefyd yn rhan o’r pecyn ehangach o ddeddfwriaeth, safonau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau cyflogwyr y mae’n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol eu dilyn.

Os oes pryder bod gweithiwr gofal cymdeithasol wedi torri rhan o’r cod, gellir ei atgyfeirio at dîm addasrwydd i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae’r tîm addasrwydd i ymarfer yn ymchwilio i bryderon ynghylch gweithwyr cofrestredig i sicrhau bod ganddynt y sgiliau, y wybodaeth a’r cymeriad i wneud eu gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol.

Gallwch weld y cod presennol yma.

I bwy mae’n berthnasol?

Mae’r Cod Ymarfer Proffesiynol i weithwyr yn berthnasol i bawb sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • gweithwyr cymdeithasol
  • gweithwyr gofal cartref
  • gweithwyr cartref gofal
  • gweithwyr gofal preswyl i blant
  • rheolwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Mae rhestr lawn o bwy sydd angen cofrestru gyda ni ar gael ar ein gwefan.

Ond mae’r cod hefyd yn berthnasol i weithwyr gofal cymdeithasol eraill, fel cynorthwywyr personol, nad oes rhaid iddynt gofrestru gyda ni. Mae’n nodi safonau ymddygiad a’r ymarfer a ddisgwylir gan y proffesiynau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn gweithio yn ôl y safonau yn y cod. Mae’n rhaid i’w hymddygiad a’u hymarfer gyrraedd y safonau bob amser.

I unigolion sy’n derbyn gofal neu i aelodau o’r cyhoedd, bydd y cod yn eich helpu i ddeall sut dylai gweithiwr gofal cymdeithasol ymddwyn tuag atoch a sut dylai cyflogwyr eu helpu i weithio’n dda.

Beth mae’r Cod Ymarfer Proffesiynol i weithwyr yn ei gynnwys?

Mae saith adran i’r Cod Ymarfer Proffesiynol i weithwyr y mae’n rhaid i weithwyr gydymffurfio â nhw, sef:

  1. Parchu safbwyntiau a dymuniadau, a hyrwyddo hawliau a buddiannau, unigolion a gofalwyr
  2. Gwneud popeth gallaf i sefydlu a chynnal ymddiriedaeth a hyder unigolion a gofalwyr
  3. Hyrwyddo llesiant, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr, wrth eu cefnogi i gadw’n ddiogel
  4. Helpu unigolion a’u gofalwyr i beidio â niweidio eu hunain na phobl eraill, gan barchu eu hawliau a’u dewisiadau ar yr un pryd
  5. Ymddwyn mewn ffordd sy’n cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol, p’un ai fy mod yn y gwaith neu’r tu allan i’r gwaith, ar-lein neu wyneb yn wyneb
  6. Bod yn atebol ac yn gyfrifol am ansawdd fy ngwaith ac am gynnal a datblygu fy ngwybodaeth a fy sgiliau
  7. Yn ogystal ag adrannau 1 i 6, os ydw i’n gyfrifol am reoli neu arwain staff, rhaid i mi wreiddio’r Cod yn eu gwaith.

Canllawiau ymarfer i weithwyr gofal cymdeithasol

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn ni’n cyhoeddi canllawiau ymarfer newydd ac wedi’u diweddaru ar ein gwefan. Byddwn yn gwneud hyn ar yr un pryd â chyhoeddi’r codau newydd, diwygiedig.

Wrth i chi ystyried pob adran, rhowch wybod i ni beth fyddai’n ddefnyddiol i ni eu cynnwys mewn canllawiau ymarfer i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i weithio yn unol â’r cod. Gallwch hefyd roi gwybod i ni beth yw’r ffordd hawsaf i chi gael gafael ar y canllawiau hynny, er enghraifft ar wefan. Gallwch gynnwys y wybodaeth hon yn y blwch ‘unrhyw sylwadau eraill’.

Beth sydd wedi newid ym mhob adran

Adran 1: Parchu safbwyntiau a dymuniadau, a hyrwyddo hawliau a buddiannau unigolion a gofalwyr.

Y prif newid rydyn ni wedi’i wneud i’r adran hon o’r cod yw tynnu geiriau ac ymadroddion diangen. Rydyn ni hefyd wedi symud rhywfaint o’r adran hon i adrannau eraill o’r cod i’w gwneud yn fwy perthnasol.

Rydyn ni wedi:

  • newid ‘rhaid i chi’ i ‘rhaid i mi’, i’w gwneud hi’n gliriach i weithwyr eu bod yn gyfrifol am weithio yn unol â’r cod
  • rhoi rhagor o bwyslais ar hawliau’r unigolyn a gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • rhoi rhagor o bwyslais ar herio a rhoi gwybod am wahaniaethu, ac ar hawl bobl i gael gofal yn yr iaith o’u dewis
  • symud y datganiad am ddewis a rheolaeth i unigolion i adran 3.
Geiriad newydd ar gyfer adran 1

Rhaid i mi barchu safbwyntiau a dymuniadau unigolion, eu gofalwyr a fy
nghyd-weithwyr, a hybu eu hawliau a’u buddiannau.

Rhaid i mi:

1.1 gweithio gydag unigolion a rhoi cymorth iddynt mewn ffyrdd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac sy’n parchu eu hurddas, eu preifatrwydd a’u diwylliant

1.2 parchu, cefnogi a hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a pheidio â gwahaniaethu’n anghyfreithlon neu’n anghyfiawn yn erbyn unigolion, gofalwyr, cyd-weithwyr na phobl eraill

1.3 herio a rhoi gwybod am unrhyw wahaniaethu, ac amddiffyn hawliau unigolion, eu gofalwyr, eu teuluoedd a fy nghyd-weithwyr

1.4 helpu unigolion a gofalwyr i fynegi eu barn a’u dewisiadau gan ddefnyddio’r dull a’r iaith o’u dewis.

Cwestiynau i’w hateb

1a) Ydy adran 1 glir ac yn hawdd ei deall? (Ydy neu Nac ydy)

1b) Oes unrhyw beth ar goll neu yno’n ddiangen?

1c) Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod, ei gwblhau a'i ddychwelyd i ni.

Adran 2: Sefydlu a chynnal ymddiriedaeth a hyder unigolion a gofalwyr

Y prif newid rydyn ni wedi’i wneud i’r adran hon o’r cod yw tynnu geiriau ac ymadroddion diangen. Rydyn ni hefyd wedi cyfuno rhai adrannau i wneud y disgwyliadau’n gliriach.

Rydyn ni wedi:

  • newid ‘rhaid i chi’ i ‘rhaid i mi’, i’w gwneud hi’n gliriach i weithwyr eu bod yn gyfrifol am weithio yn unol â’r cod
  • symud y datganiad am ddewis iaith i adran 1
  • cryfhau adran 2.3 i wneud y gofynion diogelu data yn gliriach
  • cryfhau’r geiriad ynghylch ffiniau proffesiynol a rhoddion (datganiad 2.5) i’w gwneud hi’n gliriach bod angen i weithwyr esbonio’r rheolau i’r unigolion a’r teuluoedd sy’n cael gofal a chymorth ganddyn nhw.
Geiriad newydd adran 2

Rhaid i mi wneud popeth y gallaf i sefydlu a chynnal ymddiriedaeth a hyder unigolion a gofalwyr.

Rhaid i mi:

2.1 bod yn onest ac yn ddibynadwy

2.2 cyfathrebu mewn ffordd briodol, agored, gywir a syml

2.3 parchu gwybodaeth gyfrinachol a dim ond ei rhannu mewn ffyrdd sydd wedi’u cymeradwyo gan fy nghyflogwr

2.4 peidio â chamddefnyddio ymddiriedaeth unigolion a gofalwyr, na’r mynediad sydd gennyf at eu gwybodaeth bersonol, eu heiddo, eu cartref na’u gweithle

2.5 esbonio’n glir y polisïau ynghylch cyfrinachedd, ffiniau proffesiynol a derbyn rhoddion i unigolion, teuluoedd a gofalwyr, a’u dilyn bob amser

2.6 bod yn ddibynadwy, gwneud yr hyn rwyf wedi cytuno i’w wneud ac os nad ydy hynny’n bosib, esbonio pam i unigolion a gofalwyr

2.7 cydnabod a bod yn agored pan fydd effaith ar fy muddiannau yn fy ngwaith, a chymryd camau i sicrhau nad ydynt yn dylanwadu ar fy marn neu ymarfer proffesiynol.

Cwestiynau i’w hateb

2a) Ydy adran 2 glir ac yn hawdd ei deall? (Ydy neu Nac ydy)

2b) Oes unrhyw beth ar goll neu yno’n ddiangen?

2c) Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod, ei gwblhau a'i ddychwelyd i ni.

Adran 3: Hyrwyddo llesiant, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr, wrth eu cefnogi i gadw’n ddiogel.

Y prif newid rydyn ni wedi’i wneud i’r adran hon o’r cod yw newid neu dynnu geiriau ac ymadroddion aneglur. Rydyn ni hefyd wedi cyfuno llawer o’r datganiadau presennol i wneud y cysylltiadau rhyngddynt yn gliriach.

Rydyn ni wedi cynnwys datganiad newydd yn 3.3 i’w gwneud hi’n glir bod gan bobl yr hawl i wneud eu penderfyniadau a’u dewisiadau eu hunain.

Rydyn ni wedi tynnu:

  • y datganiad yn 3.4, ‘cydnabod a defnyddio’n sensitif a chyfrifol y pŵer a ddaw o’ch gwaith gydag unigolion a gofalwyr’, gan ei bod hi’n anodd cael tystiolaeth o hyn, felly mae’n well ei gynnwys yn y canllawiau
  • y datganiad yn 3.9, ‘tynnu sylw eich cyflogwr neu’r awdurdod priodol at anawsterau yn ymwneud ag adnoddau neu anawsterau gweithredol a allai rwystro darpariaeth gofal a chymorth cymdeithasol diogel’, gan ei fod wedi’i ddyblygu yn adran 6.
Geiriad newydd adran 3

Rhaid i mi hybu llesiant, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr, a’u helpu i gadw’n ddiogel.

Rhaid i mi

3.1 gweithio gydag unigolion a rhoi cymorth iddynt mewn ffyrdd sy’n hybu eu llesiant a’u diogelwch

3.2 helpu unigolion a gofalwyr i godi pryderon neu gwyno, a chymryd cwynion o ddifrif, gan ddilyn y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol

3.3 gweithio gydag unigolion a rhoi cymorth iddynt mewn ffyrdd sy’n cynyddu eu gallu i wneud penderfyniadau a’u rheolaeth dros eu bywyd eu hunain

3.4 gweithio gyda chyd-weithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i hybu llesiant, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr, gan ddefnyddio systemau a gweithdrefnau y cytunir arnynt i rannu gwybodaeth pan fo angen

3.5 herio neu roi gwybod am bryderon, fel ymddygiad neu ymarfer anniogel neu beryglus, neu sy’n cam-drin, yn camfanteisio neu’n gwahaniaethu.

Cwestiynau i’w hateb

3a) Ydy adran 3 glir ac yn hawdd ei deall? (Ydy neu Nac ydy)

3b) Oes unrhyw beth ar goll neu yno’n ddiangen?

3c) Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod, ei gwblhau a'i ddychwelyd i ni.

Adran 4: Helpu unigolion a’u gofalwyr i beidio â niweidio eu hunain na phobl eraill, gan barchu eu hawliau a’u dewisiadau ar yr un pryd

Y prif newid rydyn ni wedi’i wneud i’r adran hon o’r cod yw newid rhywfaint o eiriau ac ymadroddion i wneud pethau’n gliriach.

Rydyn ni wedi:

  • newid ‘rhaid i chi’ i ‘rhaid i mi’, i’w gwneud hi’n gliriach i weithwyr eu bod yn gyfrifol am weithio yn unol â’r cod
  • rhoi pwyslais cliriach ar gymryd risgiau cadarnhaol yn y datganiad yn 4.1
  • cynnwys datganiad newydd yn yr adran hon ynghylch diogelu (4.2).
Geiriad newydd adran 4

Rhaid i mi helpu unigolion a’u gofalwyr i beidio â niweidio eu hunain na phobl eraill drwy eu hymddygiad, gan barchu eu hawliau a’u dewisiadau ar yr un pryd.

Rhaid i mi:

4.1 gweithio gydag unigolion a gofalwyr i gydbwyso risgiau â’u hawliau a’u dewisiadau personol

4.2 dilyn y polisïau a’r gweithdrefnau diogelu perthnasol wrth weithio gydag unigolion a gofalwyr

4.3 dilyn polisïau a gweithdrefnau asesu risg i asesu a yw ymddygiad unigolion a gofalwyr yn peri risg o niwed iddyn nhw eu hunain neu i bobl eraill

4.4 cymryd y camau gofynnol i leihau’r risg y bydd ymddygiad unigolion a gofalwyr yn achosi niwed, neu’n achosi niwed o bosib, iddyn nhw eu hunain neu i bobl eraill

4.5 sicrhau bod cyd-weithwyr ac asiantaethau perthnasol yn cael gwybod am ganlyniadau a goblygiadau asesiadau risg. 

Cwestiynau i’w hateb

4a) Ydy adran 4 glir ac yn hawdd ei deall? (Ydy neu Nac ydy)

4b) Oes unrhyw beth ar goll neu yno’n ddiangen?

4c) Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod, ei gwblhau a'i ddychwelyd i ni.

Adran 5: Cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol, p’un ai fy mod yn y gwaith neu’r tu allan i’r gwaith, ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Y prif newid rydym wedi’i wneud i’r adran hon o’r cod yw tynnu geiriau ac ymadroddion diangen, cyfuno rhai adrannau a thynnu datganiadau sy’n cael eu dyblygu mewn adrannau eraill o’r cod.

Mae’r adran hon nawr yn cyfeirio’n benodol at bwysigrwydd bod yn broffesiynol ar-lein, er enghraifft ar gyfryngau cymdeithasol.

Rydyn ni wedi:

  • tynnu cyfeiriadau at wahaniaethu, gan fod hyn yn cael sylw yn adran 1 bellach
  • newid ‘rhaid i chi’ i ‘rhaid i mi’, i’w gwneud hi’n gliriach i weithwyr eu bod yn gyfrifol am weithio yn unol â’r cod. Mae gan yr adran hon gymysgedd o ddatganiadau ‘rhaid i mi’ a ‘rhaid i mi beidio’.
Geiriad newydd adran 5

Rhaid i mi ymddwyn gydag uniondeb ac mewn ffordd sy’n cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol, p’un ai fy mod yn y gwaith neu’r tu allan i’r gwaith, ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Rhaid i mi

5.1 peidio â cham-drin, esgeuluso, niweidio, manteisio na chamfanteisio ar unigolion, gofalwyr neu gyd-weithwyr

5.2 cynnal ffiniau proffesiynol ag unigolion, eu teuluoedd a’u gofalwyr bob amser

5.3 peidio â meithrin perthynas bersonol amhriodol ag unigolion, eu teuluoedd na’u gofalwyr

5.4 rhoi gwybod i fy nghyflogwr am unrhyw faterion a allai achosi gwrthdaro rhwng buddiannau a chymryd camau i sicrhau nad ydynt yn dylanwadu ar fy ymarfer

5.5 peidio â thorri’r gyfraith a deall y byddai gwneud hynny yn gallu codi amheuaeth ynghylch fy addasrwydd i ymarfer

5.6 rhoi gwybod i fy nghyflogwr ac i Gofal Cymdeithasol Cymru os byddaf yn cael fy arestio neu fy nghyhuddo o drosedd

5.7 osgoi achosi risg ddiangen i fi fy hun ac i bobl eraill

5.8 peidio ag ymddwyn mewn ffordd a allai godi amheuaeth ynghylch fy addasrwydd i ymarfer yn y proffesiwn gofal cymdeithasol, a hynny yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith, ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Cwestiynau i’w hateb

5a) Ydy adran 5 glir ac yn hawdd ei deall? (Ydy neu Nac ydy)

5b) Oes unrhyw beth ar goll neu yno’n ddiangen?

5c) Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod a'i lenw mewn a'i ddychwelyd i ni.

Adran 6: Bod yn atebol ac yn gyfrifol am ansawdd fy ngwaith ac am gynnal a gwella fy ngwybodaeth a fy sgiliau.

Y prif newid rydyn ni wedi’i wneud i’r adran hon o’r cod yw tynnu geiriau ac ymadroddion diangen, a chyfuno rhai adrannau i wneud pethau’n gliriach.

Rydyn ni wedi:

  • newid ‘rhaid i chi’ i ‘rhaid i mi’, i’w gwneud hi’n gliriach i weithwyr eu bod yn gyfrifol am weithio yn unol â’r cod
  • rhannu adran 6.1 yn ddau ddatganiad ar wahân:
  • 6.1 darllen, deall a chyrraedd safonau ymarfer ac ymddygiad perthnasol
  • 6.2 dilyn gweithdrefnau yn gywir a gweithio mewn ffordd gyfreithlon, ddiogel ac effeithiol bob amser
  • cynnwys datganiad newydd ar oruchwyliaeth (6.8).
Geiriad newydd adran 6

Rhaid i mi fod yn atebol ac yn gyfrifol am safon fy ngwaith ac am gynnal a gwella fy ngwybodaeth a fy sgiliau.

Rhaid i mi

6.1 darllen, deall a bodloni polisïau, gweithdrefnau a safonau ymarfer ac ymddygiad perthnasol

6.2 dilyn gweithdrefnau yn gywir a gweithio mewn ffordd gyfreithlon, ddiogel ac effeithiol bob amser

6.3 cadw cofnodion clir a chywir

6.4 rhoi gwybod i fy nghyflogwr neu i ymarferydd perthnasol arall am unrhyw anawsterau sy’n effeithio ar fy ngallu i wneud fy swydd yn ddigonol ac yn ddiogel

6.5 gofyn am gymorth gan fy nghyflogwr neu berson perthnasol arall os nad ydw i’n gallu cyflawni unrhyw agwedd ar fy ngwaith, neu os ydw i’n ansicr sut mae gwneud hynny

6.6 bod yn agored ac yn onest gyda phobl os aiff pethau o chwith, gan roi esboniad llawn a phrydlon, a chydweithredu ag unrhyw ymchwiliad i fy ymarfer gan fy nghyflogwr, Gofal Cymdeithasol Cymru neu unrhyw gyrff priodol eraill

6.7 mynd ar drywydd dysgu a datblygu perthnasol i gynnal a gwella fy ngwybodaeth a fy sgiliau i sicrhau fy modd yn addas i ymarfer

6.8 cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth i fyfyrio ar fy ymarfer ac i weld ble gallaf wella fy ngwybodaeth a fy sgiliau

6.9 gweithio’n agored ac yn gydweithredol â chyd-weithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, gan roi cymorth iddynt os gallaf

6.10 deall fy mod yn gyfrifol am waith rydw i’n ei ddirprwyo i weithwyr eraill

6.11 cydweithredu ag ymchwiliadau i fy ymarfer, neu i ymarfer pobl eraill, a hynny gan fy nghyflogwr, Gofal Cymdeithasol Cymru neu unrhyw gorff priodol arall.

Cwestiynau i’w hateb

6a) Ydy adran 6 glir ac yn hawdd ei deall? (Ydy neu Nac ydy)

6b) Oes unrhyw beth ar goll neu yno’n ddiangen?

6c) Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod, ei gwblhau a'i ddychwelyd i ni.

Adran 7: Os ydw i’n gyfrifol am reoli neu arwain staff, rhaid i mi wreiddio’r cod yn eu gwaith nhw.

Mae’r adran hon yn berthnasol i unrhyw reolwyr neu arweinwyr gweithwyr gofal cymdeithasol. I weithwyr, mae’n amlinellu beth i’w ddisgwyl gan eich rheolwyr a’ch arweinwyr.

Mae’r geiriad newydd yn nodi i bwy mae’r adran hon o’r cod yn berthnasol.

Rydyn ni hefyd wedi tynnu’r gair ‘gweithle’ o’r cod oherwydd rydyn ni’n cydnabod nad yw rhai gweithwyr, fel gweithwyr gofal yn y cartref, yn cyfarfod mewn gweithle ffisegol bob amser.

Rydyn ni wedi cynnwys datganiad newydd i wella ffyrdd diogel ac ymatebol o weithio (7.6).

Geiriad newydd adran 7

Os ydw i’n gyfrifol am reoli neu arwain staff, rhaid i mi hefyd wreiddio’r cod yn eu gwaith nhw.

Mae’r adran hon yn berthnasol i unrhyw reolwyr neu arweinwyr gweithwyr gofal cymdeithasol. Os nad ydych yn rheolwr neu’n arweinydd, dylech ddarllen hyn beth bynnag er mwyn deall beth i’w ddisgwyl gan eich rheolwyr a’ch arweinwyr.

Rhaid i mi

7.1 cefnogi diwylliant agored lle gall staff godi pryderon a defnyddio, trafod a rhannu’r arferion gorau, a myfyrio arnyn nhw

7.2 sicrhau bod staff yn gwybod am y cod ac yn deall sut mae’n berthnasol i’w hymddygiad a’u hymarfer

7.3 sicrhau bod cyfleoedd cynefino, hyfforddi, dysgu a datblygu yn helpu staff i gynnal a datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth

7.4 darparu goruchwyliaeth ac arfarniad effeithiol i arwain, cynorthwyo a chymell staff i gyflawni’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â’u rôl, yn ogystal â’r hyn y maen nhw’n atebol amdano

7.5 cymryd camau i wybod beth sy’n digwydd o ran cyflawni gofal cymdeithasol, fel adolygu cwynion ac adborth, neu fonitro perfformiad staff

7.6 ymateb i unrhyw bryderon neu gwynion yn brydlon ac yn effeithiol, gan ddilyn unrhyw bolisïau a gweithdrefnau perthnasol.  

Cwestiynau i’w hateb

7a) Ydy adran 7 glir ac yn hawdd ei deall? (Ydy neu Nac ydy)

7b) Oes unrhyw beth ar goll neu yno’n ddiangen?

7c) Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod, ei gwblhau a'i ddychwelyd i ni.

Newidiadau arfaethedig i'r Cod Ymarfer Proffesiynol i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol

Beth yw’r Cod Ymarfer Proffesiynol i gyflogwyr?

Mae’r Cod Ymarfer Proffesiynol i gyflogwyr gofal cymdeithasol (y cod i gyflogwyr) yn rhestr o ddatganiadau sy’n disgrifio’r safonau y mae’n rhaid i gyflogwyr gofal cymdeithasol eu cyrraedd i sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol diogel, medrus, sy’n cael ei gefnogi’n briodol.

Nid ei fwriad yw darparu ar gyfer pob sefyllfa neu bob agwedd ar gyfrifoldeb cyflogwyr. Rhaid i gyflogwyr hefyd fodloni amrywiaeth o ofynion eraill sydd wedi’u nodi mewn deddfwriaeth, rheoliadau statudol a chanllawiau.

Ar gyfer pwy mae’r cod i gyflogwyr?

Mae’r cod i gyflogwyr yn berthnasol i bobl sy’n cyflogi neu’n bwriadu cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol fel y diffinnir gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Mae’r cod i gyflogwyr yn cynrychioli arferion da, felly mae disgwyl hefyd y byddai gwarchodwyr plant sy’n cyflogi cynorthwywyr ac ymarferwyr gofal plant yn ei ddefnyddio i ategu safon 13 o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, staffio.

Sut mae’r cod i gyflogwyr yn cael ei ddefnyddio wrth reoleiddio:

Cyhoeddir y cod i gyflogwyr gan Gofal Cymdeithasol Cymru o dan adran 112 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Ar gyfer cyflogwyr gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio o dan Ran 1 o Ddeddf 2016, gall Arolygiaeth Gofal Cymru gymryd camau os na fydd darparwyr yn cydymffurfio â’r rheoliadau hyn.

I gyrraedd yr holl safonau mewn gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio, lle bo angen rhaid penodi Unigolyn Cyfrifol addas a Rheolwr Cofrestredig, a rhaid iddynt gael cymorth gan y cyflogwr i gyflawni eu cyfrifoldebau.

Beth sy'n gynwysedig o fewn y Cod Ymarfer Proffesiynol i gyflogwyr?

Mae’r cod i gyflogwyr yn cynnwys pum adran, lle mae’n rhaid i gyflogwyr wneud y canlynol:

  1. Gwneud yn siŵr bod pobl sydd am ymuno â’r gweithlu gofal cymdeithasol yn addas a’u bod yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau
  2. Sicrhau bod polisïau, systemau ac arferion ar waith i alluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i lynu wrth y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol
  3. Darparu a chefnogi cyfleoedd dysgu a datblygu i alluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau
  4. Sicrhau bod polisïau a systemau ar waith i ddiogelu pobl rhag sefyllfaoedd, ymddygiad ac ymarfer anniogel, a chymryd camau i ymateb pan fydd sefyllfaoedd anniogel yn codi
  5. Hyrwyddo’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a chydweithredu ag ymchwiliadau Gofal Cymdeithasol Cymru.

Beth sydd wedi newid ym mhob adran

Adran 1: Gwneud yn siŵr bod pobl sydd am ymuno â’r gweithlu gofal cymdeithasol yn addas a’u bod yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau

Y prif newid rydyn ni wedi’i wneud i’r adran hon o’r cod yw ail eirio datganiadau i ganolbwyntio mwy ar ganlyniadau.

Rydyn ni wedi:

  • newid ‘bydd cyflogwyr yn’ i ‘rhaid i gyflogwyr’, i’w gwneud hi’n gliriach i gyflogwyr eu bod yn gyfrifol am weithio yn unol â’r cod
  • rhannu 1.4 yn y cod yn ddau ddatganiad newydd, sydd i’w gweld yn 1.4 a 1.5. Bwriad hyn yw gwneud y cyfrifoldebau’n gliriach.
Geiriad newydd adran 1

Gwneud yn siŵr bod pobl sydd am ymuno â’r gweithlu gofal cymdeithasol yn addas a’u bod yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau.

Rhaid i gyflogwyr:

1.1 gwneud yn siŵr mai dim ond pobl â’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd cywir, pobl â photensial a phobl sy’n meddu ar unrhyw gymwysterau neu gofrestriad proffesiynol gofynnol sy’n ymuno â’r gweithlu, a hynny drwy ddefnyddio polisïau a phrosesau recriwtio trwyadl

1.2 archwilio cofnodion troseddol, cofrestrau perthnasol, cyfeiriadau gan gyflogwyr blaenorol, unrhyw fylchau mewn hanes cyflogaeth a hawl gyfreithiol i weithio yng Nghymru cyn penodi rhywun i weithio ym maes gofal cymdeithasol

1.3 cael gafael ar gyfeiriadau cywir a phriodol ynghylch addasrwydd person i weithio ym maes gofal cymdeithasol ac mewn rôl benodol

1.4 sicrhau bod gweithwyr yn deall eu rolau, eu cyfrifoldebau a’r hyn y maen nhw’n atebol amdano drwy roi gwybodaeth glir iddynt

1.5 sicrhau bod gweithwyr yn gwybod sut gallant fodloni deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau perthnasol drwy roi gwybodaeth ac arweiniad clir iddynt

1.6 rhoi gwybodaeth glir i weithwyr am linellau rheoli, cyfathrebu a chymorth yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gymorth ar gyfer eu hiechyd, eu diogelwch a’u llesiant yn y gweithle

1.7 sicrhau bod telerau ac amodau gweithwyr yn gyfreithlon ac yn ddigonol i gynnal gweithlu addas. Adolygu’r telerau ac amodau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal yn gyfreithlon ac yn ddigonol.

Cwestiynau i’w hateb

1a) Ydy adran 1 glir ac yn hawdd ei deall? (Ydy neu Nac ydy)

1b) Oes unrhyw beth ar goll neu yno’n ddiangen?

1c) Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod, ei gwblhau a'i ddychwelyd i ni.

Adran 2: Sicrhau bod polisïau, systemau ac arferion ar waith i alluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i lynu wrth y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol

Y prif newid rydyn ni wedi’i wneud i’r adran hon o’r cod yw ail eirio datganiadau i ganolbwyntio mwy ar ganlyniadau.

Rydyn ni wedi:

  • newid ‘bydd cyflogwyr yn’ i ‘rhaid i gyflogwyr’, i’w gwneud hi’n gliriach i gyflogwyr eu bod yn gyfrifol am weithio yn unol â’r cod
  • cynnwys ‘gweithwyr asiantaeth’ o dan ddatganiad 2.1 ac ychwanegu cyfrifoldebau diogelu data o dan adran 2.5.
Geiriad newydd adran 2

Sicrhau bod polisïau, systemau ac arferion ar waith i alluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i lynu wrth y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.

Rhaid i gyflogwyr:

2.1 Helpu gweithiwr gofal cymdeithasol (gan gynnwys staff asiantaeth) i gyrraedd y safonau yn y Cod Ymarfer Proffesiynol a’r canllawiau ymarfer cysylltiedig

2.2 Sicrhau bod gweithwyr yn cael eu rheoli a’u goruchwylio’n effeithiol i hybu’r arferion gorau ac ymddygiad da. Mae hyn yn cynnwys helpu gweithwyr i wella eu perfformiad a sicrhau eu bod yn addas i ymarfer

2.3 Os ydynt yn cyflogi gweithwyr o broffesiynau eraill (fel nyrsio neu therapi galwedigaethol), eu helpu i lynu wrth eu codau proffesiynol a rhoi gwybod i’r awdurdod perthnasol am weithwyr y gallai eu haddasrwydd i ymarfer fod yn ddiffygiol

2.4 Gweithredu a monitro polisïau a gweithdrefnau i ymateb i honiadau o niwed, esgeuluso neu gam-drin. Rhaid i’r polisïau a’r gweithdrefnau sicrhau bod gweithwyr yn gwybod am arwyddion o niwed, esgeuluso neu gam-drin, ac yn gwybod pa gamau i’w cymryd

2.5 Gweithredu a monitro polisïau ysgrifenedig ar gyfrinachedd a chadw cofnodion, a sicrhau bod gweithwyr yn deall eu cyfrifoldebau diogelu data

2.6 Sicrhau bod systemau cadarn ar waith i wrando ar adborth gan unigolion a gofalwyr, ac ymateb i’r adborth hwn er mwyn llywio a gwella gwasanaethau a pherfformiad staff

2.7 Sicrhau bod polisïau a systemau ar waith i weithwyr godi pryderon ynglŷn ag unrhyw fater a allai effeithio ar y gwaith o roi gofal a chymorth diogel ac urddasol, a chymryd camau digonol i ymateb i bryderon

2.8 Sicrhau bod diwylliant a systemau cefnogol ar waith er mwyn helpu gweithwyr i fod yn agored ac yn onest os aiff pethau o chwith (cyflawni eu dyletswydd gonestrwydd), i roi gwybod am ddigwyddiadau niweidiol ac i ddysgu o gamgymeriadau. Mae hyn yn cynnwys mynd ati i ddatrys problemau yn gynnar.

Cwestiynau i’w hateb

2a) Ydy adran 2 glir ac yn hawdd ei deall? (Ydy neu Nac ydy)

2b) Oes unrhyw beth ar goll neu yno’n ddiangen?

2c) Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod, ei gwblhau a'i ddychwelyd i ni.

Adran 3: Darparu a chefnogi cyfleoedd dysgu a datblygu i alluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau

Y prif newid rydyn ni wedi’i wneud i’r adran hon o’r cod yw ail eirio datganiadau i ganolbwyntio mwy ar ganlyniadau.

Rydyn ni wedi:

  • newid ‘bydd cyflogwyr yn’ i ‘rhaid i gyflogwyr’, i’w gwneud hi’n gliriach i gyflogwyr eu bod yn gyfrifol am weithio yn unol â’r cod
  • ychwanegu yn natganiad 3.5 y dylid defnyddio’r codau wrth oruchwylio.
Geiriad newydd adran 3

Darparu a chefnogi cyfleoedd dysgu a datblygu i alluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau

Rhaid i gyflogwyr:

3.1 darparu rhaglen gynefino gadarn a hygyrch, a chyfleoedd dysgu a datblygu parhaus i helpu gweithwyr i wneud eu swyddi’n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys rhoi mynediad i weithwyr at eu cofnod dysgu a datblygu personol

3.2 cyfrannu at addysg a dysgu gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, gan gynnwys asesu effeithiol yn y gweithle a dysgu ymarferol

3.3 helpu gweithwyr i fodloni’r amodau ar gyfer cofrestriad proffesiynol, gan gynnwys unrhyw ofynion ar gyfer hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru

3.4 ymateb yn briodol i unrhyw weithwyr sydd angen cymorth oherwydd nad ydynt yn teimlo eu bod yn gallu cyflawni eu gwaith neu’n ddigon parod i wneud hynny

3.5 goruchwylio gweithwyr yn effeithiol ac yn rheolaidd i’w helpu i ddatblygu a gwella drwy ymarfer myfyriol, gan ddefnyddio’r Cod Ymarfer Proffesiynol a’r canllawiau ymarfer cysylltiedig fel sail i drafodaethau.

Cwestiynau i’w hateb

3a) Ydy adran 3 glir ac yn hawdd ei deall? (Ydy neu Nac ydy)

3b) Oes unrhyw beth ar goll neu yno’n ddiangen?

3c) Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod, ei gwblhau a'i ddychwelyd i ni.

Adran 4: Sicrhau bod polisïau a systemau ar waith i ddiogelu pobl rhag sefyllfaoedd, ymddygiad ac ymarfer anniogel, a chymryd camau i ymateb pan fydd sefyllfaoedd anniogel yn codi

Y prif newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud i’r adran hon o’r cod yw golygu pob datganiad i ychwanegu ‘dilyn’ polisïau a gweithdrefnau ar y dechrau, ac ychwanegu gwybodaeth am gymryd camau ar y diwedd.

Rydyn ni wedi:

  • newid ‘bydd cyflogwyr yn’ i ‘rhaid i gyflogwyr’, i’w gwneud hi’n gliriach i gyflogwyr eu bod yn gyfrifol am weithio yn unol â’r cod
  • yn natganiad 4.8, rydyn ni wedi cynnwys cyfeiriad penodol at addasrwydd i ymarfer
  • newid datganiad 4.1 i gynnwys unigolion a theuluoedd
  • ychwanegu datganiad newydd am gydraddoldeb ac amrywiaeth (datganiad 4.2), gan wahanu hwn oddi wrth y datganiad cyfunol presennol am lesiant. Dylai hyn roi rhagor o bwyslais ar bwysigrwydd llesiant ac ar hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Geiriad newydd adran 4

Sicrhau bod polisïau a systemau ar waith i ddiogelu pobl rhag sefyllfaoedd, ymddygiad ac ymarfer anniogel, a chymryd camau i ymateb pan fydd sefyllfaoedd anniogel yn codi.

Bydd cyflogwyr yn:

4.1 sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau sy’n hybu iechyd a llesiant gweithwyr, unigolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr, a chymryd camau gweithredu pan nad yw polisïau a gweithdrefnau yn cael eu dilyn

4.2 sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau sy’n hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gweithwyr, unigolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr, a chymryd camau gweithredu pan nad yw polisïau a gweithdrefnau yn cael eu dilyn

4.3 sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau sy’n ei gwneud hi’n glir i weithwyr nad yw bwlio ac aflonyddu yn dderbyniol, a chymryd camau i ddelio ag ymddygiad o’r fath

4.4 sefydlu gweithdrefnau i weithwyr roi gwybod am ymddygiad ac ymarfer peryglus neu gamdriniol, neu sy’n gwahaniaethu, a delio â hyn yn brydlon, yn effeithiol ac yn agored

4.5 gwneud hi’n glir i weithwyr, unigolion, teuluoedd a gofalwyr nad yw trais, bygythiadau na sarhad yn dderbyniol. Mae hyn yn cynnwys cael polisïau a gweithdrefnau clir ar gyfer lleihau’r risg o drais, a rheoli digwyddiadau treisgar

4.6 sefydlu polisïau a gweithdrefnau i roi cymorth i weithwyr sy’n wynebu trawma, aflonyddu neu drais yn eu gwaith

4.7 sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau i sicrhau cydymffurfedd â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gweithwyr yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys gofynion gorfodol, unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau, monitro cydymffurfedd a chymryd camau priodol pan na fydd polisïau a gweithdrefnau yn cael eu dilyn. Cymryd camau pan na fydd polisïau a gweithdrefnau yn cael eu dilyn

4.8 sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau i ymchwilio i faterion disgyblu ac i ddelio â’r materion yn ddigonol, gan gynnwys pan fydd y gweithiwr yn gadael y sefydliad. Cymryd camau pan na fydd polisïau a gweithdrefnau yn cael eu dilyn, fel gwneud atgyfeiriad i Dîm Addasrwydd i Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru

4.9 rhoi cymorth i weithwyr lle mae pryderon ynglŷn â’u haddasrwydd i ymarfer a rhoi canllawiau clir ynghylch y cyfyngiadau ar eu gwaith. Wrth wneud hyn, sicrhau mai gofal a diogelwch unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau yw’r flaenoriaeth.

Cwestiynau i’w hateb

4a) Ydy adran 4 glir ac yn hawdd ei deall? (Ydy neu Nac ydy)

4b) Oes unrhyw beth ar goll neu yno’n ddiangen?

4c) Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod, ei gwblhau a'i ddychwelyd i ni.

Adran 5: Hyrwyddo’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a chydweithredu ag ymchwiliadau Gofal Cymdeithasol Cymru

Y prif newid rydyn ni wedi’i wneud i’r adran hon o’r cod yw ail eirio datganiadau ychydig i’w gwneud yn gliriach.

Rydyn ni wedi newid ‘bydd cyflogwyr yn’ i ‘rhaid i gyflogwyr’, i’w gwneud hi’n gliriach i gyflogwyr eu bod yn gyfrifol am weithio yn unol â’r cod.

Geiriad newydd adran 5

Hyrwyddo’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a chydweithredu ag ymchwiliadau Gofal Cymdeithasol Cymru.

Bydd cyflogwyr yn:

5.1 rhoi gwybod i weithwyr gofal cymdeithasol am y Cod hwn i Gyflogwyr a beth mae’n ei olygu iddyn nhw ac i’r gweithle

5.2 sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn gwybod am eu Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac yn deall y Cod a’u cyfrifoldeb proffesiynol i’w ddilyn

5.3 helpu rheolwyr gofal cymdeithasol i gyflawni eu cyfrifoldebau ychwanegol o dan Adran 7 o’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol

5.4 rhoi gwybod i unigolion a gofalwyr am y Codau Ymarfer i gyflogwyr ac i weithwyr gofal cymdeithasol, ac am sut mae codi pryderon mewn cysylltiad â’r Codau, gan gynnwys sut mae cysylltu â ni

5.5 defnyddio’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol wrth wneud unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud ag addasrwydd gweithiwr i ymarfer

5.6 atgyfeirio gweithwyr y gallai eu haddasrwydd i ymarfer fod yn ddiffygiol at Gofal Cymdeithasol Cymru. Os yw’n briodol, rhoi gwybod i’r gweithiwr bod atgyfeiriad wedi’i wneud

5.7 cydweithredu ag ymchwiliadau a gwrandawiadau Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys darparu dogfennau a bod yn bresennol mewn gwrandawiadau

5.8 ymateb yn briodol i ganfyddiadau a phenderfyniadau Gofal Cymdeithasol Cymru ynghylch addasrwydd gweithiwr i ymarfer.

Cwestiynau i’w hateb

5a) Ydy adran 5 glir ac yn hawdd ei deall? (Ydy neu Nac ydy)

5b) Oes unrhyw beth ar goll neu yno’n ddiangen?

5c) Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod, ei gwblhau a'i ddychwelyd i ni.

Cwestiynau eraill

1. Dyddiad gweithredu

Hoffen ni gael eich barn am faint o amser y byddai ei angen arnoch i ddiweddaru cyfeiriadau at y Codau Ymarfer Proffesiynol yn eich sefydliad chi.

Rhwng cyhoeddi’r codau diwygiedig a’r fersiynau newydd hyn ddod yn weithredol, a fyddai angen arnoch:

a) chwe mis
b) naw mis
c) un flwyddyn

2. Y Gymraeg

Rydyn ni wedi nodi ein hystyriaethau effaith ar y Gymraeg yn adran ‘Beth sy’n newid’ yr ymgynghoriad.

A oes unrhyw effeithiau pellach y bydd ein cynigion yn eu cael ar y Gymraeg?

3. Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydyn ni wedi nodi ein hystyriaethau effaith cydraddoldeb ac amrywiaeth yn adran ‘Beth sy’n newid’ yr ymgynghoriad.

A oes unrhyw effeithiau pellach y bydd ein cynigion yn eu cael ar gydraddoldeb ac amrywiaeth?

Gallwch chi ymateb i'r cwestiynau yma drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ddogfen Word isod, ei gwblhau a'i ddychwelyd i ni.

Fersiwn Word yr ymgynghoriad

Cyhoeddwyd gyntaf: 30 Medi 2024
Diweddariad olaf: 7 Hydref 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (85.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch