Gwybodaeth am pwy sy'n gorfod cofrestru i weithio yng Nghymru, pam rydyn ni'n cofrestru gweithwyr a manteision cofrestru.
Beth yw cofrestru?
Prif ddiben cofrestru yw diogelu'r cyhoedd gan sicrhau mai dim ond y rhai sy'n gymwys ac yn gymwysedig sy'n gallu darparu gofal a chymorth mewn rolau lle mae angen cofrestru.
Mae cofrestru gyda ni yn golygu eich bod yn rhan o weithlu proffesiynol a gallwch ddangos bod gennych sgiliau a gwybodaeth sy'n hanfodol i ddarparu gofal a chymorth da i bobl Cymru.
Dyma ganllaw fideo cyflym ar gofrestru gyda ni.
Mae GCCarlein wedi newid lliw ond mae'r ffordd rydych chi'n ei ddefnyddio'r un fath â'r hyn a ddisgrifir yn y fideo hwn.
Pwy sydd angen cofrestru
Mae’r Gofrestr yn agored i’r grwpiau gweithwyr canlynol:
- gweithwyr cymdeithasol
- myfyrwyr gwaith cymdeithasol
Rheolwyr gofal cymdeithasol
- rheolwyr gwasanaethau mabwysiadu
- rheolwyr cartrefi gofal i oedolion
- rheolwyr lleoli oedolion
- rheolwyr eiriolaeth (gwasanaethau i blant a phobl ifanc)
- rheolwyr gofal cartref
- rheolwyr gwasanaethau maethu
- rheolwyr gofal preswyl i blant
- rheolwyr canolfannau preswyl i deuluoedd
- rheolwyr gwasanaethau llety diogel
- rheolwyr ysgolion preswyl arbennig (gellir ymgeisio i gofrestru o 1 Ebrill 2024 a bydd angen bod ar y Gofrestr erbyn 1 Ebrill 2025).
Mae’n rhaid i’r holl weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol gofrestru ar ôl cwblhau eu cymhwyster neu ddechrau yn y swydd.
Gweithwyr gofal cymdeithasol
- gweithwyr cartrefi gofal i oedolion
- gweithwyr gofal cartref
- gweithwyr gofal preswyl i blant
- gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd
- gweithwyr gwasanaethau llety diogel.
Mae gan bob gweithiwr gofal cymdeithasol chwe mis o ddyddiad dechrau eu rôl i gofrestru gyda ni.
Mae'n ofyniad cyfreithiol i weithwyr sy'n gyflogedig yn y rolau hyn gofrestru gyda ni.
Os ydych chi’n gweithio mewn mwy nag un o’r grwpiau sydd wedi’u rhestru uchod, neu os byddwch yn newid y grŵp rydych chi’n gweithio ynddo, bydd angen i chi newid eich cofrestriad. Gallwch newid eich cofrestriad trwy fewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein.
Os nad ydych chi'n siŵr os ydych chi angen cofrestru gyda ni, neu pryd y dylech chi gofrestru, cysylltwch â'n tîm am help drwy e-bostio ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru.
Manteision o weithlu cofrestredig
Mae manteision bod yn berson cofrestredig yn cynnwys y canlynol:
Meithrin ymddiriedaeth a hyder:
- mae pobl yn gallu dibynnu ar weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig
- rhoi hyder i bobl eich bod yn dilyn y Côd
Gwerthfawrogi gweithwyr gofal cymdeithasol:
- dangos bod ganddoch chi’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn weithiwr gofal cymdeithasol
- dangos eich bod wedi eich hyfforddi a'ch bod yn cymryd cyfrifoldeb ar gyfer ddatblygu gwybodaeth a sgiliau
- cyflogwyr yn gallu darparu’r gefnogaeth a datblygiad rydych ei angen
- bydd gwybod mwy amdanoch chi'n helpu ni drefnu ffyrdd o'ch cefnogi chi.
Sicrhau bod pobl yn ddiogel:
- amddiffyn hawliau pobl a gwneud yn siŵr eu bod nhw yn cael ei gwrando ar
- cefnogi pobl i fod yn annibynnol ac amddiffyn eu hunain
- os nad ydy gweithiwr yn addas i ymarfer gallen nhw gael eu tynnu o'r Gofrestr. Os ydyn nhw'n cael eu tynnu oddi arno, ni fydden nhw yn cael ymarfer yng Nghymru.
Manteision eraill:
- defnyddio teitl eich proffesiwn yn gyfreithlon
- cymorth a gwybodaeth o’n dogfennau canllawiau ymarfer a’n cyhoeddiadau eraill.
Darganfyddwch fwy am sut rydyn ni'n gallu rhoi cymorth i chi fel person cofrestredig.
Pam rydyn ni'n cofrestru
Rydyn ni'n cadw cofrestr o bobl sydd wedi dangos eu bod yn addas i weithio ym maes gofal cymdeithasol. Rhaid i bawb ar y Gofrestr ddangos eu bod:
- â chymwysterau priodol
- yn addas yn gorfforol ac yn feddyliol i ymarfer
- â'r cymeriad a'r cymhwysedd
- dilyn y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (y Côd) a chanllawiau ymarfer ar gyfer eu rôl
- yn bwriadu ymarfer gofal cymdeithasol yng Nghymru
- yn ymarfer yn y maes y mae eu cais yn ymwneud â'u cais i gofrestru.
Rydyn ni'n defnyddio Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2024 i gynnal y Gofrestr. Cymeradwyir y rheolau hyn gan Lywodraeth Cymru, a rhain yw'r fframwaith ar gyfer cofrestru'r gweithlu gofal cymdeithasol.
-
Rheolau Cofrestru 2024PDF 557KB
-
Rheolau Cynnwys Y Gofrestr 2024PDF 174KB
Data ac adroddiadau cofrestru
Ers Hydref 2024, y nifer o bobl gofrestredig yw:
- 6,791 – gweithwyr cymdeithasol
- 4 – rheolwr gwasanaeth mabwysiadu
- 1,309 – rheolwyr cartrefi gofal i oedolion
- 26,571 – gweithwyr cartrefi gofal i oedolion
- 16 – rheolwyr lleoli oedolion
- 4 – rheolwr eirioli i blant a phobl ifanc
- 1,051 – rheolwyr gofal cartref
- 22,466 – gweithwyr gofal cartref
- 20 – rheolwyr gwasanaeth maethu
- 420 – rheolwyr gofal preswyl i blant (gan gynnwys gofal preswyl diogel)
- 4,618 – gweithwyr gofal preswyl i blant (gan gynnwys gofal preswyl diogel)
- 4 – rheolwyr canolfan preswyl i deuluoedd
- 77 – gweithwyr canolfan preswyl i deuluoedd
- 838 – myfyrwyr gwaith cymdeithasol.
Bob blwyddyn, rydyn ni'n cyhoeddi adroddiadau data ar y wybodaeth a roddir i ni gan ymgeiswyr a phobl cofrestredig.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.