Jump to content
Rhowch eich barn am ein Codau Ymarfer Proffesiynol
Ymgynghoriad

Rhowch eich barn am ein Codau Ymarfer Proffesiynol

- | Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wrthi’n diweddaru ein Codau Ymarfer Proffesiynol, a hoffwn ni gael eich barn am ein newidiadau arfaethedig.

Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben hanner dydd, 17 Rhagfyr 2024.

Pam rydyn ni’n newid y codau?

Mae’r Cod Ymarfer Proffesiynol i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol a’r Cod Ymarfer Proffesiynol i Weithwyr Gofal Cymdeithasol yn sail i’n gwaith rheoleiddio. Nid ydynt wedi cael eu diweddaru ers 2017 ac ers hynny mae ein cofrestr wedi cynyddu’n sylweddol, o ychydig dros 11,000 o bobl i fwy na 60,000 o bobl.

Rhwng Awst a Rhagfyr 2023, fe wnaethon ni siarad â mwy na 300 o bobl yn y sector yng Nghymru. Gofynnom am eu barn am y canlynol:

  • y ddau god ymarfer proffesiynol
  • saith dogfen canllawiau ymarfer
  • egwyddorion addasrwydd i ymarfer.

Ar y cyfan, roedd pobl yn teimlo bod yr adnoddau’n dda ond mae mwy o waith i’w wneud i’w gwreiddio mewn ymarfer a gwella sut mae pobl yn eu defnyddio.

Dywedodd pobl mai’r prif newidiadau sydd eu hangen yn y Codau yw eu gwneud yn fyrrach a symlach, er mwyn i bobl allu deall yn well yr hyn disgwylir iddyn nhw ei wneud.

Beth sy’n newid?

Fel rhan o’n gwaith ymgysylltu, helpodd pobl yn y sector ni i newid geiriad y codau. Nawr, rydyn ni eisiau clywed eich barn am y fersiynau newydd arfaethedig.

Os ydych chi’n weithiwr neu’n gyflogwr gofal cymdeithasol, nid yw’r codau diwygiedig yn gofyn i chi newid eich ymarfer mewn unrhyw ffordd. Nod y geiriad newydd arfaethedig yw ei gwneud hi’n fwy clir beth sy’n ddisgwyliedig gennych chi, gan gynnwys:

  • yr angen i gynnal ffiniau proffesiynol, a hynny wyneb yn wyneb ac ar-lein
  • pwysigrwydd meithrin perthnasau cadarnhaol â phobl eraill, teuluoedd a gofalwyr
  • annog gofal sy’n seiliedig ar gryfderau, yn hytrach na chanolbwyntio ar beth i beidio â’i wneud
  • bod helpu unigolion i wneud yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw yn parhau i fod wrth wraidd ymarfer.

Rydyn ni hefyd wedi cryfhau’r iaith o amgylch cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydyn ni’n cydnabod Cymru sy’n wrth-hiliol ac sy’n hyrwyddo tegwch.

Yn ystod ein gwaith ymgysylltu, fe wnaethon ni hefyd glywed nad yw fersiwn Gymraeg y codau bob amser yn defnyddio Cymraeg clir a dealladwy. Rydyn ni’n awyddus iawn i glywed barn siaradwyr Cymraeg am y fersiynau diwygiedig, ac a ydych chi’n meddwl eu bod yn gliriach ac yn haws eu deall. Rydyn ni hefyd yn awyddus i wybod a oes unrhyw faterion eraill y mae angen i ni eu hystyried ar gyfer ein gweithlu sy’n siarad Cymraeg.

Beth nesaf?

Ar ôl yr ymgynghoriad, byddwn ni’n diweddaru’r Codau Ymarfer ac yn cyhoeddi’r fersiynau newydd. Byddwn ni hefyd yn cyhoeddi dyddiad ar gyfer pa bryd bydd y codau newydd yn dod i rym, i roi amser i’r sector baratoi ar eu cyfer. Bydd y codau presennol yn parhau mewn grym tan y dyddiad gweithredu hwnnw. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i weithwyr a chyflogwyr gofal cymdeithasol weithio i’r codau newydd.

Byddwn ni hefyd yn diweddaru’r canllawiau ymarfer sy’n gysylltiedig â’r codau. Bydd y canllawiau’n cael eu diweddaru i gynnwys yr adborth a gawsom yn ystod ein gwaith ymgysylltu.

O hyn allan, byddwn ni’n parhau i ddatblygu a gwella’r canllawiau hynny i’w gwneud mor hawdd â phosib i weithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr eu defnyddio yn eu hymarfer o ddydd i ddydd.

Ar gyfer pwy mae’r ymgynghoriad hwn?

Rydyn ni’n awyddus i glywed gan bawb sydd â diddordeb yn y gweithlu gofal cymdeithasol.

Mae gennym ddiddordeb penodol mewn clywed gan y canlynol:

  • pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • cyflogwyr pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • cyflogwyr gweithwyr gofal plant a’r blynyddoedd cynnar
  • pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth
  • teuluoedd a gofalwyr
  • gwirfoddolwyr.

Sut i ymateb

Cysylltwch...

Ar-lein

Rydyn ni’n esbonio ein newidiadau ar y dudalen we yma.

Os hoffech gael dweud eich dweud am ein newidiadau, llenwch yr arolwg ar-lein yma.

E-bost

Neu gallwch lwytho’r ymgynghoriad i lawr fel dogfen Word, llenwi’r blychau ar y ffurflen ymateb a’i e-bostio atom drwy: codau@gofalcymdeithasol.cymru.

Drwy'r post

Gallwch hefyd ei argraffu a’i bostio atom yn:

Gofal Cymdeithasol Cymru
South Gate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW

Ffyrdd eraill i ymateb

Gallwch hefyd anfon eich barn atom mewn fformat gwahanol os yw hynny’n haws i chi. Er enghraifft, gallwch ysgrifennu atom, neu anfon fideo neu recordiad sain.

Os nad yw'n bosib i chi anfon eich fideo aton ni, anfonwch e-bost aton ni yn codau@gofalcymdeithasol.cymru.

Os oes angen copi o’r ymgynghoriad hwn arnoch mewn fformat gwahanol neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn codau@gofalcymdeithasol.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw hanner dydd, 17 Rhagfyr 2024.

Diolch am gymryd yr amser i rannu eich barn â ni.

Gweld yr ymgynghoriad

Darllenwch ein newidiadau arfaethedig a rhowch eich barn

Fersiynau hawdd eu deall o'r ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriad hefyd ar gael ar ffurf dogfennau hawdd eu deall.

Fersiynau i blant a phobl ifanc

Cwestiynau cyffredin am ein newidiadau

Diddordeb mewn rhedeg sesiwn ymgysylltu?

Adnoddau i'ch helpu

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal sesiwn ymgysylltu, gyda phobl yn eich sefydliad neu grwpiau sydd â diddordeb yn y Codau Ymarfer Proffesiynol, mae gennym ni adnoddau i'ch helpu, gan gynnwys awgrymiadau trafodaeth a chyflwyniadau.