Jump to content
Ymgeisiwch ar gyfer y Gwobrau 2025

Os ydych chi'n dîm, grŵp neu sefydliad, dysgwch sut y gallwch ymgeisio ar gyfer y Gwobrau 2025

Pwy all ymgeisio ar gyfer y Gwobrau?

Mae'r Gwobrau yn agored i unrhyw dîm, grŵp neu sefydliad sy'n darparu gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Rydyn ni’n chwilio am geisiadau o bob maes – y sector gwirfoddol, preifat, cydweithredol a chyhoeddus. Gall y gofal a chymorth rydych chi’n ei ddarparu fod yn fach neu’n fawr, a gallwch chi fod yn gweithio gyda phlant, teuluoedd, oedolion neu ofalwyr.

Bydd ein beirniaid yn chwilio am brosiectau, timau a sefydliadau sy'n dangos ffyrdd newydd o weithio ac sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r bobl y maen nhw’n eu cefnogi.

Weithiau nid yw pobl yn sylweddoli pa mor drawiadol yw eu gwaith, felly os ydych chi'n gwybod am brosiect, tîm neu sefydliad sy'n gymwys, anogwch nhw i gymryd rhan.

Sut i ymgeisio

I wneud cais ar gyfer eich prosiect, tîm neu sefydliad, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw:

  • dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer y categori rydych chi’n ymgeisio amdano
  • darllen y canllaw hwn
  • darllen y rheolau cystadlu a'r telerau ac amodau [link]
  • llenwi’r ffurflen gais
  • cwblhewch eich ffurflen gais erbyn 5pm ar 1 Tachwedd 2024.


Dewiswch y ffurflen ar gyfer y categori hoffech geisio amdani:

Y beirniadu

Mae tair rhan i'r beirniadu:

  1. Bydd ein panel o feirniaid yn sgorio'r holl gynigion ac yn cwrdd i gytuno ar restr fer o'r ceisiadau â'r sgôr uchaf
  1. Bydd y beirniaid yn ymweld â chi’n rhithwyr neu wyneb wrth wyneb rhwng canol mis Ionawr a chanol mis Chwefror
  1. Bydd y beirniaid wedyn yn cwrdd i ddewis y rhai a fydd yn cyrraedd y rownd derfynol ac enillwr pob categori.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod y seremoni wobrwyo ar 1 Mai 2025.

Gall y beirniaid symud eich cais i gategori gwahanol os ydyn nhw'n teimlo ei fod yn briodol.

Y rheolau cystadlu

Y rheolau cystadlu ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau yw:

Cyffredinol

  • mae mynediad am ddim
  • mae'r Gwobrau yn agored i dimau, prosiectau neu sefydliadau o'r sector gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar
  • rhaid i'ch tîm, prosiect neu sefydliad fod wedi'i leoli ac yn gweithio yng Nghymru
  • rhaid bod peth o'r gwaith y cyfeiriwch ato yn eich cais digwydd ers mis Tachwedd 2023
  • ni fyddwn ni’n derbyn unrhyw geisiadau ar ôl y dyddiad a'r amser cau (5pm, ddydd Gwener, 1 Tachwedd 2024).

Eich cais

  • rhaid i chi ateb pob cwestiwn yn y ffurflen gais
  • rhaid i chi gadw at y terfyn geiriau – ni fydd y beirniaid yn ystyried unrhyw geisiadau sy'n mynd dros y terfyn geiriau
  • dim ond yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y ffurflen gais y bydd y beirniaid yn ei hystyried ac ni fyddan nhw’n ystyried deunydd ychwanegol, fel lluniau neu fideos
  • rhaid i chi ddarparu manylion cyswllt llawn rhywun o’ch tîm, brosiect neu sefydliad er mwyn i ni allu gysylltu â chi
  • rhaid i chi sicrhau eich bod yn gymwys i gyflwyno'r cais ar ran eich tîm, brosiect neu sefydliad
  • dylech chi gyfeirio at y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir gan weithwyr yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn eich cais
  • dylech chi ddangos sut mae peth neu'r holl waith rydych chi'n cyfeirio ato yn eich cais yn newydd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r bobl yr ydych chi’n eu cefnogi
  • efallai y byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth yn eich ffurflen gais i hyrwyddo'r Gwobrau
  • byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais unwaith i'r beirniaid wneud penderfyniad
  • ni allwn ddychwelyd eich ffurflen gais.

Y telerau ac amodau

Dylech chi wneud yn siŵr eich bod wedi darllen ac yn deall y telerau ac amodau canlynol cyn i chi anfon eich cais wedi'i gwblhau atom:

Cyhoeddusrwydd

Rhaid i'ch tîm, brosiect neu sefydliad gytuno y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu ar eich ffurflen gais i:

  • hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r Gwobrau
  • rhannu ymarfer nodedig a helpu eraill i ddysgu yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.

Byddwn ni’n gwneud ffilm fer o’r holl brosiectau fydd yn cyrraedd y rownd derfynol a fydd yn cael ei dangos yn y seremoni wobrwyo.

Bydd y ffilmio’n debygol o ddigwydd ym mis Chwefror a Mawrth 2025 a bydd disgwyl i'r holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol sicrhau bod pobl ar gael ar gyfer y ffilmio. Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn mwy o wybodaeth am y ffilmio ym mis Ionawr 2025.

Gall pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol dderbyn cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru.

Beirniadu

Bydd ein panel beirniadu’n dewis y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol a'r enillwyr. Dim ond un enillydd fydd ym mhob categori.

Rhaid i aelodau'r panel beirniadu beidio â bod ag unrhyw gysylltiad â'r prosiectau sydd wedi ymgeisio ar gyfer y Gwobrau.

Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni fyddwn ni’n gohebu am eu penderfyniad.

Rhaid i brosiectau ar y rhestr fer fod ar gael i gyfarfod â'n beirniaid rhwng canol mis Ionawr a chanol mis Chwefror 2025.

Y seremoni a'r gwobrau

Bydd enillydd pob categori yn ennill tlws a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael tystysgrif. Ni fydd unrhyw wobrau ariannol na chyfwerth.

Bydd pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni wobrwyo'r Gwobrau, a fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 1 Mai 2025. Os na all y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fynychu’r seremoni, bydd angen iddyn nhw roi gwybod i ni o flaen llaw a dweud wrthym pwy fydd yn derbyn y wobr neu’r dystysgrif ar eu rhan.

Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod faint o lefydd fydd ganddyn nhw yn y seremoni wobrwyo. Bydd unrhyw un sy'n mynychu'r seremoni yn gyfrifol am eu costau teithio a llety eu hunain.

Os byddwn ni’n darganfod bod ymgeisydd wedi torri'r rheolau – cyn neu ar ôl cyflwyno Gwobr – gall y beirniaid wahardd yr ymgeisydd. Os digwydd hyn, rhaid dychwelyd y tlws a'r dystysgrif atom ar unwaith.

Dyddiadau pwysig ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, 1 Tachwedd 2024 (ni fyddwn ni’n derbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad cau)
  • Hysbysu'r rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer: erbyn canol mis Ionawr 2025
  • Cyfarfodydd y beirniaid â’r rhai fydd yn cyrraedd y rhestr fer: canol mis Ionawr i ganol mis Chwefror 2025
  • Cyhoeddi enwau'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: Chwefror 2025
  • Seremoni wobrwyo: 1 Mai 2025.

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Medi 2024
Diweddariad olaf: 17 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (45.6 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch