Jump to content
Gwobrau 2025

Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth gyffredinol am y Gwobrau 2025

Beth yw'r Gwobrau?

Mae'r Gwobrau yn wobrau sy'n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae'r gwobrau'n cydnabod gwaith grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal â gweithwyr gofal unigol o bob rhan o'r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Rydyn ni nawr yn croesawu ceisiadau ar gyfer Gwobrau 2025 gan grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal ag enwebiadau ar gyfer gwobrau gweithwyr unigol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac enwebiadau yw 5pm, ddydd Gwener, 1 Tachwedd 2024.

Beth yw'r categorïau ar gyfer 2025?

Mae gan y Gwobrau 2025 chwe chategori:

  • pedwar ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau
  • dau ar gyfer gweithwyr.

Categorïau ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau

Ym mhob categori, bydd ein beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o waith sy'n newydd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol gwirioneddol i fywydau'r plant, teuluoedd ac oedolion y maen nhw’n eu cefnogi.

Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd

Mae'r categori hwn yn dathlu sefydliadau, lleoliadau neu brosiectau sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i'w helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau o bob rhan o feysydd gofal plant, chwarae, y blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol sy'n darparu gofal o ansawdd uchel ac yn helpu plant a phobl ifanc i ddisgleirio.

Gallai ceisiadau fod gan leoliadau gofal cymdeithasol preswyl, gwasanaethau cymunedol neu statudol. Er enghraifft, y rhai sy'n cefnogi pobl ifanc sydd wedi gadael gofal yn ddiweddar, cartrefi preswyl, neu wasanaethau maethu neu fabwysiadu. Neu allai fod yn lleoliad blynyddoedd cynnar, chwarae neu ofal plant sy'n cefnogi plant i gael dechrau rhagorol mewn bywyd.

Datblygu ac ysbrydoli’r gweithlu

Mae’r categori hwn yn dathlu sefydliadau, lleoliadau neu brosiectau sy’n defnyddio dulliau effeithiol, creadigol ac arloesol i ddatblygu’r gweithlu er mwyn cyrraedd galwadau a disgwyliadau presennol a dyfodol.

Gall geisiadau ddod o wasanaethau statudol, preifat neu wirfoddol sy’n cefnogi oedolion neu blant. Rydyn ni hefyd yn edrych am unrhyw ddulliau sy’n ymdrin â dysgu, datblygu a/neu gymwysterau.

Gweithio mewn partneriaeth

Rydyn ni’n chwilio am brosiectau neu sefydliadau ar draws gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar sy'n gweithio mewn partneriaeth i wella canlyniadau llesiant i blant, teuluoedd ac oedolion. Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • ymchwilwyr sy'n gweithio gyda darparwyr gofal ac awdurdodau lleol i helpu i gael ymchwil ar waith
  • awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda gofal iechyd, tai, y trydydd sector a/neu grwpiau cymunedol i gefnogi gofal sy’n seiliedig ar le
  • timau gofal cymdeithasol neu sefydliadau sy'n gweithio gydag ysgolion a cholegau i ddenu, recriwtio a chadw gweithlu medrus
  • grwpiau sy'n cydweithio i gyd-gynhyrchu ffyrdd newydd a gwahanol o weithio.

Dim ond enghreifftiau yw'r rhain. Mae gennym ni ddiddordeb mewn unrhyw gydweithredu sy'n canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.

Gweithio yn unol ag egwyddorion ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn disgwyl i ni roi'r bobl rydyn ni’n eu cefnogi wrth wraidd ein hymarfer.

Mae ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn adeiladu ar yr egwyddor, pan fo hynny’n bosibl, ein bod yn helpu oedolion, plant a theuluoedd i ddeall sut y gallan nhw ymateb yn fwy effeithiol i'r agweddau ar eu bywydau sy'n achosi pryder iddyn nhw eu hunain neu i’w gweithwyr proffesiynol. Mae gweithio ochr yn ochr gyda phobl, cynnig cymorth a bod yn glir am yr hyn sydd angen digwydd yn arwain at newid cadarnhaol yn y tymor hwy.

I wneud hyn, mae angen i weithwyr, timau a systemau addasu i adlewyrchu ac ymateb i anghenion pobl sydd angen ein cymorth, yn ogystal â deall yr angen am chwilfrydedd proffesiynol.

Os ydych chi'n gwybod am dîm gofal cymdeithasol neu waith cymdeithasol, arweinydd tîm neu bennaeth adran sy'n gweithio i hyrwyddo'r dull hwn, hoffem glywed gennych.

Ydych chi'n dîm, grŵp neu sefydliad?

Dysgwch sut y gallwch ymgeisio ar gyfer y Gwobrau 2025

Categorïau ar gyfer gweithwyr unigol

Ym mhob categori, bydd ein beirniaid yn chwilio am weithwyr gofal eithriadol ar draws y meysydd gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar sy'n mynd y tu hwnt i ofynion arferol eu rôl o ddydd i ddydd ac sy'n helpu plant, teuluoedd ac oedolion i gyflawni'r hyn sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw.

Gwobr arweinyddiaeth effeithiol

Mae arweinyddiaeth dosturiol ac effeithiol yn hanfodol wrth ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel. Rydyn ni’n chwilio am unigolion o ar draws gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar sydd:

  • yn gofalu am anghenion eu cydweithwyr a’r rhai maen nhw’n eu cefnogi
  • yn deall heriau a phersbectifau pobl eraill
  • hefo empathi tuag at eu timau a’r rhai maen nhw’n cefnogi
  • yn helpu i ddatrys problemau a chyflawni canlyniadau gwell.

Gwobr Gofalwn Cymru

Rydyn ni’n chwilio am bobl i enwebu gweithwyr neu wirfoddolwyr rhagorol sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar, sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i fywydau plant a phobl.

Gall y gweithwyr fod mewn unrhyw rôl yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, gan gynnwys gwirfoddolwyr. Gallant hefyd fod yn brentisiaid, gofalwyr di-dâl neu'n bobl sy'n astudio ar gyfer cymwysterau wrth weithio.

Y seremoni wobrwyo

Bydd seremoni wobrwyo Gwobrau 2025 yn cael ei chynnal ar 1 Mai 2025. Byddwn ni’n diweddaru'r dudalen hon gyda mwy o wybodaeth amdani yn agosach at yr amser.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi gwestiwn neu os na allwch chi ddod o hyd i'r hyn rydych chi’n chwilio amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Medi 2024
Diweddariad olaf: 16 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (43.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch