Jump to content
Enwebwch weithiwr ar gyfer Gwobrau 2025

Gwybodaeth ar gyfer gweithiwr a enwebwyd ar gyfer Gwobrau 2025

Y beirniadu

Bydd ein panel o feirniaid yn ystyried ac yn llunio rhestr fer o'r holl enwebiadau a dderbyniwn. Yna byddan nhw’n cwrdd ganol mis Rhagfyr i benderfynu ar y rhai a fydd cyrraedd y rownd derfynol.

Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi a'ch enwebai erbyn canol mis Ionawr 2025 os fyddan nhw wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod seremoni’r Gwobrau ar 1 Mai 2025.

Telerau ac amodau

Dylech chi wneud yn siŵr eich bod chi a’r person rydych chi’n ei enwebu wedi darllen ac yn deall y telerau ac amodau cyn i chi anfon eich enwebiad atom:

Cyhoeddusrwydd

Rhaid i chi a'r person rydych chi'n ei enwebu gytuno y gallwn ni ddefnyddio'r wybodaeth ar y ffurflen enwebu i:

  • hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r Gwobrau
  • rhannu ymarfer nodedig o bwys a helpu eraill i ddysgu yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.

Byddwn ni’n cynhyrchu ffilm fer o bawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol, a fydd yn cael ei dangos yn y seremoni wobrwyo.

Bydd y ffilmio’n debygol o ddigwydd rhwng Ionawr a Chwefror 2025, a bydd disgwyl i bawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol fod ar gael ar gyfer y ffilmio. Byddwn ni’n anfon mwy o wybodaeth am y ffilmio at y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol ym mis Ionawr 2025.

Gallai'r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol dderbyn cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru.

Beirniadu

Bydd ein panel beirniadu yn creu rhestr fer. Bydd yr enillydd wedyn yn cael ei ddewis trwy bleidlais gyhoeddus. Dim ond un enillydd fydd ym mhob categori.

Rhaid i aelodau'r panel beirniadu beidio â bod ag unrhyw gysylltiad â'r gweithwyr gofal a enwebwyd ar gyfer y Gwobrau.

Bydd penderfyniad y beirniaid a chanlyniad y bleidlais gyhoeddus yn derfynol ac ni fyddwn ni’n gohebu am y canlyniadau hyn.

Y seremoni a'r gwobrau

Bydd enillydd pob categori yn cael tlws a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael tystysgrif. Ni fydd unrhyw wobrau ariannol na chyfwerth.

Bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni wobrwyo’r Gwobrau ar 25 Ebrill 2024. Os na all y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fynychu’r seremoni, bydd angen iddyn nhw roi gwybod i ni o flaen llaw a dweud wrthym pwy fydd yn derbyn y wobr neu’r dystysgrif ar eu rhan.

Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod faint o lefydd a fydd ganddyn nhw yn y seremoni wobrwyo. Bydd unrhyw un sy'n mynychu'r seremoni yn gyfrifol am eu costau teithio a llety eu hunain.

Os fyddwn ni’n darganfod bod rhywun sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol neu eu henwebydd wedi torri'r rheolau – cyn neu ar ôl cyflwyno Gwobr – gall y beirniaid wahardd y gweithiwr. Os digwydd hyn, rhaid dychwelyd y tlws a'r dystysgrif atom ar unwaith.

Dyddiadau pwysig

  • Cyhoeddi enwau'r gweithwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: canol mis Ionawr 2025
  • Ffilmio’r gweithwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: canol mis Ionawr i ganol mis Chwefror 2025
  • Seremoni wobrwyo: 1 Mai 2025

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Medi 2024
Diweddariad olaf: 1 Tachwedd 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (27.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch