Rydyn ni wedi cyhoeddi pecyn hyfforddi newydd ar gyfer pobl mewn Grŵp B y Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol.
Mae’r pecyn, sydd ar gael ar ein tudalen hyfforddiant diogelu, yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint a thaflenni i helpu hyfforddwyr i sicrhau bod eu dysgwyr yn cwrdd â safonau Grŵp B.
Fe’i dylunwyr er sicrhau bod hyfforddiant diogelu Grŵp B yn gyson ac yn cyfatebu a chyfrifoldebau diogelu Grŵp B. Gall hyfforddwyr ychwanegu neu addasu’r cynnwys i gwrdd ag anghenion eu dysgwyr.
Mae’r cynnwys wedi esblygu i adlewyrchu natur gyfnewidiol diogelu yn gyffredinol ond hefyd i adlewyrchu cyfeiriad clir y Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dywedodd Esyllt Crozier, Rheolwr Gwella a Datblygu Gofal Cymdeithasol Cymru:
“Bydd y pecyn yn helpu hyfforddwyr i sicrhau bod eu hyfforddiant o safon uchel ac yn gyson gyda’r Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol.
“Hoffwn ddiolch yn fawr i Fyrddau Diogelu Gorllewin Morgannwg a Gwent am rannu eu hadnoddau gyda ni i siapio'r pecyn hwn.”