Jump to content
Rhannwch eich barn am y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Newyddion

Rhannwch eich barn am y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n adolygu'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygiad Plant, a hoffen ni dderbyn eich adborth am ein newidiadau arfaethedig.

Mae'r NOS yn set o ddatganiadau sy'n disgrifio'r hyn a ddisgwylir gan rywun sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Maen nhw’n cael eu defnyddio ledled y DU.

Maen nhw’n disgrifio'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i wneud gwaith penodol i lefel gymhwysedd a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae'n bwysig bod y safonau hyn yn gyfredol ac yn berthnasol i’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen mewn gwahanol rolau.

Fel rhan o'n hadolygiad, rydyn ni wedi

  • symleiddio'r iaith a gwneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu'r arfer cyfredol
  • wedi cyfuno gwahanol NOS i gael gwared ar ddyblygu, lle bo hynny’n briodol
  • nodi a delio â bylchau yn y cynnwys.

Rhannwch eich adborth

Hoffen ni wybod beth ydych chi'n ei feddwl am ein newidiadau arfaethedig.

Rydyn ni wedi creu pedair dogfen NOS enghreifftiol i chi adolygu a rhannu eich adborth.

Gallwch chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein ac mae'n cymryd tua 15 munud i'w gwblhau.

Trwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn gallwch chi helpu i sicrhau bod y NOS yn addas i'r diben ac yn adlewyrchu'r arfer cyfredol.

Mae'r ymgynghoriad ar agor rhwng 4 Awst a 19 Medi.