Jump to content
Adolygiad o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS)
Ymgynghoriad

Adolygiad o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS)

- | Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) a Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (CCLD).

4 Awst i 19 Medi 2025

Ynglŷn â'r ymgynghoriad

Rydyn ni'n adolygu’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

Mae’r NOS yn disgrifio’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth y disgwylir i rywun sydd yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu ofal plant a blynyddoedd cynnar eu cael. Fe’u defnyddir ledled y DU – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’n bwysig bod y safonau hyn yn gyfredol ac yn berthnasol i’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen mewn gwahanol rolau.

Gallwch wylio ein fideo byr sy’n egluro pwrpas yr ymgynghoriad hwn.

Pam mae’r NOS yn bwysig?

Gellir defnyddio’r NOS fel sail ar gyfer ystod eang o weithgareddau, megis:

  • cymwysterau
  • safonau ansawdd a meincnodi
  • dysgu a datblygu
  • recriwtio
  • cynllunio a gwella sefydliadol

Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn gallwch helpu i sicrhau bod y NOS yn addas at y diben ac yn adlewyrchu arferion cyfredol.

Pam rydyn ni'n adolygu’r NOS?

Mae dros 10 mlynedd ers i’r NOS gael eu hadolygu ddiwethaf. Mae angen i’r NOS adlewyrchu arferion, polisïau a therminoleg gyfredol ledled y DU, ac i fod yn berthnasol i bob un o’r pedwar partner yn y DU.

Beth rydyn ni wedi’i wneud hyd yma?

Rydyn ni wedi gweithio gyda Chyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban (SSSC), sy’n arwain yr adolygiad, a phartneriaid eraill yn y DU i adolygu’r 212 NOS presennol i sicrhau eu bod yn addas at y diben, ac yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr yn y sector i ateb gofynion gofal iechyd a chymdeithasol modern. Fel rhan o’r adolygiad hwn, cynhaliwyd dadansoddiad o’r bylchau i ddeall pa agweddau o’r NOS oedd angen eu diweddaru a sut, fel bod rhesymeg glir dros y newidiadau.

Pa feysydd penodol rydyn ni'n ymgynghori arnyn nhw?

Nododd yr adolygiad rai bylchau yn y cynnwys. Er enghraifft:

  • Ymarfer ay’n seiliedig ar drawma
  • urddas, caredigrwydd a thosturi
  • cyfranogiad a gwneud penderfyniadau
  • niwroamrywiaeth
  • cynaliadwyedd

Rydyn ni wedi ymdrin â’r bylchau hyn drwy gydol y NOS diwygiedig.

Rydyn ni wedi diweddaru ac wedi symleiddio’r derminoleg i adlewyrchu arferion cyfredol. Mae’r derminoleg yn adlewyrchu’r rolau a’r cyfrifoldebau disgwyliedig. Er enghraifft, defnyddio geiriau sy’n adlewyrchu lefelau gwahanol o gyfrifoldeb, megis:

  • cefnogi
  • hyrwyddo
  • arwain

Canfuwyd meysydd o ddyblygu rhwng ac o fewn NOS Iechyd a Gofal Cymdeithasol a NOS Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant. Roedd rhai NOS bron yn union yr un fath. Lle bo’n briodol, mae’r NOS wedi’u cyfuno. Rydym wedi symleiddio nifer y meini prawf perfformiad a’r pwyntiau gwybodaeth ac wedi dileu ‘gwybodaeth gyffredin’.

Wrth edrych ar y samplau o’r NOS, rydym am wybod a ydych yn meddwl ein bod wedi gwneud y newidiadau yn ddigon da.

Samplau o'r NOS

Pwy sydd wedi bod yn rhan o adolygu’r NOS?

Mae’r adolygiad yn un ledled y DU.

Drwy gydol yr adolygiad, rydym wedi gweithio mewn cydweithrediad â:

  • grwpiau cynghori rhanddeiliaid amrywiol ledled y DU
  • grŵp datblygu’r SSSC
  • arbenigwyr pwnc
  • cynrychiolwyr o’r sector
  • pobl sydd â phrofiad byw o wasanaethau gofal a chymorth.

Ar gyfer pwy mae’r ymgynghoriad hwn?

Rydyn ni am glywed gan bobl sydd â diddordeb yn y NOS, p’un a ydych yn:

  • weithiwr gofal cymdeithasol
  • ymarferydd blynyddoedd cynnar
  • cyflogwr
  • darparwr hyfforddiant
  • unigolyn sy’n defnyddio gwasanaethau gofal, neu’n gofalu am rywun sy’n defnyddio gwasanaethau.

Sut alla i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad?

Mae’r ymgynghoriad ar agor o 4 Awst tan 19 Medi 2025.

  • Ymgynghoriad ar-lein yw hwn. Bydd angen i chi ei gwblhau mewn un tro, nid yw’n cadw’ch cynnydd.
  • Cyn dechrau’r ymgynghoriad, edrychwch ar y pedwar sampl o’r NOS a ddarperir. Fe welwch enghreifftiau o’r gwelliannau rydyn ni wedi’u gwneud yn glir, ac mae’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â’r pwyntiau hyn.
  • Mae’r ymgynghoriad yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau.

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad

Ewch i'n harolwg ar-lein i roi eich barn