Mae mwy na 70 aelod o Ganolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe wedi cwblhau rhaglen arobryn Gofalwn Cymru, Cyflwyniad i ofal cymdeithasol, sy’n helpu i'w rhoi ar y llwybr i yrfa ym maes gofal. Ers hynny, mae 35 ohonynt wedi mynd ymlaen i weithio ym maes gofal cymdeithasol.
Cwblhaodd tri grŵp o Ganolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe y rhaglen ar-lein dros gyfnod o dridiau yn 2022. Buont yn dysgu am weithio ym maes gofal cymdeithasol, pa rolau sydd ar gael a'r cyfrifoldebau sy'n dod gyda nhw.
Mae'r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Gofalwn Cymru, Canolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe a Gweithio Abertawe, ac mae’n gam pwysig i sicrhau bod y gweithlu gofal cymdeithasol yn cynrychioli'r cymunedau maen nhw'n gweithio ynddynt. Mae hefyd yn ceisio dod â mwy o brofiad ac amrywiaeth i'r gweithlu.
Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn rhaglen y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn cael mentor i helpu i'w paratoi am swyddi, os ydynt yn penderfynu dechrau gyrfa ym maes gofal cymdeithasol. Mae rôl y mentor yn cynnwys rhannu sgiliau cyfweld a thrafod pa gymwysterau y gallai fod eu hangen.