Jump to content
Gofalwn Cymru yn ennill gwobr datblygu'r gweithlu rhanbarthol yng Ngwobrau Gofal Prydain Fawr
Newyddion

Gofalwn Cymru yn ennill gwobr datblygu'r gweithlu rhanbarthol yng Ngwobrau Gofal Prydain Fawr

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae tîm 'Cyflwyniad i ofal cymdeithasol' Gofalwn Cymru wedi ennill gwobr datblygu'r gweithlu yn rownd ranbarthol Gwobrau Gofal Prydain Fawr.

Cafodd y tîm ei enwebu oherwydd ei raglen lwyddiannus yn cynnig hyfforddiant i bobl sy'n ystyried dechrau gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.

Mae cyflwyniad i ofal cymdeithasol yn rhaglen hyfforddi ar-lein am ddim i unrhyw un dros 18 oed sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.

Mae'n trafod yr hanfodion sydd eu hangen i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol, fel cyfathrebu, cadw pobl yn ddiogel ac arferion gwaith.

Meddai Sam Thomas, Arweinydd Ymgysylltu a Datblygu Gofalwn Cymru:

"Mae ennill y wobr hon wedi rhoi hwb mawr i'n tîm 'Cyflwyniad i ofal cymdeithasol'.

"Rydyn ni eisiau rhoi'r cyfle i gymaint o bobl â phosib weithio ym maes gofal cymdeithasol, sy'n yrfa mor werth chweil.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r tîm wedi helpu dros 500 o bobl i gael hyfforddiant sylfaenol mewn gofal cymdeithasol i roi cychwyn i’w gyrfaoedd.

"Mae'r wobr hon yn amlygu pa mor galed y mae'r tîm wedi gweithio i wireddu hynny."

Nod Gwobrau Gofal Prydain Fawr yw codi proffil gofal cymdeithasol drwy dynnu sylw at y bobl sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Drwy seremonïau rhanbarthol, mae'r gwobrau’n dathlu rhagoriaeth ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Ar ôl cyrraedd y rownd derfynol ranbarthol, bydd y tîm 'Cyflwyniad i ofal cymdeithasol' yn cael gwybod a ydyn nhw wedi ennill gwobr genedlaethol datblygu'r gweithlu yn y rownd derfynol yn Birmingham fis nesaf.

Gallwch ddysgu mwy am y rhaglen 'Cyflwyniad i ofal cymdeithasol' ar wefan Gofalwn Cymru.