Jump to content
55 o gyflogwyr yn ymuno â chynllun cyfweliad gwarantedig newydd
Newyddion

55 o gyflogwyr yn ymuno â chynllun cyfweliad gwarantedig newydd

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae mwy na 50 o gyflogwyr wedi ymuno â chynllun newydd i helpu mwy o bobl gael swydd mewn gofal cymdeithasol.

Bydd y cynllun, a reolwyd gan Gofalwn Cymru, yn helpu unrhyw un sydd wedi cwblhau’r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol gael cyfweliad, a gwneud hi’n haws iddyn nhw gael swydd mewn gofal cymdeithasol.

Mae’r cynllun yn bartneriaeth gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol ar draws Cymru ac yn helpu pobl sy’n chwilio am swyddi a chyflogwyr.

Mae’n cyflymu’r broses recriwtio, fel bod pobl yn gallu cychwyn mewn swyddi’n gynt ac yn rhoi mantais iddyn nhw dros bobl eraill sy’n ceisio am yr un swyddi.

Mae hefyd yn helpu cyflogwyr ddod o hyd i’r bobl iawn i’r swyddi iawn, ac yn eu galluogi nhw i ddewis pobl sydd â gwir ddiddordeb mewn gofal cymdeithasol.

Sut mae’n gweithio

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol, bydd Gofalwn Cymru yn rhoi rhestr o gyflogwyr iddyn nhw sydd wedi ymuno â’r cynllun cyfweliad gwarantedig.

Gall unrhyw un sydd wedi cwblhau’r rhaglen gysylltu â’r cyflogwyr yma i drefnu cyfweliad ffurfiol ar gyfer rôl gydag un o’r cwmnïau yma.

Bydd Gofalwn Cymru yn eu cyfeirio at borthol swyddi Gofalwn Cymru sy’n hysbysebu swyddi gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys rhai sy’n rhan o’r cynllun cyfweliad gwarantedig.

Mae hyfforddwr gwaith Gofalwn Cymru hefyd ar gael i ddarparu hyfforddiant iddyn nhw i wella’u sgiliau cyfweliad, er mwyn eu paratoi ar gyfer cymryd eu camau cyntaf mewn gyrfa gofal cymdeithasol.

“Cynllun arbennig”

Lansiwyd y cynllun ym mis Gorffennaf ar ôl peilot llwyddiannus gyda Grŵp Pobl, darparwr tai, cymorth a gofal yng Nghasnewydd. Mae Pobl eisoes wedi cyflogi tri pherson ar ôl defnyddio’r cynllun cyfweliad gwarantedig.

Dywedodd Richard Barnes, Pennaeth Denu Talent ym Mhobl:

“Mae’n gynllun arbennig sy’n rhoi cyflwyniad cryf i’r sector. Mae gan y bobl rydyn ni eisoes wedi’u cyflogi agweddau gwych, dealltwriaeth dda o’u rolau newydd a dyfodol disglair o’u blaenau.”

Cymerwch ran

Os ydych chi’n gyflogwr gofal cymdeithasol a hoffech chi ymuno â’r cynllun neu ddysgu mwy amdano, mae Gofalwn Cymru yn rhedeg sesiwn gwybodaeth ar 13 Medi. Archebwch eich lle ar Eventbrite.