Jump to content
Fframwaith hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol bellach ar gael
Newyddion

Fframwaith hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol bellach ar gael

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi cyhoeddi fframwaith dysgu, hyfforddiant a datblygu newydd i helpu pobl sydd â chyfrifoldebau diogelu yng Nghymru.

Lansiwyd y fframwaith newydd mewn digwyddiad arbennig yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu.

Mae'n ychwanegiad at y safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol a lansiwyd y llynedd.

Mae'r fframwaith yn cynnwys canllawiau a dadansoddiadau o’r mathau o hyfforddiant diogelu a all helpu ymarferwyr a sefydliadau i wella diogelu yng Nghymru, a hyd a lled yr hyfforddiant hwnnw.

Datblygwyd y fframwaith gyda'r Byrddau Diogelu Rhanbarthol, sy'n gyfrifol am Weithdrefnau Diogelu Cymru.

Mae gan y Byrddau aelodau o wahanol asiantaethau sydd â chyfrifoldebau diogelu, gan gynnwys yr heddlu, addysg a gofal cymdeithasol.

Meddai Sue Evans, ein Prif Weithredwr:

"Pan wnaethon ni siarad gyda phobl ym maes gofal cymdeithasol ac asiantaethau partner am y safonau diogelu, roedd hi’n amlwg bod angen rhywbeth arnyn nhw i helpu i'w roi ar waith.

"Trwy arwain grŵp datblygu amlasiantaeth, rydyn ni wedi gallu sicrhau bod y fframwaith yn gyflawn ac yn hyrwyddo cyfleoedd i hyfforddi a diogelu gyda'n gilydd."

Meddai Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg a Chadeirydd Bwrdd Prosiect Gweithdrefnau Diogelu Cymru:

"Gwnaeth Cymru benderfyniad cadarnhaol sawl blwyddyn yn ôl i ddatblygu un gyfres o weithdrefnau diogelu i'w defnyddio ledled y wlad.

"Gydol y gwaith o ddatblygu’r gweithdrefnau hyn, clywsom am yr angen i hyfforddi a datblygu ein gweithlu.

"Mae'r fframwaith hwn yn rhoi sylfaen heb ei ail i’r safonau hyfforddi sydd ar waith a dylai ein galluogi i gyflwyno ymarfer cyson o ansawdd uchel ledled Cymru."

Gwyliwch fideo o’r lansiad

Gallwch wylio recordiad o'r lansiad ar dudalen we’r fframwaith.

Mae'r recordiad yn cynnwys anerchiad gan Tony Young, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru.

Mae sesiwn holi ac ateb hefyd yng nghwmni Lance Carver, ac Esyllt Crozier a Cheryl Stevens, Rheolwyr Gwella a Datblygu ar gyfer Diogelu yn Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gwyliwch y fideo

Ar dudalen y fframwaith