Jump to content
Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2024
Newyddion

Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2024

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Wythnos yma, rydyn ni’n dathlu Wythnos Gwaith Cymdeithasol.

Bob dydd ledled Cymru, mae gweithwyr cymdeithasol yn cynnig eu cyngor a chymorth proffesiynol i rai o aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas. Mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol yn rhoi'r cyfle i ni nodi'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud ledled y wlad a diolch i weithwyr cymdeithasol proffesiynol sy'n gweithio'n galed ac sy'n ymroddedig i rymuso a chefnogi eraill.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Mae’r gwaith y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud bob dydd ledled Cymru yn rhan sylfaenol o’n gwasanaeth cyhoeddus.

“Mae gweithwyr cymdeithasol yn grymuso pobl, yn hybu eu hannibyniaeth a hefyd yn helpu i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl, a hoffwn ddiolch yn bersonol iddyn nhw am ddewis y proffesiwn gwerthfawr a gwerth chweil hwn.

”Rydyn ni wedi trefnu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau ar gyfer yr wythnos, sydd yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ymarferwyr, myfyrwyr, cyflogwyr a phobl sy’n derbyn gofal a chymorth.

Mae’r digwyddiadau’n canolbwyntio ar gydweithio, llesiant a meysydd gwella ymarfer. Bydd siaradwyr o BASW Cymru, Gofalwyr Cymru, Prifysgol Caerdydd ac awdurdodau lleol yn ymuno â ni, yn ogystal ag arbenigwyr mewn meysydd fel llesiant, niwroamrywiaeth ac ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau.

Byddwn ni hefyd yn rhannu fideos am bwysigrwydd gwaith cymdeithasol a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i fywydau pobl agored i niwed ledled Cymru.

Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol trwy gydol yr wythnos i weld negeseuon ysbrydoledig.

Dilynwch ni ar:

Neges o ddiolch i'n gweithwyr cymdeithasol

Gwyliwch y neges fideo yma gan Sue Evans, ein Prif Weithredwr.