Cynhaliwyd Wythnos Gwaith Cymdeithasol o ddydd Llun 18 Mawrth i ddydd Gwener 22 Mawrth. Daeth â phobl at ei gilydd i ddathlu gwaith cymdeithasol.
Yn ystod yr wythnos, fe wnaethon ni gynnal cyfres o ddigwyddiadau oedd yn canolbwyntio ar gydweithio, cydgynhyrchu, llesiant a meysydd gwella ymarfer.
Ac ar ddydd Mawrth 19 Mawrth fe wnaethon ni ddathlu Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd trwy rannu negeseuon fideo ysbrydoledig gan arweinwyr gwaith cymdeithasol.