Jump to content
Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2024 - Bywgraffiadau'r siaradwyr

Darllenwch y bywgraffiadau isod i wybod mwy am y siaradwyr sy'n arwain ein sesiynau yn ystod Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2024.

Samantha Baron, Athro Emeritws mewn Gwaith Cymdeithasol

Samantha yw Cyfarwyddwr Cenedlaethol BASW (Cymru).

Mae gan Sam brofiad sylweddol fel gweithiwr cymdeithasol ar ôl cymhwyso bron i 40 mlynedd yn ôl. I ddechrau, bu Samantha yn ymarfer o fewn y system cyfiawnder troseddol yn Lloegr, cyn gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl statudol fel pennaeth gwasanaeth.

Yn ddiweddarach daeth yn Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion a'r Brifysgol Agored. Fel Athro, cynghorodd Sam y rheoleiddiwr gwaith cymdeithasol, Whitehall a San Steffan, ar bolisi ac ymarfer gwaith cymdeithasol. Hi yw awdur “DHSC Practice Framework for Strengths-Based Practice”.

Rebecca Cicero, Rheolwr Gwella a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru

Prif feysydd Rebecca yw arweinyddiaeth a llesiant. Mae'n angerddol am greu diwylliant o arweinyddiaeth dosturiol, sy'n ymrwymiad yn strategaeth gweithlu Cymru Iachach Llywodraeth Cymru.

Arweiniodd Rebecca hefyd ar ddatblygu Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith llesiant ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Mae Rebecca wedi gweithio gyda'r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gefnogi gweithredu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Mae ganddi brofiad o fod yn weithiwr cymorth ym maes iechyd meddwl oedolion, a gweithio fel rheolwr polisi ac ymchwil yn Llywodraeth Cymru.

Dr Giles P Croft

Mae Giles yn raddedig mewn seicoleg ac yn gyn lawfeddyg y GIG sydd wedi treulio’r 17 mlynedd diwethaf yn archwilio’r syniad o’r hyn sy’n ein gwneud ni’n hapus. Trwy brofi a methu, amrywiaeth o yrfaoedd, hyfforddi unigolion un-i-un a chynnal gweithdai grŵp, mae wedi darganfod beth sy'n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio.

Dros y pedair blynedd diwethaf mae wedi mynd â channoedd o staff gofal cymdeithasol drwy ei “Raglen Ailgysylltu” chwe wythnos, sy’n helpu gweithwyr i weld drostynt eu hunain sut i gael profiad gwell o’r gweithle. Yn 2021, canfu corff cynghori annibynnol mai ei ddull gweithredu arloesol ef oedd y ffordd fwyaf effeithiol o wella llesiant unigolion, allan o fwy na 200 o ymyriadau gwahanol ledled y DU.

Rhoda Emlyn-Jones OBE MA Moeseg Gymdeithasol, CQSW, Dip SW

Mae Rhoda wedi gweithio yn y sectorau gwirfoddol a statudol ers y 1970au, gan helpu i ddatblygu gwasanaethau oedolion a phlant, iechyd a gofal cymdeithasol.

Dyfarnwyd Cymraes y Flwyddyn iddi yn 2007 am ei chyfraniadau arloesol at arfer a chyflwyno effeithiol. Derbyniodd yr OBE yn 2008 am wasanaethau i deuluoedd difreintiedig trwy ddylanwadu ar fodelau arfer gorau ledled y DU.

Mae hi bellach yn gweithio mewn sefydliad annibynnol, yn cefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU i ddatblygu gweithlu strategol. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys meithrin sgiliau a gallu o fewn gwasanaethau cyhoeddus i rymuso unigolion, teuluoedd, a chymunedau.

Yr Athro Donald Forrester

Yr Athro Forrester yw Cyfarwyddwr Canolfan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall beth yw arfer da mewn gwaith cymdeithasol a sut y gallwn ni gefnogi gweithwyr cymdeithasol i ddarparu arfer gorau.

Mae wedi ymchwilio’n helaeth i’r defnydd o Gyfweld Ysgogiadol mewn gwaith plant a theuluoedd ac mae wedi ysgrifennu llyfrau “Motivational Interviewing for working with children and families: A practical guide for early intervention and child protection (2022)” a “The Enlightened Social Worker – An Introduction to Rights-Focused Practice (2024)”.

Alice Lewis-Gray

Mae Alice Lewis-Gray yn frwd dros wella gwybodaeth a dealltwriaeth o niwroamrywiaeth ymhlith gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill.

Mae Alice yn weithiwr cymdeithasol profiadol, sydd wedi gweithio o fewn y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, yn cefnogi oedolion awtistig a’u teuluoedd, ac yn darparu ymgynghoriad i weithwyr proffesiynol.

Mae’r profiad hwn wedi dangos iddi pa mor bwysig yw hi bod gweithwyr proffesiynol yn deall niwroamrywiaeth fel y gellir addasu eu hymarfer, a chefnogi unigolion niwro-ddargyfeiriol i ffynnu.

Matt Lloyd

Matt Lloyd yw Rheolwr Rhaglen Atal a Lles Tîm Cymorth Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent (RPB). Mae'r rôl yn cynnwys cefnogi prosiectau ac arwain datblygiadau technoleg gynorthwyol.

Mae Matt wedi gweithio mewn sawl rôl ddigidol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ymunodd â’r GIG fel rheolwr prosiect yn 2020 cyn symud i’w rôl bresennol, sy’n cyfuno ei angerdd am dechnoleg ddigidol â’r agenda atal a llesiant.

Fiona McDonald

Mae Fiona yn ymgynghorydd llesiant yn y gweithle. Fel addysgwr ymarfer mae hi wedi cefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol sy'n niwroamrywiol. Derbyniodd Fiona ddiagnosis hwyr o ddyslecsia pan oedd yn astudio am radd Meistr mewn gwaith cymdeithasol.

Cydnabu’r effaith ehangach y mae dyslecsia yn ei chael a daeth yn angerddol dros helpu eraill sy’n gweithio i helpu proffesiynau niwroamrywiol. Dyfarnwyd Mentor arbenigol y flwyddyn iddi hefyd gan Beacon Support am ei gwaith gyda myfyrwyr ag anghenion ychwanegol.

Hannah Morland-Jones

Hannah Morland-Jones yw Arweinydd Profiad o Fyw ar gyfer y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru). Mae Hannah yn arwain ar ddatblygu canllawiau cenedlaethol ar gyfer Coleg Gweithlu a Choleg Adfer Profiad o Fyw.

Galluogodd profiad bywyd Hannah o heriau iechyd meddwl a’i chyfnod fel gweithiwr cymorth cyfoedion iddi sefydlu’r gwasanaeth iechyd meddwl cyntaf yng Nghymru sy’n cael ei arwain a’i gyd-gynhyrchu gan gyfoedion – Coleg Adfer a Llesiant Caerdydd a’r Fro.

Claire Phillips

Dechreuodd gyrfa 24-mlynedd Claire mewn timau plant a theuluoedd. Symudodd i faes maethu am saith mlynedd ac, ers tair blynedd ar ddeg, mae wedi gweithio ym maes ymarfer mabwysiadu.

Mae Claire yn teimlo ei bod yn fraint gweithio ym maes mabwysiadu ac ymarfer drwy lens sy’n ystyriol o drawma. Ers bod mewn rôl reoli, mae Claire wedi cael ei denu at faes straen trawmatig ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a staff, a datblygu strategaethau sy’n ymateb yn dosturiol i straen trawmatig.

Meilys Heulfryn Smith

Yn ei rôl fel Uwch Reolwr Cefnogi Iechyd a Lles yng Nghyngor Gwynedd, mae Meilys Heulfryn Smith yn arwain tîm sydd â’r bwriad o “gefnogi pobl i gael bywyd da yn eu cymuned”.

Mae’r tîm yn credu’n gryf bod gan dechnoleg rôl allweddol i’w chwarae wrth wireddu’r weledigaeth hon, ac mae’n cymryd rhan weithredol mewn nifer o brosiectau arloesol i archwilio sut y gellir defnyddio technoleg bresennol yn well er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl.

Jake Smith

Jake Smith yw Swyddog Polisi Gofalwyr Cymru, yr elusen aelodaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr di-dâl.

Mae wedi darparu hyfforddiant i gannoedd o weithwyr cymdeithasol ledled Cymru drwy’r prosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ofalwyr yn ymdrin ag Egwyddorion Arfer Da, y mae Gofalwyr Cymru wedi’u cynhyrchu ar y cyd â gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr. Yn ystod yr hyfforddiant, mae gweithwyr cymdeithasol wedi trafod yr heriau a’r arferion cadarnhaol y maent wedi’u gweld wrth gefnogi gofalwyr.

Dr Lucy Treby

Mae Lucy yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig sy’n gweithio mewn awdurdod lleol ar hyn o bryd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau. Dros y blynyddoedd mae hi wedi cael amrywiaeth o rolau ym maes plant a theuluoedd. Yn ddiweddar, cwblhaodd ei doethuriaeth broffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd, a archwiliodd ‘Y berthynas rhwng goruchwyliaeth ac ymarfer mewn gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd’.

Aimee Twinberrow

Aimee yw Arweinydd Arloesedd Digidol Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae ganddi fwy na 14 mlynedd o brofiad ym maes gofal cymdeithasol. Dechreuodd Aimee ei gyrfa fel gweithiwr cymorth i oedolion ag anableddau dysgu. Cwblhaodd ei gradd meistr mewn gwaith cymdeithasol yn 2013 a bu’n gweithio yn ne Cymru fel gweithiwr cymdeithasol yng ngwasanaethau oedolion. Mae'n parhau i fod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig.

Treuliodd Aimee bedair blynedd yn rheoli gwasanaethau rheng flaen yn y gymuned, gan gynnwys gofal cartref a thechnoleg gynorthwyol, ac mae ganddi dystysgrif NVQ lefel 5 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae Aimee yn frwd dros hybu arloesedd digidol ym maes gofal cymdeithasol. Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, treuliodd 18 mis yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn arwain prosiectau’n ymwneud ag AI ac arloesi digidol.

Cerian Twinberrow

Mae Cerian yn Swyddog Ymgysylltu a Datblygu Gwaith Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae ei rôl yn cynnwys hyrwyddo gwaith cymdeithasol fel proffesiwn sy'n cael ei werthfawrogi.

Mae Cerian wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros 30 mlynedd, gan ganolbwyntio ar gefnogi oedolion. Cwblhaodd ei gradd meistr mewn gwaith cymdeithasol yn 2006 a bu’n gweithio yng Nghymru a Lloegr mewn gwasanaethau gwirfoddol a statudol i oedolion am 16 mlynedd. Mae'n parhau i fod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig.

Paul Whittaker

Mae Paul Whittaker yn Rheolwr Prosiect Gweithlu (Cymorth Cyfoedion) ar gyfer y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.[AE1] Yn ddiweddar, cyd-gynhyrchodd a chyd-gyflwynodd Paul y cwrs hyfforddi Archwilio Gofal sy’n Canolbwyntio ar Berthynas, rhaglen bartneriaeth rhwng AaGIC, Gofal Cymdeithasol Cymru, Cymorth Cyfoedion Bwriadol a Phrifysgol Abertawe.

Mae Paul yn hyfforddwr cyfoedion ac yn ymgynghorydd yng Ngholeg Adfer a Llesiant Caerdydd a’r Fro. Mae wedi gweithio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel ymarferydd iechyd a chelfyddydau deubegwn.

David Wilkins

Mae Dr David Wilkins yn Ddarllenydd ac yn gyfarwyddwr rhaglen y cwrs MA Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae David yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae ei ymchwil wedi canolbwyntio’n bennaf ar oruchwyliaeth broffesiynol mewn gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd, a sut mae’n cefnogi arfer da a gwneud penderfyniadau.

Mae David hefyd ar hyn o bryd yn cynnal ymchwil sy'n edrych ar gywirdeb dyfarniadau gwaith cymdeithasol, a'r berthynas rhwng dyfarniadau mwy cywir a gwneud penderfyniadau mwy effeithiol.

Cyhoeddwyd gyntaf: 30 Ionawr 2024
Diweddariad olaf: 28 Chwefror 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (61.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch