Rydyn ni’n falch i gyhoeddi bod Dawn Bowden AS, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, wedi lansio heddiw y Cynllun cyflawni gweithlu gofal cymdeithasol 2024 i 2027.
Mae’r cynllun cyflawni yn cynnwys y camau gweithredu gofal cymdeithasol ar gyfer Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol hyd at 2027, a gafodd ei lansio yn 2020 ac sy’n nodi ein hamcanion ar gyfer y gweithlu dros 10 mlynedd
Mae'r cynllun cyflawni yn adeiladu ar gynnydd y strategaeth ers 2020. Mae'n cynnwys camau gweithredu sy'n seiliedig ar yr adborth a glywsom yn ystod ein gwaith ymgysylltu, wrth ymgynghori a thrwy arolwg y gweithlu.
Dywedodd Dawn Bowden AS, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: “Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi ein gweithlu gofal cymdeithasol medrus, ymroddedig a thosturiol, ac annog eraill i ymuno â’r proffesiwn.
“Mae Cynllun Cyflawni’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol, yn hollbwysig, wedi’i lunio gan fewnwelediad a phrofiadau’r gweithlu. Bydd yn sicrhau bod cyd-ddealltwriaeth a gweledigaeth ar gyfer sut rydyn ni'n symud ymlaen gyda'n gilydd, i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein gweithwyr gofal cymdeithasol.
“Nid oes unrhyw atebion cyflym ond rwyf wedi ymrwymo i ysgogi’r newid y mae ein gweithlu gofal cymdeithasol gwerthfawr iawn ei angen ac yn ei haeddu.”
Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: "Mae hi'n fwy na thair blynedd ers i ni gyhoeddi’r strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol ac ers hynny, rydyn ni wedi gweld cynydd sylweddol ond hefyd heriau newydd.
“Mae'r gweithlu'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r hyn sy'n bwysig i bobl a'u teuluoedd ar draws cymunedau yng Nghymru, ond maen nhw’n dal i deimlo effaith barhaus y pandemig.
“Mae llesiant staff hefyd yn cael ei effeithio gan straen, blinder, amodau gwaith gwael canfyddedig, a theimlo nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol a'u bod yn cael eu tandalu am eu gwaith.
“Y cynllun cyflawni uchelgeisiol yma yw galwad y sector gofal cymdeithasol i weithredu. Bydd y cynllun yn ein galluogi i barhau i gydweithio yn y tymor byr ac yn hir dymor ar y camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â heriau'r gweithlu a chefnogi'r gweithlu a'u llesiant wrth ddarparu cymorth o ansawdd.
Ychwanegodd Sarah McCarty, ein Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu: “ Mae’r gweithlu’n hanfodol i ddarparu gwasanaethau a chymorth gofal cymdeithasol o ansawdd i bobl Cymru.
“Mae'r cynllun hwn a'r camau gweithredu rydyn ni wedi nodi yn adlewyrchu'r hyn a glywsom, ac mae’n tynnu i mewn tystiolaeth a data am yr hyn sy'n bwysig i'r gweithlu, i unigolion sy'n defnyddio gofal a chymorth, a chyflogwyr sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau.
“Ein nod yw cael gweithlu brwdfrydig, ymrwymedig a gwerthfawr gyda’r gallu, y cymhwysedd a’r hyder i gwrdd ag anghenion pobl Cymru.
“Bydd angen i ni weithio gydag eraill i gyflawni'r camau gweithredu. Byddwn ni’n sefydlu grŵp gweithredu strategol cenedlaethol i helpu wireddu’r uchelgeisiau hyn ac i sicrhau bod y cynllun yn parhau i ymateb i anghenion y sector wrth symud ymlaen.
“Hoffem ni ddiolch i bawb a gyfrannodd ac a helpodd i lunio'r cynllun cyflawni gweithlu. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid ar draws y sector i gyflawni'r camau gweithredu.”