Jump to content
Adroddiad newydd yn dangos amrywiaeth o ran cynllunio gweithlu gofal cymdeithasol ledled Cymru
Newyddion

Adroddiad newydd yn dangos amrywiaeth o ran cynllunio gweithlu gofal cymdeithasol ledled Cymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae adroddiad newydd yn tynnu sylw at yr amrywiaeth yn y ffordd y mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn cynllunio’r gweithlu ar gyfer gofal cymdeithasol, a’r angen am fwy o fuddsoddiad i helpu rhai i ddatblygu eu dull gweithredu.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod y pandemig Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar amcanion cynllunio’r gweithlu.

Fe wnaethom ni gomisiynu Practice Solutions i ymchwilio i 'gyflwr presennol' cynllunio gweithlu ledled Cymru ac edrych ar yr hyn sydd ei angen yn y dyfodol.

Dysgon ni fod:

  • cynllunio’r gweithlu yn amrywio ledled Cymru
  • cafodd y pandemig Covid-19 effaith sylweddol ar amcanion 
  • gall cynllunio gweithlu fod yn llwyddiannus, pan fydd strategaethau corfforaethol a gwasanaethau cymdeithasol yn cyd-fynd a thimau'n cydweithio
  • lle mae cynllunio gweithlu wedi'i ddatblygu'n dda, defnyddir technegau ac arferion mwy soffistigedig
  • byddai sawl awdurdod lleol yn falch o gael cymorth, mwy o gapasiti ac adnoddau i ddatblygu eu dulliau cynllunio gweithlu 
  • mae angen symud o gynllunio gweithlu gweithredol i strategol, wedi'i ategu gan fuddsoddiad yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. 

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Mae’r adroddiad hwn yn rhoi mewnwelediad gwych i ni o’r dulliau cynllunio gweithlu gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru, ond mae hefyd yn amlygu’r cyfyngiadau a’r heriau a wynebir i sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn addas ar gyfer y dyfodol.

“Mae cynllunio’r gweithlu yn rhan allweddol o gyflenwad a galw’r gweithlu, yn seiliedig ar gynllunio gwasanaethau a modelu i ddiwallu anghenion pobl. Ond mae’r adborth a gawsom yn dangos nad yw’r sector yn teimlo ei fod yn deall y gweithlu’n ddigon da ac nad oes ganddo’r data a’r wybodaeth gywir i gynllunio’r gweithlu’n effeithiol.”

Ychwanegodd Sue Evans: “Mae’r argymhellion o’r adroddiad hwn yn cynnig gwelliannau posibl ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol i ni fel sector eu hystyried a’u cynllunio gyda’n gilydd.”

“Rydyn ni’n gwybod y bydd mwy o bobl yn dibynnu ar ofal cymdeithasol dros yr 20 mlynedd nesaf, felly mae'n hanfodol bod gennym systemau cynllunio gweithlu effeithiol ar waith i fodloni'r galw hwn.

“Rhaid i ni hefyd barhau i wneud yn siŵr fod gennym ni weithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig, sy’n cael ei ymgysylltu a’i werthfawrogi, ac sydd â’r gallu, y cymhwysedd a’r hyder i ddiwallu anghenion pobl Cymru.”

Darganfod mwy

Darllenwch y crynodeb gweithredol neu e-bostiwch strategaethgweithlu@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech gopi o’r adroddiad llawn.