Skip to main content
Hygyrchedd ar y wefan

Covid-19: Gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'ch cefnogi trwy'r pandemig

Tudalen hafan Covid-19
Gofal a chymorth yn y cartref

Mae gofal a chymorth yn y cartref yn un o'n tri maes blaenoriaeth ar gyfer gwella gwasanaethau. Dysgwch fwy am y cynllun strategol a pha adnoddau rydyn ni wedi'u datblygu i'w gefnogi.

Beth yw gofal a chymorth yn y cartref?

Gofynnwyd i ni gan Lywodraeth Cymru i ddod â phobl a sefydliadau at ei gilydd i ddatblygu cynllun strategol pum mlynedd i wella gofal a chymorth yn y cartref yng Nghymru. Mae'r cynllun strategol yn cynnwys gofal a chymorth cartref ar gyfer oedolion a phlant, taliadau uniongyrchol a'r gefnogaeth mae cymunedau a gofalwyr di-dâl yn eu ddarparu.

Cawson ni bobl at ei gilydd, edrych ar gasgliadau'r ymchwil a gofyn i bobl sy'n byw a gweithio ledled Cymru beth oedd eisiau ei wneud i wella gofal a chymorth yn y cartref.

Gweithion ni gyda phartneriaid i greu cynllun strategol pum mlynedd sy'n disgrifio yr hyn ddylai ddigwydd fel y gall pobl fyw yn eu cartrefi eu hunain a chael mynediad i ofal a chymorth pryd, ble a sut y mae ei angen arnynt.

Adnodd taliadau uniongyrchol

Taliadau uniongyrchol: canllaw

Mae’r taliadau uniongyrchol: canllaw yn cefnogi ymarfer da drwy roi mynediad i wybodaeth hanfodol, astudiaethau achos, data, ac ymchwil am daliadau uniongyrchol.

Ein gwaith i wella gofal a chymorth yn y cartref yng Nghymru

Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu adnoddau penodol i gefnogi gwelliant mewn gofal a chymorth yn y cartref:

Dyfeisgarwch cymunedol

Buom yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu adroddiad am wydnwch cymunedol a llesiant yng Nghymru. Mae'n cynnwys egwyddorion drafft i helpu i ddeall sut y gallwn gefnogi datblygu gwytnwch cymunedol.

Cydbwyso risgiau, hawliau a chyfrifoldebau

Gall cydbwyso risgiau, hawliau a chyfrifoldebau fod yn anodd fel y gwelir risg yn aml fel rhywbeth i'w osgoi a’r reoli gan weithwyr proffesiynol. Mewn gwirionedd, mae cymryd rhai risgiau yn rhan bwysig o fywyd bob dydd sy'n cefnogi pobl i wneud yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw - sy'n cynnwys byw yn eu cartrefi eu hunain cyhyd a bo modd. Rydym wedi cynhyrchu adroddiad edrych ar yr hyn mae'r ymchwil yn ei ddweud a sut mae pobl yn cymryd ymagwedd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i gydbwyso risg, hawliau a chyfrifoldebau.

Caffael gofal cymdeithasol

Mae caffael gofal cymdeithasol yn gymhleth oherwydd bod angen iddo gadw at gyfraith caffael ac egwyddorion megis llais, rheolaeth a chyd-gynhyrchu yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Buom yn gweithio gyda'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol i ddatblygu canllawiau i helpu comisiynwyr gyda’r maes gwaith hwn.

Comisiynu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau

Mae’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol wedi datblygu pecyn cymorth i helpu comisiynwyr i weithio mewn ffordd sy'n cefnogi canlyniadau llesiant pobl.

Pecyn cymorth comisiynu gofal cartref sy'n seiliedig ar ganlyniadau

Ymchwil

Mae'r Sefydliad Er Rhagoriaeth mewn Gofal (SCIE) wedi ysgrifennu adolygiad llenyddiaeth, sy'n crynhoi'r ymchwil o gwmpas gofal a chymorth yn y cartref.

Adnoddau defnyddiol eraill

Yn ogystal â'r rhaglen gwaith gofal a chymorth yn y cartref, rydym wedi cysylltu â gwaith arall sy'n cefnogi llesiant unigolion, gofalwyr a chymunedau.

Mae Dewis Cymru yn wefan gyda gwybodaeth am grwpiau, sefydliadau a gwasanaethau lleol ledled Cymru sy'n cefnogi unigolion a llesiant cymunedau.

Gweithio gyda gofalwyr

Mae gennym ystod o adnoddau gyda'r nod o helpu ymarferwyr i weithio'n dda gyda gofalwyr di-dâl i'w cefnogi yn y rôl arwyddocaol iawn maent yn ei chwarae o ran darparu gofal a chymorth yn y cartref.

Adeiladu Gofal a Chymorth gyda'n Gilydd

Mae cyd-gynhyrchu wrth wraidd gofal a chymorth da yn y cartref. Rydym wedi cynhyrchu llyfryn, Adeiladu Gofal a Chymorth gyda'n Gilydd i helpu pobl i weithio mewn ffordd fwy cyd-gynhyrchiol yn amlach yn eu rolau. Mae'r llyfryn, sy'n seiliedig ar weithdai yn 2017 a 2018, yn rhoi cyngor ac atebion ymarferol gan y bobl sy’n brofiadol yn y maes.

Mae’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a'r Fforwm Darparwyr Cenedlaethol yn bartneriaid allweddol, sy’n cefnogi gwelliant mewn gofal a chymorth yn y cartref, yn arbennig o gwmpas comisiynu.

Mae deall gwerth gofal cymdeithasol i'r economi yn bwysig i’w hystyried i bobl sy'n gwneud penderfyniadau am wariant cyhoeddus. Mae Gwerth Economaidd y Sector Gofal Cymdeithasol i Oedolion - Adroddiad Cymru yn edrych ar werth uniongyrchol gofal cymdeithasol i oedolion i economi Cymru. Mae hefyd yn ystyried ei effaith ehangach, gan gynnwys ar sefydliadau sy'n cyflenwi gwasanaethau i'r sector a grym gwario pobl sy’n cael eu cyflogi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ym maes gofal cymdeithasol.

Gweithlu gofal cartref yw'r grŵp diweddaraf i ymaelodi â'n cofrestr o weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol.

Cofrestru gweithwyr gofalcartref

Mae'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AWIF) wedi cael ei ddatblygu ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae'n rhan bwysig o gofrestru ac yn cyd-fynd yn agos â'r cymwysterau ar gyfer y gweithlu gofal cartref.

Mae cymwysterau ar gyfer gweithlu gofal a chymorth yn y cartref yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Bydd y rhain yn chwarae rhan bwysig mewn cofrestru gweithwyr gofal cartref, ond yn addas ar gyfer swyddi eraill o fewn gofal a chymorth yn y cartref hefyd.

Mae man penodol yng nghynlluniau gofal a chymorth yn y cartref ynghylch tystiolaeth o waith ymchwil academaidd ac seiliedig ar ymarfer. Mae hyn yn cael ei ddatblygu drwy strategaeth a rhaglen o waith ar wahân.

Sicrhau llesiant drwy ddyfeisgarwch cymunedol

Adeiladu ar ymateb y gymuned i Covid

Fe wnaeth pandemig Covid-19 gael effaith ddramatig ar sut roedd pobl yn cael gafael ar ofal a chymorth. Mewn sawl rhan o Gymru, daeth pobl ynghyd i gefnogi ei gilydd. A chymaint oedd y galw, cafodd y gefnogaeth hon – dan arweiniad cymunedau – ei thanio o’r newydd.

Beth wnaethom ni?

Roedden ni am wybod sut gallen ni gefnogi partneriaid i adeiladu ar y ffordd yr ymatebodd cymunedau i Covid er mwyn cefnogi atal yn yr hirdymor ac ymyrraeth gynnar. Felly, comisiynwyd Hugh Irwin Associates i ymchwilio i’r mater.

Roedd y gwaith yn cynnwys ymchwil desg ac ymgysylltu â chynrychiolwyr o’r trydydd sector, gofal cymdeithasol, iechyd a sefydliadau tai.

Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, newidiodd ein barn. Fe wnaethom ni symud o feddwl am gadernid cymunedau a’r ffordd maen nhw’n taro yn ôl yn wyneb yr heriau, gan symud ymlaen at y cryfderau a’r adnoddau sydd gan gymunedau a pha mor barod ydyn nhw i ymateb i wahanol sefyllfaoedd (dyfeisgarwch cymunedol yw’r enw rydyn ni’n ei roi ar hyn).

Canlyniadau’r gwaith

Mae gennym ni nawr fforwm cenedlaethol – y Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar – a fframwaith neu strwythur i’n helpu i ffocysu ein sgyrsiau ar sut gall ein cymunedau gefnogi llesiant.

Y Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar

Mae’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar yn fforwm cenedlaethol sy’n canolbwyntio ar lesiant cymunedol. Mae’r bartneriaeth yn cyfarfod bob mis gan ddwyn ynghyd ymchwil ac ymarfer, ac mae’n ceisio dod o hyd i ffyrdd i ddylanwadu ar weithgarwch lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae gan y bartneriaeth gymysgedd o aelodau statudol a thrydydd sector ac mae croeso i unrhyw sefydliad yng Nghymru sy’n cefnogi a datblygu dyfeisgarwch cymunedol a llesiant.

Fframwaith

Mae’r fframwaith yn darparu strwythur (sy’n seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sydd wedi digwydd, ymhle mae’r rhwystrau a’r hyn sydd angen digwydd nesaf) er mwyn helpu i sicrhau bod sgyrsiau lleol a rhanbarthol yn canolbwyntio ar lesiant cymunedol.

Gellir defnyddio’r fframwaith i gefnogi’r asesiadau llesiant y bydd angen i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus eu hadnewyddu o 2021 a’r asesiadau anghenion poblogaeth sy’n cael eu cwblhau gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol.

Mae dwy adran i’r fframwaith: meysydd ffocws a galluogwyr.

Meysydd ffocws

Nodwyd y meysydd ffocws gan y bobl rydyn ni’n ymgysylltu â nhw fel rhan o’r gwaith hwn fel y meysydd sydd bwysicaf ac a all gael yr effaith fwyaf wrth gefnogi dyfeisgarwch cymunedol.

Mae’r meysydd yn edrych ar bwy sydd angen cyfrannu, y dulliau i’w defnyddio a sut i’w rhoi ar waith. Mae gan bob maes ddolenni i adnoddau, gan gynnwys adroddiadau ac enghreifftiau o ymarfer.

Dyma’r meysydd ffocws:

  • strwythurau gwleidyddol
  • partneriaethau statudol
  • arwain agweddau
  • profiadau pobl
  • comisiynu gofal cymdeithasol
  • cyllid anstatudol
  • tai cymdeithasol
  • gofal sylfaenol
  • economi sylfaenol
  • arolygu ac archwilio.

Galluogwyr

Gweithgareddau ac ymddygiadau a fydd yn helpu i greu’r amodau sydd eu hangen i gefnogi datblygiad dyfeisgarwch cymunedol – dyna yw galluogwyr.

Mae gan bob galluogwr:

  • nodau sy’n dadansoddi pob galluogwr yn gamau mwy penodol
  • gweithgareddau defnyddiol sy’n helpu i gyflawni nodau
  • dolenni i adnoddau defnyddiol.

Dyma’r galluogwyr:

  • arweinyddiaeth
  • gweithredu cymunedol
  • cyd-gynhyrchu
  • polisi
  • meddwl yn strategol
  • adnoddau
  • cydweithio
  • atal.

Camau nesaf

Bydd y Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar yn parhau i gyfarfod a datblygu ei haelodaeth a’i chamau gweithredu. Rydyn ni’n cefnogi’r bartneriaeth i ymsefydlu a byddwn ni’n parhau i gymryd rhan fel aelod o’r grŵp.

Byddwn yn profi’r fframwaith mewn dwy ran o Gymru, gyda ffocws ar atal ac ymyrraeth gynnar. Byddwn yn rhannu’r hyn y byddwn yn ei ddysgu mewn digwyddiadau ar-lein ac yn ei ddefnyddio i adolygu a choethi’r fframwaith.

Deall rôl ac effaith y trydydd sector wrth ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth

Mae'r trydydd sector yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi pobl yn eu cymunedau. Mae rhai sefydliadau'n darparu gwasanaethau gofal a chymorth a reoleiddir, ond mae llawer mwy yn cynnig cymorth eang ar gyfer lles unigolion a chymunedau. Yn aml, nid ydynt yn gweld hyn yn atal, lleihau neu ohirio angen pobl am ofal a chymorth neu'n cyfrannu at ganlyniadau lles personol.

Beth wnaethom ni?

Roeddem am gael gwybod mwy am faint o ofal a chymorth sy'n cael ei ddarparu gan y trydydd sector yng Nghymru a'r effaith y mae'n ei gael ar atal anghenion cymorth a gofal critigol.

Comisiynwyd Canolfan Cydweithredol Cymru a Wavehill i gynnal ymchwil sy'n helpu i ddeall y darlun presennol yng Nghymru, a oedd yn cynnwys arolwg a gweithdai gyda sefydliadau'r trydydd sector.

Beth oedd canfyddiadau'r ymchwil?

Mae'r adroddiad yn archwilio’r mathau o wasanaethau a gweithgareddau gofal a chymorth trydydd sector yng Nghymru a’u dosbarthiad.

Canfu arolwg o sefydliadau'r trydydd sector:

  • mai’r de-ddwyrain sydd â'r nifer mwyaf o wasanaethau a gweithgareddau gofal a chymorth, gyda'r isaf yn y canolbarth.
  • nid yw oddeutu chwarter y sefydliadau'n cyflogi staff cyflogedig, mae gan draean un i naw o wirfoddolwyr ac mae gan draean arall rhwng 10 a 24 o wirfoddolwyr
  • y mathau mwyaf cyffredin o wasanaethau a gweithgareddau cymorth a gynigiwyd oedd gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, gwasanaethau ataliol, a gofal a chymorth
  • mae dwy ran o dair o’r sefydliadau'n bwriadu ehangu dros y tair blynedd nesaf.

Archwiliodd yr ymchwil hefyd sut mae sefydliadau'r trydydd sector yn mesur effaith eu gwaith. Nid oedd llawer o ddealltwriaeth gyffredin na chytundeb ynghylch sut i wneud hyn ac roedd amheuon ynghylch ffyrdd amhersonol a thocenistaidd o fesur effaith. Mae gwahanol gyllidwyr yn gofyn am wahanol bethau, sy'n her arbennig i sefydliadau llai.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw hefyd at gyfleoedd i gydweithio rhwng comisiynwyr a sefydliadau'r trydydd sector, yn enwedig o ran anghenion lleol a gwasanaethau ataliol. Gellid cynyddu'r cydweithio rhwng darparwyr y trydydd sector hefyd. Gellid cefnogi hyn drwy well data i lywio comisiynu gan awdurdodau lleol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.