Jump to content
Ymunwch â ni yn ein cynhadledd cenedlaethol blynyddoedd cynnar a gofal plant!
Digwyddiad

Ymunwch â ni yn ein cynhadledd cenedlaethol blynyddoedd cynnar a gofal plant!

Dyddiad
28 Tachwedd 2024, 10am i 3pm
Lleoliad
Caerdydd
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n hapus i gyhoeddi y byddwn ni’n cynnal cynhadledd blynyddoedd cynnar a gofal plant mewn-person yng Nghaerdydd, ar ddydd Iau 28 Tachwedd.

Mae’r gynhadledd yn agored i unrhywun sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant, gan gynnwys:

  • ymarferwyr
  • rheolwyr
  • myfyrwyr
  • aseswyr ac athrawon.

Bydd siaradwyr gwadd a hwyluswyr o leoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant yn ymuno â ni, ac yn rhannu profiadau a’u harferion gorau.

Cynhelir y gynhadledd rhwng 10am a 3pm Ngwesty’r Angel, Westgate Street, Caerdydd.

Byddwn ni’n rhyddhau mwy o fanylion yn fuan, ond yn y cyfamser, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy'r ffurflen isod, a byddwn yn danfon e-bost atoch chi pan fydd cofrestru'n agor. Dydy'r ffurflen hon ddim yn archebu lle i chi yn y gynhadledd.

Eleni rydyn ni'n falch i allu cynnig rhywfaint o gefnogaeth ariannol i helpu gyda chostau teithio, er mwyn helpu pobl i fynychu'r gynhadledd. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth ar sut i wneud cais am gefnogaeth pan fydd cofrestru’n agor.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â eycc@socialcare.wales.