Jump to content
Gŵyl dysgu gydol oes i’r blynyddoedd cynnar a gofal plant  2024
Digwyddiad

Gŵyl dysgu gydol oes i’r blynyddoedd cynnar a gofal plant  2024

Dyddiad
21 Tachwedd 2024 i 28 Tachwedd 2024, 9am i 5pm
Sefydliad
Social Care Wales

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod cofrestru bellach ar agor ar gyfer ein gŵyl dysgu gydol oes sy’n cynnwys ein cynhadledd cenedlaethol y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Ymunwch â ni rhwng 21 a 28 Tachwedd ar gyfer ein gŵyl o wybodaeth a digwyddiadau i gefnogi’r sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.  

Beth sy’n digwydd yn ystod yr ŵyl?

Rydyn ni’n cynnal dau ddigwyddiad :

Dydd Iau, 21 Tachwedd – Sesiwn gyda’r hwyr (cynhelir dros Zoom), 6pm i 8pm

Yn y sesiwn gyda’r hwyr fydd gweithwyr o Gyngor Sir Casnewydd yn siarad am

  • sut mae gofal plant yn cyfrannu at y dechreuad gorau mewn bywyd.

Dydd Iau, 28 Tachwedd – Cynhadledd cenedlaethol y blynyddoedd cynnar a gofal plant, Gwesty’r Angel, Caerdydd, 9am i 3pm

Bydd cofrestru'n agor am 9am a byddwn yn cynnig lluniaeth brecwast. Mae’r gynhadledd yn cychwyn am 10am.

Byddwn yn clywed gan siaradwyr am sut mae nhw’n cefnogi ac yn darparu ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg o fewn lleoliadau Saesneg, a sut maen nhw’n cefnogi plant sydd ag anghenion ychwanegol, ac ystod o bynciau eraill.

Bydd hefyd ardal arddangos, ble gallwch gwrdd â sefydliadau gwahanol o’r sector.

Mae’r digwyddiadau yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb ym maes blynyddoedd cynnar a gofal plant, gan gynnwys:

  • ymarferwyr
  • rheolwyr
  • myfyrwyr
  • aseswyr ac athrawon

Wrth gofrestru am naill un o ddigwyddiadau’r ŵyl, byddwch hefyd yn derbyn e-bost dyddiol yn llawn adnoddau defnyddiol.

Cefnogaeth ariannol

Rydym hefyd yn falch i fedru cynnig rhywfaint o gefnogaeth ariannol i helpu gyda chostau teithio (naill ai fesul milltir, neu’r gost o docyn trên safonol) er mwyn sicrhau fod pobl yn gallu mynychu’r gynhadledd.

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau wrth gofrestru os ydych am wneud cais am gefnogaeth ariannol. Ar ôl i’r cofrestru gau, bydd panel yn sicrhau fod y gefnogaeth ariannol yn caei ei ddyfarnu’n deg, a’u bod yn cynnwys ystod eang o ardaloedd a rolau. Er mwyn sicrhau fod yr arian yn cael ei ddyrannu’n deg, dim ond un person o bob lleoliad caiff wneud cais.

Os ydych yn llwyddiannus yn eich cais am gefnogaeth ariannol, byddwch yn gallu hawlio’r taliad ar ôl y gynhadledd. Byddwn yn danfon ffurflen i chi gwblhau. Bydd angen tystiolaeth o’ch taith trên, felly cadwch eich derbynneb yn ddiogel.  

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd, felly cofiwch ddod yn ôl yn rheolaidd am fwy o wybodaeth.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â bcgp@gofalcymdeithasol.cymru