Dawn Bowden, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ym 1989, symudodd Dawn i dde Cymru i fod y Swyddog Dosbarth ieuengaf a’r Swyddog Dosbarth benywaidd cyntaf yn yr ardal. Cododd trwy rengoedd ei hundeb i ddod yn Bennaeth Iechyd UNSAIN Cymru, cyn cael ei hethol yn Aelod Cynulliad Merthyr Tudful a Rhymni ym mis Mai 2016.
Etholwyd Dawn yn Aelod o'r Senedd dros Ferthyr Tudful a Rhymni ym mis Mai 2016. Yn nhymor diwethaf y Senedd, bu Dawn yn aelod o’r pwyllgorau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon; Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol; Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig; Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; a Chydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Bu hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio'r Senedd ac yn cynrychioli Senedd Cymru yng Nghyngres Rhanbarthau Ewrop ac roedd yn Aelod o Dasglu'r Cymoedd.
Ar 11 Medi 2024, penodwyd Dawn yn Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.
Jaqueline Hooban, Cyd-arweinydd, Cylch Meithrin Tywyn
Mae Jacqueline yn arweinydd ar y cyd yng Nghylch Meithrin Tywyn. Mae hi wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau gan gynnwys podlediad – ‘Baby steps into the new curriculum’, trafodaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol am wrth-hiliaeth yn y blynyddoedd cynnar, ac mae hi wedi gweithio fel mentor cymunedol ar Gynllun gweithredu wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Cylch Meithrin Tywyn oedd gwyneb y lansiad gwrth-hiliaeth ar draws sector y blynyddoedd cynnar drwy DARPL (Dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth).
Bydd Jacqueline yn siarad am effaith symud o'r ddinas i ardal wledig a'r rhwystrau y gwnaeth hi brofi o fod yr unig deulu Du yn y pentref. Byddwn ni’n clywed pam ei bod hi’n bwysig cefnogi ymarfer gwrth-hiliol yn y sector blynyddoedd cynnar, hyrwyddo amrywiaeth a sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael eu trin yn gyfartal beth bynnag eu cefndir a'u diwylliant.
Ceri Ward a Hannah Jones o Rachel's Playhouse, Aberdâr
Mae Ceri a Hannah wedi cyflwyno mewn sawl digwyddiad arwain a rheoli yn y gorffennol, a rhannu sut mae'n nhw wedi rhoi eu damcaniaethau arweinyddiaeth ar waith yn eu lleoliad. Mae nhw’n aelodau gwerthfawr o'r rhwydwaith blynyddoedd cynnar ac wedi meithrin gweithlu angerddol yn llwyddiannus.
Mae Rachel’s Playhouse, Aberdâr yn wasanaeth gofal dydd llawn, sy'n cynnig gofal ac addysg i blant rhwng 18 mis a phum mlwydd oed. Cafodd ei sefydlu ym mis Mehefin 2018. Mae'r lleoliad wedi meithrin amgylchedd lle mae’r plant yn cael eu gwerthfawrogi a'u dathlu am fod yn unigryw. Mae staff yn gweithio'n galed i sicrhau bod cynhwysedd yn arfer dyddiol, bod llais pob plentyn yn cael ei glywed a'u bod yn gwaredu ar rwystrau i gynhwysiant a mynediad.
Bydd Ceri a Hannah yn rhannu dulliau staff a sut mae'n nhw'n ateb anghenion y plant, byddan nhw’n rhannu eu strategaethau, eu hystyriaethau a'r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir yn eu lleoliad.
Mae'r lleoliad yn ddwyieithog, ac mae'r staff wedi gweithio'n galed i drochi'r plant yn yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, i greu amgylchedd dysgu cwbl ddwyieithog a phwrpasol. Bydd Hannah a Ceri yn rhannu eu taith i feithrin dwyieithrwydd ac ymgorffori'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg yn y lleoliad.
Myfanwy Harman, Arweinydd, Cylch Meithrin y Gurnos ym Merthyr Tudful
Ers agor Cylch Meithrin y Gurnos ym mis Ionawr 2023, mae Myfanwy wedi gweithio’n ddiflino i “adeiladu cysylltiadau cryf ac ymddiriedaeth yn y gymuned” ac ehangu’r lleoliad cyfrwng Cymraeg o un i 21 o blant.
Mae Myfanwy wedi grymuso rhieni i ddefnyddio mwy o Gymraeg drwy gynnig sesiynau teulu.Mae hi’n tynnu’r pwysau oddi ar ddefnyddio Cymraeg perffaith, gan helpu rhieni i sylweddoli nad oes angen iddyn nhw fod yn rhugl i anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Bydd saith o’r wyth o blant sy’n gadael Cylch Meithrin y Gurnos eleni yn mynd i addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae Myfanwy yn annog y staff i wella eu Cymraeg. Mae rhai yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd ar ôl peidio â siarad yr iaith ers gadael yr ysgol. Cyrhaeddodd Myfanwy rownd derfynol y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2024.
Lisa Trigg, Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru
Ymunodd Lisa â Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2018 fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Data ac Arloesi. Yn y rôl, bu’n gweithio ledled Cymru i sefydlu gwasanaethau ymchwil, arloesi a data ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, bu’n arwain ar ddatblygiad gwasanaethau a chymorth y Grŵp Gwybodaeth, a chyd-ddatblygodd y strategaeth ‘Ymlaen’.
Ym mis Medi 2024, daeth Lisa yn Gyfarwyddwr Gwella a Datblygu i ni. Mae’n teimlo’n freintiedig iawn i gael y cyfle i arwain ein gwaith gwella a datblygu ehangach, ac i gefnogi pobl sy’n arwain ac yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Gemma Halliday, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gofal Cymdeithasol Cymru
Dechreuodd Gemma weithio yn Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2016 fel Rheolwr Datblygu’r Gweithlu, gan ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar, gyrfaoedd a’r Gymraeg. Yn 2019 daeth Gemma yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer y blynyddoedd cynnar, y Gymraeg a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’n sicrhau bod cynlluniau gweithredol yn y meysydd y mae'n gyfrifol amdanyn nhw, yn adlewyrchu strategaethau perthnasol ac yna’n cyd-fynd â chynllun strategol Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae cefndir Gemma yn y blynyddoedd cynnar ac addysg ac mae ganddi hefyd BA mewn Polisi Cyhoeddus a Chymdeithasol. Cyn Gofal Cymdeithasol Cymru, buodd Gemma yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am 12 mlynedd, ac arweiniodd ar y blynyddoedd cynnar a gofal plant, gan gynnwys datblygiad y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar fel rhan o grŵp Strategol Iaith Gymraeg Conwy.
Kate Newman, Swyddog Datblygu Iechyd a Llesiant, Gofal Cymdeithasol Cymru
Cychwynnodd Kate Newman fel Swyddog Datblygu Iechyd a Llesiant Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Ebrill 2022. Mae rôl Kate yn cynnwys rhannu gwybodaeth am beth mae llesiant yn y gwaith yn ei olygu, pam ei fod yn bwysig a sut y gallwn wneud gwahaniaeth i gefnogi llesiant yn y gwaith. Mae gan Kate brofiad gwaith amrywiol ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector mewn rolau oedd yn datblygu iechyd cymunedol, comisiynu iechyd cyhoeddus, gwaith partneriaeth a pherthnasoedd.