Jump to content
Ymunwch â ni yn ein cynhadledd cenedlaethol y blynyddoedd cynnar a gofal plant!
Digwyddiad

Ymunwch â ni yn ein cynhadledd cenedlaethol y blynyddoedd cynnar a gofal plant!

Dyddiad
17 Medi 2025, 9am i 4pm
Lleoliad
Venue Cymru, Llandudno
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni’n cynnal cynhadledd genedlaethol blynyddoedd cynnar a gofal plant eto eleni, ar ddydd Mercher 17 Medi yn Venue Cymru, Llandudno.

Mae’r gynhadledd am ddim ac yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Dewch i glywed gan arbenigwyr cenedlaethol a rhynwladol. Bydd arbenigwyr o leoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant hefyd yn trafod sut maen nhw’n rhoi theori ar waith mewn ymarfer bywyd go iawn. Bydd y gynhadledd yn cefnogi cyfleoedd rhwydweithio a dysgu proffesiynol.

Cynnwys y sesiwn:

  • Y cynnig rhagweithiol – disgwyliadau ynghylch gweithredu ac awgrymiadau ymarferol i ddangos sut mae hyn wedi’i ymgorffori’n rhagweithiol mewn lleoliadau.
  • Anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys cefnogi niwroamrywiaeth – sut mae hyn yn edrych yn ymarferol o fewn lleoliad, rhannu enghreifftiau o’r gwahaniaeth y mae’r dull hwn yn ei wneud i brofiadau plentyn.
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – bydd siaradwr yn ymuno â ni i rannu eu profiadau, a bydd lleoliad yn rhannu sut mae cynhwysiant wrth wraidd yr hyn maen nhw'n ei wneud.
  • Arwain a rheoli – beth mae hyn yn edrych fel i’r sector a sut mae’n cael ei weithredu’n ymarferol, gan gynnwys y gwahaniaeth mae’r dull hwn yn ei wneud yng nghyd-destun cadw staff a’u llesiant.

Rydyn ni wrthi yn cadarnhau’r rhaglen, a byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth yn fuan ond yn y cyfamser gallwch gofrestru drwy’r ffurflen isod. Edrychwn ymlaen i’ch gweld yn y gynhadledd!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â eycc@socialcare.wales