Mae’r siart llif hwn yn cefnogi’r broses ar gyfer gweithwyr newydd ym maes gofal cymdeithasol, sydd angen cofrestru gyda ni, ond nad oes ganddynt un o’r cymwysterau ar gyfer eu rôl a restrir yn y fframwaith cymwysterau (gweithwyr cartref gofal i oedolion, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr gofal preswyl i blant, gweithwyr cymorth mewn canolfan breswyl i deuluoedd).
Diagram o'r siart llif
* Bydd angen i weithwyr gofal cymdeithasol sy’n defnyddio llwybr asesiad gan gyflogwr i gofrestru, gwblhau un o’r cymwysterau cyfredol a restrir yn y fframwaith cymwysterau. Rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol gyflawni’r cymhwyster o fewn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf, ond mae gan bob gweithiwr gofal cymdeithasol chwe blynedd i’w gwblhau.
Canllaw cam-wrth-gam i'r broses
Mae gweithiwr gofal cymdeithasol yn ymuno â’r sector ac yn dechrau cwblhau’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Argymhellir y dylai gwblhau’r fframwaith o fewn chwe mis i’r dyddiad cychwyn.
Awgrym
- Mae cyflogwyr yn cysylltu’r fframwaith â’u prosesau sefydlu a phrawf eu hunain yn aml. Fel hyn, mae modd defnyddio unrhyw dystiolaeth a gynhyrchir fwy nag unwaith, a’i throsglwyddo rhwng sefydliadau sy’n cyflwyno’r fframwaith fel nad oes angen ailadrodd yr hyfforddiant.
- Awgrym: Mae canllawiau ac adnoddau ar gael ar ein gwefan yn ymwneud â natur fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ei ddiben a’i gynulleidfa darged. Hefyd, mae awdurdodau lleol a rhanbarthau yn darparu cymorth i gwblhau’r fframwaith.
Mae rhai cyflogwyr yn defnyddio darparwyr hyfforddiant allanol fel darparwyr addysg bellach neu gwmnïau hyfforddiant lleol i helpu pobl i ddatblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gwblhau’r fframwaith. Fodd bynnag, mae angen cwblhau rhai rhannau o’r fframwaith yn y gweithle, fel yr elfennau ymarfer neu bolisïau a gweithdrefnau’r sefydliad.
Mae’r rheolwr yn cwblhau asesiad gan gyflogwr ac mae’r gweithiwr yn cofrestru gyda ni o fewn chwe mis.
Awgrym
- Gellir defnyddio tystiolaeth a gynhyrchwyd wrth gwblhau’r fframwaith er mwyn cefnogi cais unigolyn i gofrestru trwy asesiad gan gyflogwr.
Ar ôl cwblhau’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan, bydd y gweithiwr, y rheolwr, a’r asesydd cymwysedig yn cytuno bod y gweithiwr yn barod i gwblhau asesiad cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd.
Awgrym
- Mae cynnwys y fframwaith yn adlewyrchu cynnwys y cymhwyster Craidd. Gellir defnyddio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth a ddatblygwyd gan y gweithiwr wrth gwblhau’r fframwaith er mwyn cefnogi ei asesiad yn y cymhwyster Craidd.
Mae’r gweithiwr yn cwblhau’r asesiadau mewnol ac allanol yn llwyddiannus ac mae’n ennill y cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd.
Awgrym
- Mae canllawiau i ddysgwyr, rheolwyr a chyflogwyr ar gael i’ch helpu i ddeall y disgwyliadau ar gyfer gweithwyr a sut y gallwch chi gymryd rhan a’u cefnogi pan fyddant yn cwblhau cymwysterau.
Mae’r gweithiwr yn cychwyn y cymhwyster Lefel 2 neu Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.
Awgrym
- Bydd y cyflogwr, yr asesydd a’r gweithiwr yn cydweithio i ddewis yr unedau dewisol mwyaf priodol i’w cwblhau.
Mae angen y cymwysterau Craidd ac Ymarfer pan fydd y gweithiwr yn adnewyddu ei gofrestriad (o fewn tair blynedd).