Mae gweithlyfrau wedi'u datblygu ar gyfer pob adran o AWIF er mwyn helpu i roi'r fframwaith sefydlu ar waith ac i gefnogi gweithwyr newydd i gynhyrchu peth o'r dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni rhywfaint o'r deilliannau dysgu gwybodaeth graidd yn y logiau cynnydd a pharatoi ar gyfer asesiad ffurfiol o'r Cymhwyster Craidd.
Nid yw’r gweithlyfrau’n ofyniad gorfodol ond gobeithio y byddant yn adnodd defnyddiol i chi fel rheolwyr a byddem yn argymell yn gryf eich bod yn eu defnyddio.
Gallant ddarparu tystiolaeth:
- o gyflawni'r deilliannau dysgu gwybodaeth graidd yn y Fframwaith Sefydlu
- o gyflawni gofynion y cyfnod prawf
- o barodrwydd ar gyfer asesiad ffurfiol o'r Cymhwyster Craidd
- o berfformiad y gellir ei ddefnyddio tuag at dystiolaeth ar gyfer y Cymhwyster Ymarfer
- o ddefnyddio proses sefydlu gadarn ar gyfer rheolyddion gwasanaeth.
Mae’r gweithlyfrau’n cynnwys nifer o weithgareddau dysgu sy’n defnyddio astudiaethau achos, ffilmiau a chwestiynau ysgrifenedig i gefnogi dysgu.
Mae yna amrywiaeth o astudiaethau achos ar gael ac mae modd trosglwyddo’r hyn a ddysgir o’r rhain ar draws swyddi a lleoliadau. Efallai y byddwch am newid, defnyddio dysgu drwy brofiad neu ychwanegu at yr astudiaethau achos i adlewyrchu’r rhan o’r sector rydych yn gweithio ynddi.
Wrth i’r gweithiwr newydd fynd drwy’r gweithgareddau dysgu yn y gweithlyfr bydd angen i chi gyfarfod ag ef i weld sut mae pethau’n mynd a thrafod unrhyw gymorth neu gefnogaeth ychwanegol angenrheidiol. Dylech gwblhau’r log cynnydd gyda’r gweithiwr newydd a darparu cymorth os oes unrhyw fylchau.
Mae’n bwysig bod y gweithiwr newydd yn cadw’r dystiolaeth mae wedi’i chasglu wrth gwblhau’r gweithlyfrau. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio gan ei asesydd cymhwyster yn ddiweddarach i weld a yw'n barod i gwblhau'r asesiad ffurfiol o'r Cymhwyster Craidd neu os oes angen dysgu ychwanegol arno.
Mae rhai rheolwyr wedi adrodd ei bod yn ddefnyddiol i reolwyr, mentoriaid ac aelodau o staff mwy profiadol gwblhau rhai o weithgareddau'r gweithlyfr. Gall hyn helpu i gefnogi gweithwyr newydd drwy'r broses yn ogystal ag uwchsgilio aelodau presennol y staff.
-
Gweithlyfr 6 - Diogelu unigolionDOCX 415KB
Gweithlyfrau wedi’u hadolygu a’u diweddaru – Ionawr 2023.