Uchelgais Llywodraeth Cymru yw datblygu gweithlu gofal plant a chwarae medrus sy’n uchel ei barch fel proffesiwn a gyrfa o ddewis, ac sy’n cael ei gydnabod am y rôl hanfodol y mae’r sector yn ei chwarae wrth gefnogi datblygiad ein plant.
Fel rhan o gymorth hyfforddi ehangach, mae Cynllun Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob lleoliad blynyddoedd cynnar ddarparu cyfnod sefydlu i weithwyr newydd. Dylai'r cyfnod sefydlu helpu gweithwyr i ddeall arfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn a'r gwerthoedd sydd eu hangen i weithio yn y blynyddoedd cynnar.
O dan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i Blant hyd at 12 oed rhaid i weithwyr gwblhau, neu fod yn gweithio tuag at, hyfforddiant sefydlu sy’n berthnasol i’w rôl, gan gynnwys Fframwaith sefydlu Cymru gyfan.
Mae rhaglen sefydlu drylwyr a ystyriwyd yn ofalus yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.
Mae cyfnod sefydlu yn sicrhau bod staff newydd yn deall pwysigrwydd arfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn a’r gwerthoedd sy’n cefnogi gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae hefyd yn eu helpu i ymgartrefu a dod yn fwy effeithiol yn eu rôl.
Mae cyfnod sefydlu yn sicrhau bod staff yn gwybod beth yw eu rolau, yn ogystal â chyfyngiadau'r rôl. Gall gynyddu ymrwymiad gweithwyr a boddhad swydd a chael effaith gadarnhaol ar leihau trosiant staff.