Jump to content
Ein cynllun gweithredu carbon sero net 2030

Rydyn ni wedi datblygu Ein cynllun gweithredu carbon sero net 2030 i’n helpu i leihau ôl troed carbon ein gweithgareddau a nodi sut gallwn ni gefnogi Llywodraeth Cymru i wireddu ei ‘Trywydd datgarboneiddio gofal cymdeithasol tuag at sero net erbyn 2030’.

Mae’r cynllun yn amlinellu sut byddwn ni’n:

  • datgarboneiddio neu’n lleihau ôl troed carbon ein gweithgareddau a sut byddwn ni’n cyfrifo ein hôl troed carbon i’n helpu i fonitro ein cynnydd tuag at sero net
  • cydweithio â sefydliadau eraill, yn dylanwadu arnynt ac yn eu cefnogi i’w helpu i feddwl am sut gallant ddatgarboneiddio neu leihau ôl troed carbon eu gweithgareddau
  • addysgu ac yn dylanwadu ar ymddygiad ein staff a’r sector gofal cymdeithasol ehangach trwy feddwl am ddatgarboneiddio ar bob cam wrth gynllunio a darparu ein gwasanaethau, a thrwy hyrwyddo arferion datgarboneiddio da ac arloesol.

Mae gan ein cynllun gweithredu saith thema:

  • strategaeth
  • polisi
  • caffael
  • rheoli ein cyfleusterau
  • gwybodaeth
  • cydweithio a mentrau i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol
  • ymddygiadau personol.