Ein defnydd o ynni
Yn 2022 i 2023, roedd ein hallyriadau oherwydd defnydd o ynni yn:
- 641,635 KgCO2e o drydan (i fyny 7.3 y cant o 641,635 KgCO2e)
- 31,761 KgCO2e o nwy (i lawr 12.2 y cant o 36,190 KgCO2e).
Cludiant staff a gweithio gartref
Hon yw’r flwyddyn gyntaf ers i ni ailagor ein swyddfeydd i'r holl staff ar ôl pandemig Covid-19.
Er bod y cynnydd canrannol a welir yma yn fawr, mae ein hallyriadau carbon cyffredinol yn parhau i fod yn fach iawn.
Rydyn ni’n arolygu ein staff bob blwyddyn i ddarganfod sut a pha mor aml y maen nhw’n teithio i'n swyddfeydd. Rydyn ni’n defnyddio ein system dreuliau i ddadansoddi ein teithiau busnes.
Yn ystod y flwyddyn, roedd ein:
- hallyriadau teithio busnes yn 11,664 KgCO2e (i fyny 468 y cant o 2,491 KgCO2e)
- allyriadau cymudo yn 14,498 KgCO2e (i fyny 188 y cant o 7,701 KgCO2e)
- allyriadau gweithio gartref yn 121,298 KgCO2e (i fyny 222 y cant o 84,617 KgCO2e).
Yr adnoddau rydyn ni’n eu defnyddio
Rydyn ni’n gwahanu ac yn ailgylchu ein gwastraff swyddfa, ond ni allwn ei fesur. Felly rydyn ni wedi cyfrifo ein hôl troed carbon yn y maes hwn yn seiliedig ar nifer ein staff a thrwy gymhwyso ffactorau meincnod.
Yn 2022 i 2023, fe ddefnyddion ni:
- 1,522 KgCO2e o waredu gwastraff (i lawr 33 y cant o 2,284 KgCO2e)
- 47,729 KgCO2e o ddefnydd dŵr (i fyny 12 y cant o 42,976 KgCO2e).
Ein cadwyn gyflenwi
Rydyn ni wedi amcangyfrif ein hallyriadau cadwyn gyflenwi gan ddefnyddio ffactorau meincnod sy'n seiliedig ar y swm a wariwn:
- TGCh: 279,457 KgCO2e (i lawr 12 y cant o 315,863 KgCO2e)
- gwasanaethau swyddfa: 51,265 KgCO2e (i fyny 65 y cant o 31,020 KgCO2e)
- dodrefn ac offer: 3,480 KgCO2e (i lawr 12 y cant o 4,439 KgCO2e)
- cyfathrebu: 97,470 KgCO2e (cynnydd o 44 y cant o 67,466 KgCO2e)
- gwasanaethau cyngor proffesiynol: 213,162 KgCO2e (i lawr 51 y cant o 438,354 KgCO2e)
- gweithgareddau adnoddau dynol: 366 KgCO2e (i lawr 99 y cant o 25,429 KgCO2e)
- bwyd a diod: 1,951 KgCO2e (i fyny 3,982 y cant o 49 KgCO2e)
- gwasanaethau adeiladu: 20,046 KgCO2e (dim newid).