Mae nifer o gyfreithiau a pholisïau sy'n cefnogi nod Llywodraeth Cymru i fod yn garbon niwtral erbyn 2050.
Dyma ganllaw i rai o'r deddfau a'r polisïau hyn:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015: O dan y Ddeddf, rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith hirdymor y penderfyniadau a wnânt ar genedlaethau'r dyfodol. Byddwn ni’n atebol i’r Ddeddf o fis Ebrill 2024. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi nodi eu gweledigaeth hirdymor a'r dull y maen nhw’n bwriadu ei gymryd dros y saith mlynedd nesaf yn Cymru Can. Mae'r cynllun yn cynnwys sicrhau bod holl gyrff cyhoeddus Cymru yn cyflawni eu nodau sero net a’u nodau cadarnhaol i natur erbyn 2030
- Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016: O dan y Ddeddf hon, rhaid i Weinidogion Cymru osod targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a phennu cyllidebau carbon.
- Rheoliadau Newid Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018: Mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r allyriadau net uchaf yng Nghymru ar gyfer y cyfnodau 2016 i 2020 a 2021 i 2025.
- Cymru Sero Net: Ym mis Mawrth 2021, cytunodd y Senedd y byddai Cymru'n dod yn garbon niwtral erbyn 2050. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi ei chynlluniau ar gyfer sector cyhoeddus carbon sero net yng Nghymru erbyn 2030.