Jump to content
Cyfarfodydd diweddar ein Bwrdd

Crynodeb o'r eitemau a drafodwyd yng nghyfarfodydd diweddar ein Bwrdd.

Dyddiad y cyfarfod: 2 Chwefror 2023

Ymhlith yr eitemau cafodd eu trafod yn ystod y cyfarfod oedd:

  • adroddiad cynnydd ein cynllun busnes – Cymeradwyodd y Bwrdd y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud ar ôl naw mis yn erbyn ein cynllun busnes 2022 i 2023
  • ein rôl yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol – Trafododd y Bwrdd y gwaith rydyn ni’n gwneud tuag at Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol
  • ein cynllun busnes drafft 2023 i 2024 – Cytunodd y Bwrdd na ddylid cynyddu ffioedd cofrestru y flwyddyn nesaf a dirprwyodd gymeradwyaeth i’r cynllun busnes i’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr
  • ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i reolau gradd gwaith cymdeithasol - cymeradwyodd y Bwrdd ymgynghoriad ar newidiadau i'r rheolau
  • strwythurau pwyllgor a chylch gorchwyl – cymeradwyodd y Bwrdd gylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Risg, y Pwyllgor Rheoleiddio a Safonau a’r Pwyllgor Chydnabyddiaeth. Gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwella ystyried y cylch gorchwyl yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.

Dyddiad y cyfarfod: 20 Hydref 2022

Ymhlith yr eitemau cafodd eu trafod yn ystod y cyfarfod oedd:

  • cyfarfod atebolrwydd – Roedd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn bresennol ar gyfer y cyfarfod atebolrwydd blynyddol. Roedd y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol hefyd yn bresennol
  • adroddiad cynnydd ein cynllun busnes – Cymeradwyodd y Bwrdd y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud ar ôl chwe mis yn erbyn ein cynllun busnes 2022 i 2023
  • cylchlythyr grant Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru - cymeradwyodd y Bwrdd y cylchlythyr grant ar gyfer 2023 i 2024 ar ôl trafod ac awgrymu newidiadau iddo
  • ein hadroddiad effaith 2021 i 2022 – Trafododd y Bwrdd yr adroddiad. Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd a’n Prif Weithredwr yn cynnal sgyrsiau pellach ynglŷn a sut i oresgyn dau fater a ddaeth i’r amlwg yn ystod y drafodaeth
  • ein hadroddiad cydraddoldeb blynyddol 2021 i 2022 – Cymeradwyodd y Bwrdd yr adroddiad, sy’n amlygu ein hymagwedd at gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Dyddiad y cyfarfod: 21 Gorffennaf 2022

Ymhlith yr eitemau cafodd eu trafod yn ystod y cyfarfod oedd:

  • adroddiad cynnydd ein cynllun busnes – Cymeradwyodd y Bwrdd y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud ar ôl tri mis yn erbyn ein cynllun busnes 2022 i 2023
  • ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon drafft 2021 i 2022, adroddiad archwilio cyfrifon a llythr rheoli – Cymeradwyodd y Bwrdd ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon drafft, a’r adroddiad archwilio cyfrifon
  • adroddiad sicrwydd blynyddol cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg – Cymeradwyodd y Bwrdd yr adroddiad, sy’n rhoi trosolwg o waith y Pwyllgor Archwilio a Risg yn ystod 2021 i 2022
  • newidiadau i'n rheolau cofrestru ac addasrwydd i ymarfer – Cymeradwyodd y Bwrdd newidiadau i'r rheolau ar gyfer ein prosesau rheoleiddio
  • adroddiad adolygiad cyflog cyfartal 2022 – Nododd a thrafododd y Bwrdd yr adroddiad, na ddaeth o hyd i unrhyw dystiolaeth o wahaniaethu o ran gyflog yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig y sefydliad.
Eisiau gwybod mwy?

Cysylltwch â llinos.bradbury@socialcare.wales os hoffech gopi llawn o’r papurau ar gyfer cyfarfod sydd wedi digwydd yn barod, neu un sydd i ddod.