Jump to content
Sgyrsiau gwell

‘Sgyrsiau Gwell’ mewn Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) am weld y cyflwyno Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth wrth wraidd yr agenda ataliol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn gweithio gyda chynghorau i gefnogi datblygu arferion gwaith cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Y nod yw cynnig profiad ac ymagwedd gyson at y rhai sy'n gofyn am gymorth gan wasanaethau ar draws gofal cymdeithasol.

Nid yw'r rhaglenni hyn yn rhaglen hyfforddi, ond mae set gynhwysfawr o sleidiau a nodiadau y bydd angen i chi eu haddasu ar gyfer eich lleoliad penodol. Mae yna ddau becyn; y cyntaf i'w ddefnyddio gyda rheolwyr tîm a thimau rheng flaen Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a'r ail ar gyfer sefydliadau, uwch reolwyr ac aelodau etholedig i ddeall yn well y rhan y mae'n rhaid iddynt ei chwarae wrth gefnogi'r dull newydd hwn.

Bydd yr adnoddau hyn yn rhan o Fframwaith Cymhwysedd Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Os hoffech ymuno â ni ar un o'r dyddiadau isod, byddwn yn siarad sut y gallech wneud y defnydd gorau o'r adnoddau.

9 Ionawr Canolfan Optic Llanelwy, 12.30pm – 4pm

18 Ionawr swyddfeydd WLGA, Drake Walk, Caerdydd 10.00am – 12.30pm

31 Ionawr Canolfan Halliwell, Caerfyrddin, 10.00am – 12.30pm.

Cyhoeddwyd gyntaf: 22 Tachwedd 2017
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (32.6 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch