Dysgwch fwy am pryd y dylid cyflwyno taliadau uniongyrchol a chynllunio am gymorth
Creu cynllun gofal a chymorth
Bydd yr ymarferydd a’r unigolyn yn adeiladu ar y sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ er mwyn cydgynhyrchu cynllun gofal a chymorth.
Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn elwa ar gael mynediad at eiriolwr annibynnol proffesiynol i wneud penderfyniad ynghylch pa opsiwn sydd orau iddynt.
Astudiaeth achos: sut gwnaeth Anwen yn siŵr bod ei gŵr hi yn ŵr iddi ac nid yn ofalwr
Mae Anwen yn ddefnyddiwr cadair olwyn sy’n defnyddio ei thaliadau uniongyrchol i gyflogi cynorthwyydd personol i’w helpu i ymolchi a gwisgo a pharatoi ar gyfer gwaith. Yn y gorffennol, tybiwyd y dylai ei gŵr ddarparu’r gefnogaeth hon.
Mae Anwen yn glir iawn ei bod eisiau i’w gŵr fod yn ŵr iddi ac nid yn ofalwr.
Er y gall ef ei chefnogi mewn argyfwng, nid yw’r naill na’r llall yn dymuno iddo ymgymryd â rôl cynorthwyydd personol neu ofalwr.
Mae’r sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ yn caniatáu i’r dymuniadau hyn gael eu lleisio a’u parchu.
Bydd pobl sy’n dewis derbyn taliadau uniongyrchol i ddiwallu eu hanghenion cymorth asesedig yn cytuno â’u hawdurdod lleol pa wasanaethau y byddan nhw’n eu prynu i ddiwallu eu hanghenion.
Yn ddiweddarach, dylid adolygu hyn i weld a yw’r pecyn cymorth yn gweithio neu a oes angen unrhyw newidiadau.
Dylid cynnal yr adolygiad hwn heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl yr asesiad cychwynnol yn achos plant a 12 mis yn achos oedolion.
Mae gan bobl hawl i gael cymorth eiriolaeth priodol i’w galluogi i gymryd rhan lawn yn y broses asesu.
Taliadau uniongyrchol fel ateb i ddiwallu anghenion
Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o ffyrdd arloesol o ddefnyddio taliadau uniongyrchol wedi dod i’r amlwg.
Y nod yw deall pa ganlyniadau mae pobl yn eu heisiau ar gyfer eu hunain a’u bywydau.
Mae taliadau uniongyrchol yn cynnig yr hyblygrwydd i ddarparu gofal a chymorth mewn ffordd wahanol.
Gall pobl ddewis cael cymorth unigol ond efallai y bydd ganddyn nhw ddiddordeb mewn cysylltu â phobl sydd â dyheadau tebyg ar gyfer gweithgareddau a gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw.
Astudiaeth Achos: defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer ail-alluogi
Mae Gorwellion Newydd yn cynnig rhaglenni ail-alluogi ar gyfer oedolion sydd â namau a salwch cronig.
Mae’r gwasanaethau’n cynnwys sesiynau grŵp i wella hyder a lles emosiynol a datblygu perthnasoedd personol a chymdeithasol cadarnhaol.
Yn ogystal, maen nhw’n darparu cymorth i addasu i amgylchiadau bywyd sydd wedi newid, fel colli aelod agos o’r teulu neu briod.
Gall pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn ddod yn aelodau o’r cwmni cydweithredol.
Mae hyn yn golygu y gallan nhw hefyd ddweud eu barn am sut y dylai gweithgareddau a gwasanaethau Gorwellion Newydd gael eu darparu.
Mae pobl sy’n defnyddio’r ganolfan ddydd yn defnyddio taliadau uniongyrchol i brynu eu gwasanaethau. Mae’n rhoi rheolaeth iddyn nhw dros y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i wella eu bywydau.
Mae’r gweithgareddau’n helpu i gynnal iechyd corfforol a meddyliol da.
Mae’r rhaglenni ail-alluogi yn dechrau gyda fformat a gytunir gyda’r unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth, ond maen nhw’n hyblyg o ran eu cyflwyno mewn ymateb i’w sgiliau a’r canlyniadau a ddymunir.
Yn yr enghraifft hon, mae grŵp o bobl sydd ag anghenion tebyg wedi gallu defnyddio eu taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau y gallan nhw eu rhannu.
Gallan nhw gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwella lles a mwynhau cwmni pobl eraill ar yr un pryd.
Mae hyn yn lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd ac yn cefnogi pobl i fod ag iechyd da am gyfnod hirach.
Yn ogystal, mae bod yn rhan o fenter gydweithredol yn helpu i roi mwy o lais a rheolaeth dros y gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn.
Y cymorth priodol ar gyfer pawb
Mae angen i unigolion dderbyn y gefnogaeth briodol, gan y bobl briodol, yn y man priodol, ar yr adeg briodol.
Drwy gydol y broses o nodi canlyniadau lles ac asesu pa ofal a chymorth sydd eu hangen, dylai’r unigolyn a’r ymarferydd gael y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.
Mae awdurdodau lleol yn cynnig adnoddau i gefnogi ymarferwyr a gall fod gwybodaeth fewnol a rennir i’w defnyddio i lunio enghreifftiau a syniadau newydd ar gyfer gwasanaethau.
Dylid rhoi gwybodaeth i unigolion cyn asesiad er mwyn rhoi amser iddyn nhw feddwl a siarad â theulu a ffrindiau.
Mae’n bosibl y bydd rhai unigolion wedi cael profiadau gwael mewn rhyngweithio blaenorol â gweithwyr proffesiynol, er enghraifft mae llawer o bobl yn teimlo bod asesiadau budd-daliadau yn achosi straen.
Dylid rhoi sicrwydd i bobl fod y sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ yn drafodaeth gadarnhaol ac adeiladol am sut y gellir cyflawni eu canlyniadau lles. Hefyd, dylid tynnu sylw at rôl cymorth eiriolaeth anffurfiol neu ffurfiol.
Astudiaeth achos: dyn busnes Trevor a'i gynorthwy-wyr
Cyflwyno taliadau uniongyrchol i bobl
Yn gyntaf, rhaid i’r ymarferydd ddeall yn llawn sut i gynnal sgwrs ‘beth sy’n bwysig’.
Rhaid i daliadau uniongyrchol gael eu cynnig yn gynnar yn y sgwrs ac ni ddylid eu gweld fel dewis olaf.
Dylai’r ymarferydd annog yr unigolyn i archwilio a nodi mor fanwl â phosibl y cryfderau sydd ganddyn nhw fel unigolion ac yn eu rhwydweithiau cymdeithasol a chymunedol presennol.
Gall y rhwydwaith cymorth hwn gynnwys gofalwyr di-dâl, lle mae’r gofalwyr hynny yn fodlon neu’n gallu parhau yn y rôl honno.
Wedyn, dylid annog yr unigolyn i archwilio sut y maen nhw eisiau byw eu bywyd a pha rwystrau a allai eu hatal rhag cyflawni eu canlyniadau lles.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi wyth elfen lles yn eu Datganiad llesiant ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth.
Gallai sgwrs am gryfderau a rhwystrau pobl helpu gyda nodi atebion.
Os nad oes unrhyw beth yn y drafodaeth hon sy’n rhoi ateb i unrhyw un o’r rhwystrau a nodwyd, yna mae’r hyn sy’n weddill yn sail i gymhwyster am gymorth gan yr awdurdod lleol.
Dylid cyflwyno taliadau uniongyrchol fel opsiwn ar gyfer trefnu gofal a chymorth sydd wedi’u haddasu’n fwyaf priodol ar gyfer gofynion pob unigolyn.
Trafod y cymorth sydd ar gael i ddefnyddio taliadau uniongyrchol
Pan fydd yr ymarferydd yn trafod taliadau uniongyrchol fel opsiwn, rhaid iddynt wneud yn glir i’r unigolyn bod cymorth ar gael i’w helpu i weinyddu’r taliadau.
Rhaid i’r awdurdod lleol archwilio’r opsiynau ar gyfer cefnogi pobl sy’n dymuno defnyddio taliadau uniongyrchol ond sy’n gofidio am reoli’r taliadau, neu nad ydyn nhw’n gallu gwneud hynny.
Mae’r Côd ar gyfer Rhan 4 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), paragraff 150 yn pwysleisio na ddylai’r awdurdod lleol wrthod taliadau uniongyrchol dim ond oherwydd ni all yr unigolyn eu rheoli neu am eu bod yn gofidio ynghylch eu rheoli.
Mae taliadau uniongyrchol yn debygol o fod yn gysyniad newydd i lawer o bobl.
Pan ddaw’n glir beth yw eu hanghenion a pha weithgareddau neu wasanaethau a fyddai’n diwallu’r anghenion hynny, mae’n haws esbonio sut y gall taliadau uniongyrchol helpu.
Mae’r sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ yn rhoi mwy o reolaeth i’r unigolyn wneud eu dewisiadau eu hunain ynghylch sut maen nhw’n dymuno byw eu bywyd.
Gall taliadau uniongyrchol helpu pobl i gael mwy o lais o ran diwallu eu hanghenion gofal a chymorth, er enghraifft yn y gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn. Gall pobl ddewis pwy sy’n darparu’r gwasanaeth, a phryd, ble a sut y darperir hyn.
Astudiaeth achos: sut gwnaeth Kate yn siŵr nad oedd hi'n dibynnu ar ei rhieni
Mae Kate yn defnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau gofal a chymorth dyddiol 24 awr a ddarperir gan dîm ymroddedig o gynorthwywyr personol.
Cyn hynny, ei rhieni fu’n trefnu’r cymorth ond roedden nhw eisiau sicrhau bod y trefniadau hyn yn fwy diogel rhag ofn iddynt fynd yn sâl.
Sefydlwyd Cwmni Cydweithredol Family First gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol ac mae’n cynnwys Kate, ei theulu a’r cynorthwywyr personol.
Mae’r trefniant hwn yn rhoi mwy o reolaeth i Kate dros ei gwasanaethau nag oedd ganddi yn y gorffennol.
Mae’r pwyllgor yn helpu i drefnu’r gofal, gofal brys, recriwtio a hyfforddiant sy’n gwella’r gwasanaeth ac yn lleihau’r pwysau ar deulu Kate.
Erbyn hyn mae gan Kate y gwasanaethau y mae’n eu dewis a mwy o lais a rheolaeth. Yn ogystal, mae hyn yn cefnogi ei datblygiad personol ac wedi gwella ei lles.
Rhoi canllawiau clir i dderbynwyr taliadau uniongyrchol
Nid oes canllawiau cenedlaethol ar gael ynghylch sut y gellid defnyddio taliadau uniongyrchol. Mae gan bob awdurdod lleol ei ganllawiau ei hun am y math o weithgareddau y gellir eu cyllido.
Dylai’r ymarferydd rannu’r hyn y mae’r canllawiau yn ei ddweud â’r derbynnydd yn ystod y sgwrs fel y gallan nhw nodi atebion eraill os na ellir cyllido rhai gweithgareddau drwy daliadau uniongyrchol.
Fodd bynnag, mae’r Côd ar gyfer Rhan 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), paragraff 148 yn dweud wrth awdurdodau lleol a’r cyhoedd bod bwriad iddyn nhw ddefnyddio taliadau uniongyrchol yn greadigol, gyda’r nod o gefnogi pobl yn eu dewis bywyd eu hunain:
“Wrth drafod sut y gall anghenion gael eu diwallu trwy daliadau uniongyrchol, rhaid i awdurdod lleol fod yn barod i fod yn agored i syniadau newydd a bod mor hyblyg â phosibl. Rhaid i bobl gael eu hannog i archwilio ffyrdd arloesol a chreadigol i nodi’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyflawni canlyniadau mewn ffordd sy’n cyfateb i’w dewisiadau personol.”
Mae’n arfer da i siarad am daliadau uniongyrchol o’r dechrau fel un o’r opsiynau posibl ar gyfer cymorth.
Bydd cyflwyno’r opsiynau yn gynnar yn helpu’r ddau barti i gael sgwrs lawnach a mwy ystyrlon, ac yn osgoi cynnig taliadau uniongyrchol fel ‘dewis olaf’.
Gallai hyn gynnwys sgwrs am sut y gall ymgrymuso unigolion i deimlo mewn rheolaeth o'u taliadau uniongyrchol er mwyn eu defnyddio nhw mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â'u personoliaeth a ffordd o fyw.
Mae taliadau uniongyrchol yn addas ar gyfer ystod eang o bobl yr aseswyd fod ganddyn nhw angen cymwys am ofal a chymorth, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- oedolion o unrhyw oedran
- rhieni a gofalwyr sy’n 16 oed neu’n hŷn
- pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl.
Weithiau gall awdurdod lleol roi mesurau diogelu ar waith i sicrhau bod taliadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio ar gyfer y diben y cytunwyd.
Awgrymiadau ar gyfer llunio achos busnes da
Mae’n bosibl y bydd angen i gyllid ar gyfer ymyriadau neu gymorth gael ei gymeradwyo mewn proses benderfynu gan bobl nad ydynt wedi cwrdd â’r unigolyn y mae eu hanghenion yn cael eu hasesu.
Mae rhai awdurdodau lleol yn cyfeirio at y cais am ymyriadau neu gymorth fel 'achos busnes'.
Fel arfer, mae achos busnes da yn esbonio nid yn unig yr hyn sydd ei angen ond pam mae ei angen.
Dylai’r achos busnes roi cyd-destun da i’r sefyllfa fel ei bod yn glir sut mae’r ymyrraeth neu’r gefnogaeth arfaethedig yn cyd-fynd â’r gefnogaeth a ddarperir gan deulu, ffrindiau, cymunedau neu asiantaethau eraill.
Yn ogystal, bydd nodi’n glir manteision y dull a awgrymir yn erbyn yr opsiynau eraill yn helpu i lunio achos llwyddiannus.
Cofiwch os nad ydy unigolyn yn hapus gyda phenderfyniad awdurdod lleol, gallan nhw wneud cŵyn neu ofyn am ail-asesiad.
Astudiaeth achos: cerddwr cŵn a sut helpodd hynny i ddiwallu anghenion llesiant John
Mae symudedd John wedi mynd yn gyfyngedig. O ganlyniad, mae gadael ei dŷ yn mynd yn fwyfwy anodd iddo.
Mae ei ymdeimlad o unigrwydd ac arwahanrwydd yn tyfu. Mae ei Weithiwr Cymdeithasol, Gareth, yn archwilio gyda John sut y gellid goresgyn hyn.
Esbonia John ei fod bob amser wedi mwynhau cwmni ci pan oedd yn iau ond ni allai edrych ar ôl ci yn briodol oherwydd ni allai fynd â’r ci am dro.
Teimlai fod hyn yn drueni gan fod perthynas wedi cynnig rhoi ci iddo. Awgryma Gareth y gallai cerddwr cŵn oresgyn y broblem hon i John.
Yn yr achos hwn, y canlyniad yw lleihau teimladau o arwahanrwydd ac unigrwydd gyda’r bwriad o wella ymdeimlad John o les ac atal iselder rhag cydio.
Yr ateb yw cerddwr cŵn – nad yw’n ateb y byddai Gareth wedi’i ystyried o reidrwydd pe na bai wedi gwrando’n ofalus er mwyn deall beth sy’n bwysig i John.
Mae hyn wrth wraidd sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ dda. Y peth hanfodol yw dod i ddeall beth sy’n bwysig mewn gwirionedd i’r unigolyn neu’r gofalwr, yn hytrach na gwneud rhagdybiaethau ynghylch yr hyn y byddai’n gwneud eu bywyd yn well.
Yn yr enghraifft uchod, digon hawdd fyddai neidio i’r casgliad mai’r peth gorau i John fyddai trefnu teithiau wythnosol i ganolfan ddydd neu ei gofrestru gyda gwasanaeth cyfeillio.
Wrth gwrs, mae anghenion pobl yn tueddu i newid dros amser. Nid yw asesiadau yn ddigwyddiadau unwaith ac am byth.
Dylid edrych arnyn nhw fel proses barhaus neu gyfres o ddigwyddiadau a sgyrsiau.
Wrth i anghenion newid, mae angen i gynlluniau cymorth newid. Gall pobl fod angen mwy o gefnogaeth, neu lai, neu gefnogaeth wahanol, gydag amser.
Deall sut y gwneir taliadau uniongyrchol
Ar ôl i’r awdurdod lleol gymeradwyo taliadau uniongyrchol, gall y derbynnydd ddod yn gyfrifol am brynu’r gwasanaethau neu’r offer.
Y system graidd yw y bydd awdurdodau lleol yn talu taliadau uniongyrchol i gyfrif banc penodol yr unigolyn.
Bydd angen i dderbynwyr taliadau uniongyrchol gadw cofnodion da o’r hyn y maen nhw’n ei brynu a phryd.
Mae’n arfer da i drafod hyn ag unigolion er mwyn archwilio unrhyw rwystrau posibl, o ran y broses, i dderbyn taliadau uniongyrchol.
Peth defnyddiol yw gwirio gyda’r unigolion p’un ai ydyn nhw’n gyfarwydd â’r ffordd y mae adrannau cyllid gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio.
Mae’r Côd ar gyfer Rhan 4 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau wneud taliadau uniongyrchol yn ddibynadwy, yn rheolaidd ac ar amser. Mae paragraff 166 o'r Côd hefyd yn dweud:
"Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod eu trefniadau monitro ariannol ar gyfer taliadau uniongyrchol yn gymesur. Rhaid i adroddiadau a gwblheir gan dderbynnydd taliadau uniongyrchol neu ei gynrychiolydd fod yn hawdd eu defnyddio, ac ni ddylent fod yn rhy feichus."
Darllenwch fwy am hyn ar ein tudalen Cael cymorth i fod yn gyflogwr taliadau uniongyrchol.
Eisiau eich adborth
Helpwch ni i wella Taliadau uniongyrchol: Canllaw drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.