Dysgwch fwy am sut y gallwch ddefnyddio eiriolwyr proffesiynol annibynnol i gefnogi asesiadau
Rôl eiriolwyr annibynnol proffesiynol Rhan 10 Côd Ymarfer ar gyfer y Ddeddf
Gall gwasanaethau eiriolaeth annibynnol proffesiynol helpu pobl pan fyddan nhw’n cael sgyrsiau ac yn gwneud penderfyniadau am eu gofal a’u cymorth. Gall y gwasanaethau hyn gynnwys cynrychioli’r unigolyn.
Mae Rhan 10 y Côd Ymarfer ar gyfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf) yn diffinio eiriolaeth fel a ganlyn ym mharagraff 27:
Mae eiriolaeth yn un o sawl math o gymorth sydd ar gael i bobl sydd angen cymorth i ymdopi â phroblemau bywyd.
“Mae eiriolaeth yn cefnogi ac yn galluogi pobl sy’n cael anhawster i gynrychioli eu buddiannau i arfer eu hawliau, fynegi eu barn, archwilio a gwneud dewisiadau gwybodus. Mae Eiriolaeth Annibynnol yn cefnogi person beth bynnag yw gofynion a phryderon pobl eraill. Mae’n herio achosion ac effeithiau anghyfiawnder, gorthrwm a cham-drin ac yn cynnal hawliau dynol.” (Fforwm Cenedlaethol Cynghrair Eiriolaeth Pobl Hŷn, 2008)
“Gweithredu yw eiriolaeth sy’n helpu pobl i ddweud yr hyn maen nhw ei eisiau, sicrhau eu hawliau, cynrychioli eu buddiannau a chael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae eiriolwyr a chynlluniau eiriolaeth yn gweithio mewn partneriaeth â’r bobl maen nhw’n eu cefnogi ac yn cymryd eu hochr. Mae eiriolaeth yn hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol” (Action for Advocacy, 2002)
Dywed y Côd uchod ym mharagraff 41 y dylai eiriolaeth annibynnol broffesiynol fod ar gael “pan gysylltir â nhw am y tro cyntaf”, ac ym mharagraff 37:
Mae gwasanaethau eirioli yn hanfodol i gynorthwyo pobl i fynd ati i ymgysylltu a chyfrannu at ddatblygiad eu canlyniadau lles eu hunain.
Mae canllawiau clir ar gael i helpu i ddeall pryd y mae’n rhaid asesu angen pobl am eiriolaeth a phryd y mae’n rhaid darparu eiriolaeth annibynnol.
Astudiaeth achos: sut defnyddiodd Bill eiriolwr proffesiynol annibynnol i fynegu ei ddymuniadau
Roedd Bill yn cael ei asesu ar gyfer cymorth yn dilyn strôc.
Roedd ei leferydd wedi mynd yn arafach ac yn llai eglur ers y strôc.
Roedd ei ferch, Abbie, eisiau helpu ond roedd yn tueddu i siarad dros ei thad a dweud wrth bobl beth oedd orau iddo yn ei barn hi.
Gwyddai Bill y byddai Abbie yn cynnig cyflawni ei anghenion gofal personol yn yr asesiad ffurfiol. Fodd bynnag, roedd ef eisiau gweithiwr gwrywaidd i’w gynorthwyo, nid menyw, ac yn sicr, nid ei ferch.
Cyn yr asesiad, gofynnodd Bill am eiriolwr annibynnol i fod gydag ef yn ystod yr asesiad.
Pennwyd eiriolwr annibynnol hyfforddedig o elusen leol i gefnogi Bill.
Cyfarfu Bill a’r eiriolwr cyn yr asesiad fel y gallai Bill gyfleu’r hyn roedd ei eisiau heb y pwysau o fod â’i ferch neu weithiwr cymdeithasol yn bresennol.
Ar ddiwrnod yr asesiad, aeth yr eiriolwr annibynnol gyda Bill a sicrhau bod ei ddymuniadau’n cael eu mynegi fel rhan o’r asesiad.
Eisiau eich adborth
Helpwch ni i wella Taliadau uniongyrchol: Canllaw drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.