Jump to content
Sgyrsiau ‘beth sy’n bwysig’ ac asesu

Dysgwch fwy am y pwysigrwydd o gael sgyrsiau beth sy'n bwysig gyda'r unigolyn a sut mae'r rhain yn bwydo i mewn i'r broses asesu

Beth sy’n bwysig i’r unigolyn?

Mae sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ yn sgwrs wedi'i thargedu sy’n ymwneud ag unrhyw broses asesu.

Mae’n cyfeirio at ffordd fedrus o weithio gydag unigolion i sefydlu’r sefyllfa, eu lles presennol, yr hyn y gellir ei wneud i’w cynorthwyo a’r hyn y gellir ei wneud i hyrwyddo eu lles a’u gwydnwch er gwell.

Nid yw’n asesiad ynddo’i hun: mae’n ffordd o gynnal yr asesiad, gyda’r ymarferydd yn cael y math priodol o sgwrs er mwyn sefydlu gyda'r unigolyn:

  • sut maen nhw eisiau byw eu bywyd
  • unrhyw rwystrau i hynny
  • y cymorth sydd yn ofynnol i oresgyn y rhwystrau hyn.

Pwysigrwydd bod yn bartneriaid cyfartal yn y sgwrs

Mae sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ yn drafodaeth rhwng partneriaid cyfartal (mae'n cael ei adnabod hefyd fel 'cyd-gynhyrchu'), i sefydlu, o brofiad bywyd yr unigolyn ac arbenigedd yr ymarferydd:

  • sut mae'r unigolyn eisiau byw
  • yr hyn sy'n atal y dyheadau hynny
  • pa gymorth all gael ei gynnig i wireddu'r dyheadau hyn.

Mae’r sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ rhwng yr ymarferydd a’r unigolyn neu’r gofalwr yn bwysig iawn.

Mae'n bosibl mai dyma'r tro cyntaf y gofynnwyd i rywun ystyried sut yr hoffan nhw fyw eu bywyd - beth sy'n bwysig iddyn nhw - neu gael sgwrs am y rhwystrau y gallan nhw eu hwynebu neu'r cymorth all oresgyn y rhwystrau hyn.

Gall rhai unigolion a gofalwyr fod yn glir iawn ynghylch yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae’n bosibl y bydd eraill angen cymorth i feddwl am hyn, yn enwedig os nad ydyn nhw erioed wedi cael mynediad at ofal a chymorth drwy awdurdod lleol neu os ydyn nhw wedi bod yn defnyddio gwasanaethau ers peth amser.

Gall eiriolwyr annibynnol proffesiynol chwarae rôl allweddol wrth sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y ddau barti.

Gall hyn sicrhau bod unigolion a gofalwyr yn deall y broses a’u bod yn gallu cymryd rhan ar sail gydradd.

Deall yr opsiynau ar gael ar gyfer gofal a chymorth

Mae’n bosibl y bydd pobl yn disgwyl gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar adegau penodol o’r diwrnod a thasgau gofal personol oherwydd dyna beth sy’n arferol iddyn nhw neu dyna beth maen nhw wedi gweld eraill yn ei dderbyn.

Mae’n bosibl y bydd angen cymorth arnyn nhw i ddeall beth yw eu hopsiynau ac i wneud eu dewisiadau ar sail gydradd yn y sgwrs.

Mae angen i ymarferwyr gymryd amser i wrando, deall a chefnogi pobl i archwilio opsiynau a dod o hyd i atebion.

Mae’n bwysig cofio y bydd y broses asesu yr un fath i bob unigolyn, boed y byddan nhw’n penderfynu y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu orau trwy ddefnyddio taliadau uniongyrchol neu drwy gymorth gan yr awdurdod lleol.

Mae’r daith yr un fath ond bydd y canlyniad terfynol yn wahanol, yn dibynnu ar yr hyn sy’n bwysig i bob unigolyn a sut maen nhw’n dewis trefnu unrhyw ofal a chymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Ewch i adran ‘Beth mae taliadau uniongyrchol yn gallu ei brynu’ i ddysgu mwy.

Cael asesiad da ar gyfer gofal a chymorth

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf) a Chodau’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr weithio gydag unigolion ar sail gydradd - gan rannu grym a pharch trwy gyd-gynhyrchu’r sgwrs ‘beth sy’n bwysig’.

Mae Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru yn diffinio ‘cyd-gynhyrchu’ fel:

Dull o weithio a seilir ar asedau mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus yw cyd-gynhyrchu sy’n galluogi pobl sy’n darparu ac sy’n derbyn gwasanaethau i rannu’r grym a’r cyfrifoldeb, ac i gydweithio mewn perthynas gydradd, gyfatebol a gofalgar.

Mae’n creu cyfleoedd i bobl gael mynediad at gymorth pan fo’i angen, ac i gyfrannu at newid cymdeithasol.

Hefyd, caiff ‘cydgynhyrchu’ ei ddiffinio fel ‘partneriaeth wirioneddol’ ym mharagraff 4 y Côd Ymarfer ar gyfer Rhan 10 y Ddeddf:

Mae’r Ddeddf yn symud yn glir oddi wrth ddull ‘amser a thasg’, minimalaidd, ‘gofal personol yn unig’ ac mae’n annog pobl i nodi a mynnu pa bynnag gymorth sydd ei angen arnyn nhw i fyw’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis.

Nid yw’n ddigon i’r ymarferydd ofyn i’r unigolyn, “Beth sy’n bwysig i chi?”

Dylen nhw gefnogi pobl i ddeall yr hyn y mae ganddyn nhw hawl gyfreithiol iddo o dan y Ddeddf.

Cyngor ar gyfer paratoi i ymarferwyr a derbynwyr taliadau uniongyrchol

Dylai’r ymarferydd a’r derbynnydd taliadau uniongyrchol gytuno ar amser a man addas ar gyfer yr asesiad anghenion.

Bydd hyn yn helpu i’w wneud yn brofiad cadarnhaol i’r ddau barti.

Dyna rai awgrymiadau ar gyfer paratoi:

  • dylai’r holl bartïon for yn gysurus yn y lleoliad
  • mae’n bosibl y bydd angen amser ar ymarferwyr i drefnu eiriolwr annibynnol i weithio gyda’r unigolyn a mynychu’r asesiad
  • er mwyn cefnogi’r broses asesu, dylai’r ymarferydd roi gwybodaeth i’r unigolyn nifer o ddiwrnodau neu wythnosau ymlaen llaw fel y gallan nhw ystyried sut y maen nhw eisiau byw eu bywyd, pa gymorth sydd ganddyn nhw eisoes a beth sy’n eu rhwystro rhag cyflawni eu canlyniadau lles
  • yn achos asesiadau ar y cyd, dylid sicrhau bod digon o amser i drefnu bod pobl eraill sy’n ymwneud â’r asesiad yn gallu bod yn bresennol
  • mae’n bosibl y bydd angen amser ac anogaeth ar bobl i ystyried pa gymorth teuluol neu gymunedol sydd ar gael iddyn nhw yn ogystal â sut y gall cymorth gan yr awdurdod lleol alluogi cymorth teuluol neu gymunedol pellach.

Cofiwch y sgwrs ‘beth sy’n bwysig’

Dylai’r ymarferydd gofal cymdeithasol fod â’r sgiliau i arwain sgwrs sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n rhoi sylw i ganlyniadau lles personol wrth asesu p’un ai oes gan unigolyn anghenion gofal a chymorth cymwys.

Mae Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Sydd Angen Gofal a Chymorth a Gofalwyr Sydd Angen Cymorth yn disgrifio canlyniadau lles personol yn fanwl.

Mae’n bwysig deall nid yn unig beth sy’n bwysig i’r person ond pam ei fod yn bwysig.

Yn ogystal, beth yw’r rhwystrau posibl a pham y bydd unrhyw ymyriadau neu gymorth arfaethedig yn gwella lles y person, nid yn unig ar hyn o bryd ond yn y dyfodol hefyd.

Er enghraifft, a fydd ymyriad bach ar hyn o bryd yn atal ymyriad mwy yn y misoedd neu’r blynyddoedd i ddod?

Mewn fideo a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru, mae gweithwyr gofal cymdeithasol Lucy Powell yn cael sgwrs yn cyflwyno taliadau uniongyrchol i helpu cyrraedd canlyniadau llesiant unigolyn.

Mapio cryfderau unigol

Mae mapio cryfderau yn ddull sy’n helpu ymarferwyr i ddeall pa gymorth sydd ar gael eisoes i bobl a’r hyn sydd ei angen.

Mae’n edrych ar yr hyn y mae unigolyn yn gallu’i wneud eisoes a pha sgiliau sydd ganddyn nhw ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o adeiladu ar hyn.

Bydd ymarferydd yn siarad â pherson ynghylch pa anghenion cymorth sydd ganddyn nhw a’r gwahanol ffyrdd y gellir diwallu eu hanghenion.

Gyda’i gilydd, byddan nhw’n siarad am:

  • yr hyn mae’r unigolyn yn gallu’i wneud eisoes dros eu hunain a’r hyn y gall yr ymarferydd ei wneud i helpu
  • pa gymorth sy’n bodoli eisoes a ph’un ai yw’n addas ai peidio
  • yr hyn sy’n bwysig i’r person o ran eu cynorthwyo i wella eu lles.

Cael cymorth – beth sydd ar gael yn barod i'r defnyddiwr taliadau uniongyrchol?

Rhwydweithiau ffrindiau a theulu

  • pa ffrindiau, aelodau teulu a rhwydweithiau y mae pobl eisoes yn eu defnyddio ar gyfer gofal a chymorth?
  • a yw’r unigolyn, eu gofalwyr a’u rhwydweithiau cymorth yn hapus i barhau fel hyn neu a oes angen dod o hyd i fathau eraill o gymorth?

Cofiwch fod y Ddeddf yn glir fod gofalwyr yn ofalwyr dim ond cyhyd ag y gallan nhw fod yn ofalwyr ac eisiau bod yn ofalwyr.

Gwasanaethau yn y gymuned:

  • a oes unrhyw weithgareddau neu wasanaethau addas a all gefnogi’r canlyniadau lles y mae’r unigolyn wedi’u nodi?
  • a oes angen cymorth er mwyn cael mynediad at y gweithgareddau neu’r gwasanaethau hyn?

Beth sydd ar ôl sy’n parhau i fod angen cymorth?

  • dyma’r hyn y mae angen ei ddarparu gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol neu wasanaethau gofal a chymorth.

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella Taliadau uniongyrchol: Canllaw drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.

Cyhoeddwyd gyntaf: 19 Mawrth 2019
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (55.7 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch