Jump to content
Grŵp 3: arweinwyr a chomisiynwyr

Sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol i bobl yng ngrŵp 3 sydd eisiau gweithio ac arwain mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.

Gall arweinwyr mewn gofal cymdeithasol ddefnyddio dulliau seiliedig ar gryfderau i wella, mesur a monitro ansawdd ymarfer yn eu sefydliad.

Pwy sydd yn y grŵp hwn

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys pobl sy’n:

  • cynllunio, prynu neu wella gwasanaethau
  • arwain eraill
  • gweithio ar bolisïau
  • rheoli contractau
  • goruchwylio ansawdd ar lefel sefydliadol.

Gallan nhw fod yn:

  • gyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr gwasanaeth
  • arweinwyr y gweithlu
  • reolwyr comisiynu
  • Unigolion Cyfrifol.

Gwybodaeth

Nid oes angen i arweinwyr fod yn arbenigwyr mewn ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau i ddechrau gweithio gyda chryfderau. Ond, gall fod yn ddefnyddiol i bobl yn y grŵp hwn i:

  • ddeall deddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a sut mae'n hyrwyddo llais, dewis a rheolaeth pobl
  • deall egwyddorion allweddol ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a pham rydyn ni’n eu defnyddio
  • deall sut mae ymarfer seiliedig ar gryfderau yn cefnogi newid diwylliant mewn sefydliadau
  • gwybod sut y gall prosesau helpu eu sefydliadau i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau
  • ddeall y polisïau a'r canllawiau sy'n cefnogi arferion sy'n seiliedig ar gryfderau yn eu sefydliad
  • cydnabod y pethau yn eu sefydliad sy'n ei gwneud hi'n anodd gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau, a sut i weithio gydag eraill i oresgyn y rhain.

Sgiliau

Gall arweinwyr mewn gofal cymdeithasol gefnogi diwylliannau sy'n seiliedig ar gryfderau trwy:

  • modelu dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau a dulliau tosturiol o weithio
  • cael sgyrsiau am 'beth sy'n bwysig' gyda'u cydweithwyr
  • meithrin perthnasoedd cryf, dibynadwy a pharchus drwy:
    • ymgysylltu'n amyneddgar â'r person ar ei lefel
    • canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig
    • bod yn sensitif i’w hangenhion a’u profiadau bywyd
    • darganfod posibiliadau gyda'r person hwnnw (a elwir hefyd yn 'evoking')
    • cynllunio gyda 'r person yn hytrach nag i'r person.
  • cael sgyrsiau anodd mewn ffordd dosturiol
  • sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn cyd-fynd â, ac yn annog, arferion sy'n seiliedig ar gryfderau
  • datblygu systemau a phrosesau o ansawdd sy'n hyrwyddo arferion sy'n seiliedig ar gryfderau.
  • gweithio gydag eraill i greu gweledigaeth ar y cyd o'r ffordd y bydd gwasanaethau'n gweithio
  • monitro ansawdd y sefydliad yn unol ag arferion sy'n seiliedig ar gryfderau
  • gwrando – ac eirioli dros – pobl eraill sy'n gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau
  • eirioli dros a modelu’r ffordd hon o weithio gyda phartneriaid a sefydliadau eraill.

Cefnogaeth ar gyfer pobl yn y grŵp hwn

Os ydych chi’n bwriadu datblygu dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau ar draws eich sefydliad, gallwch ddechrau drwy gydnabod nad oes angen i chi fod yn arbenigwr yn y dull hwn o arwain.

Gallwn ni eich cefnogi chi a'ch sefydliad i ddechrau gweithio gyda chryfderau, a'ch helpu i gyflawni canlyniadau i'ch staff a'r bobl rydych chi'n eu cefnogi.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch cryfderau@gofalcymdeithasol.cymru

Cyhoeddwyd gyntaf: 29 Ionawr 2025
Diweddariad olaf: 6 Chwefror 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (37.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch