Jump to content
Grŵp 2: goruchwylwyr a rheolwyr

Sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol i bobl yng ngrŵp 2 sydd eisiau gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.

Rydyn ni’n argymell bod rheolwyr a goruchwylwyr ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gyfarwydd â dulliau seiliedig ar gryfderau.

Mae goruchwylio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau yn hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i'w cydweithwyr a'r bobl y maent yn eu cefnogi.

Dylen nhw fod wedi gwneud popeth mewn hyfforddiant grŵp 1.

Pwy sydd yn y grŵp hwn

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys unrhyw un sy'n rheoli neu'n goruchwylio rhywun arall.

Gallan nhw fod yn:

  • reolwyr llinell
  • arweinwyr tîm
  • reolwyr gwasanaeth
  • oruchwylwyr
  • aseswyr ymarfer
  • fentoriaid.

Gwybodaeth

Dylai pawb yn y grŵp hwn deall:

  • egwyddorion allweddol ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a'u rôl mewn goruchwylio
  • sut mae egwyddorion allweddol ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn hyrwyddo diwylliannau cadarnhaol a lles staff
  • sut – ac os – mae polisïau a chanllawiau eu sefydliad yn cefnogi arferion sy'n seiliedig ar gryfderau mewn goruchwyliaeth
  • pam ei bod yn bwysig i gynnal ymarfer a hyfforddiant rheolaidd.

Dylen nhw hefyd gwybod y modelau o ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau a'r ymchwil a'r dystiolaeth ddiweddaraf y tu ôl i'r rhain.

Sgiliau

Dylai pawb yn y grŵp hwn allu:

  • defnyddio ymchwil mewn ymarfer bob dydd
  • arwain drwy esiampl, a defnyddio arfer sy'n seiliedig ar gryfderau i reoli a goruchwylio staff
  • recordio sesiwn oruchwylio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau
  • meithrin perthnasoedd cryf, dibynadwy a pharchus gyda phawb y maen nhw’n gweithio gyda nhw, gan gynnwys y bobl y maent yn eu goruchwylio, drwy:
    • ymgysylltu'n amyneddgar â'r person ar ei lefel
    • canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig
    • bod yn sensitif i’w hangenhion a’u profiadau bywyd
    • meddwl am y posibiliadau ar gyfer y person hwnnw
    • cynllunio gyda 'r person yn hytrach nag i'r person.
  • cael sgyrsiau anodd mewn ffordd dosturiol – er enghraifft:
    • wrth eirioli dros hawliau unigolyn pan nad yw pobl eraill yn cytuno
    • yn ystod adolygiadau perfformiad.
  • defnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau mewn sesiynau goruchwylio i gytuno ar ganlyniadau clir a darganfod beth sy'n eu cymell
  • cefnogi cydweithwyr i ddeall cryfderau a risgiau a datblygu cynlluniau diogelwch
  • monitro ansawdd gwaith eu tîm yn unol ag ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau
  • defnyddio arferion sy'n seiliedig ar gryfderau i reoli gwasanaethau a gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys arolygwyr
  • gwrando ar – ac eirioli dros – pobl eraill sy'n gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.

Sut i gefnogi pobl yn y grŵp hwn

Gallwch gefnogi pobl yn y grŵp hwn drwy:

Cyhoeddwyd gyntaf: 29 Ionawr 2025
Diweddariad olaf: 6 Chwefror 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (35.9 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch