Sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol i bobl yng ngrŵp 1 sydd am weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.
Os yw pawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gyfarwydd â dulliau seiliedig ar gryfderau, gallan nhw eu defnyddio i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i'r bobl y maent yn eu cefnogi.
Pwy sydd yn y grŵp hwn
Mae'r grŵp hwn yn cynnwys unrhyw un sy'n gweithio gyda dinasyddion, gan gynnwys pobl sy’n:
- cynnal gweithgareddau ymgysylltu, fel grwpiau ffocws
- delio â chanmoliaeth neu gwynion am wasanaethau
- asesu anghenion a chynllunio ymyriadau
- rhoi gofal a chefnogaeth.
Gallan nhw fod yn:
- weithwyr gofal cymdeithasol neu ymarferwyr
- weithiwr cymorth
- weithwyr cymdeithasol
- bobl sy'n gweithio ym maes iechyd, blynyddoedd cynnar a gofal plant, addysg a gwasanaethau tebyg.
Gwybodaeth
Dylai pawb yn y grŵp hwn:
- deall egwyddorion allweddol ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a pham rydyn ni’n eu defnyddio
- deall manteision gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau
- cydnabod y gwahaniaeth rhwng arferion sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n seiliedig ar ddiffyg
- deall pam mae sefydliadau'n symud i ffwrdd o arfer sy'n seiliedig ar ddiffyg i arfer sy’n seiliedig ar gryfderau
- bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a sut mae'n hyrwyddo llais, dewis a rheolaeth pobl
- deall y polisïau a'r canllawiau sy'n cefnogi arferion sy'n seiliedig ar gryfderau yn eu sefydliad
- gwybod pryd i ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau mewn maes gwaith penodol, megis amddiffyn plant, diogelu, gwaith cymdeithasol neu ymyriadau cyffuriau ac alcohol
- adnabod sut olwg sydd ar rwydwaith cymorth da i rywun, gan ddechrau gyda theulu’r unigolyn ac yna’r gymuned a gwasanaethau lleol
- cydnabod y pethau yn eu sefydliad sy'n ei gwneud hi'n anodd gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau, a sut i weithio gydag eraill i oresgyn y rhain.
Sgiliau
Dylai pawb yn y grŵp hwn allu:
- cynnal sgwrs 'beth sy'n bwysig', gan ddefnyddio sgiliau fel 'OARS', sy'n dod o gyfweld ysgogol:
- cwestiynau agored
- datganiadau
- sylwadau
- crynodebau.
- meithrin perthynas gref, hyderus a pharchus gyda dinasyddion a chydweithwyr drwy:
- ymgysylltu â'r person ar ei lefel nhw eu hun
- canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig
- bod yn sensitif i’w hangenhion a’u profiadau bywyd
- meddwl am y posibiliadau ar gyfer y person hwnnw
- cynllunio gyda 'r person yn hytrach nag i'r person.
- cael sgyrsiau anodd mewn ffordd dosturiol
- ysgrifennu adroddiadau a chynlluniau mewn ffordd sy'n:
- canolbwyntio ar gryfderau'r unigolyn
- defnyddio geiriau'r person ei hun
- esbonio'r penderfyniadau yn glir
- dangos sut y daethant i benderfyniad
- esbonio sut mae'r person yn teimlo am benderfyniadau.
- gwneud asesiadau sy'n cofnodi ac yn adeiladu ar gryfderau unigol, teulu a chymunedol
- cynnal sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' sy'n osgoi labeli, jargon ac iaith oddefol
- defnyddio arfer sy'n seiliedig ar gryfderau mewn maes gwaith penodol, megis amddiffyn plant, diogelu, gwaith cymdeithasol neu ymyriadau cyffuriau ac alcohol
- gwrando ar – ac eirioli dros – pobl eraill sy'n gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.
Sut i gefnogi pobl yn y grŵp hwn
Gallwch gefnogi pobl yn y grŵp hwn drwy:
- weithio tuag at ddiwylliant cadarnhaol yn eich sefydliad
- weithio i werthoedd ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau
- cynnig cyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol rheolaidd.
Cyhoeddwyd gyntaf: 29 Ionawr 2025
Diweddariad olaf: 6 Chwefror 2025
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch