Jump to content
Newidiadau i fframweithiau prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru)
Ymgynghoriad

Newidiadau i fframweithiau prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru)

- | Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n gweithio gyda Medr i adolygu'r fframweithiau prentisiaethau ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru).

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben hanner dydd, ddydd Gwener 10 Hydref 2025.

Pam rydyn ni’n adolygu’r fframweithiau?

Cafodd y fframweithiau eu datblygu yn 2019 a 2020, felly mae’n amser eu hadolygu.

Mae Medr wedi gofyn i ni arwain yr adolygiad gan mai ni yw'r corff rheoleiddio ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru a’n bod yn bartner pwysig.

Mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi adolygu'r cymwysterau galwedigaethol sydd wedi'u cynnwys yn y fframweithiau prentisiaethau ac maen nhw wedi cael eu hymestyn tan 2029. Mae hyn yn golygu na fyddan nhw’n cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn.

Mae'r data diweddaraf yn dweud wrthym mai prentisiaethau gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yw'r sector mwyaf poblogaidd i bobl sy'n dechrau prentisiaeth. Rhwng 2024 a 2025, roedden nhw’n cyfrif am 48 y cant o brentisiaethau newydd. Mae'r data hwn yn cynnwys prentisiaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant.

Drwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf 2025, fe wnaethom siarad â phobl sy'n darparu prentisiaethau i weithwyr a rheolwyr, a chyrff rheoleiddio eraill. Fe wnaethom ofyn am eu barn am yr wybodaeth yn y fframwaith prentisiaeth, gan gynnwys:

  • pwrpas y fframwaith
  • gofynion mynediad
  • swyddi
  • llwybrau cymwysterau
  • sgiliau hanfodol
  • llwybrau cynnydd
  • cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Yn gyffredinol, roedden nhw’n teimlo y gellid cyfuno'r fframweithiau presennol yn un fframwaith ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac un fframwaith ar gyfer Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.

Beth sy’n newid?

Fel rhan o'n gwaith gyda chydweithwyr yn y sector, roedden nhw’n awgrymu:

  • diweddaru'r wybodaeth gyffredinol yn well
  • gwneud yr iaith yn fwy gweithredol i hyrwyddo gwrth-wahaniaethu, a chryfhau sut y gallai fod angen gwneud addasiadau rhesymol i brentisiaethau
  • gostwng lefel Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif ar gyfer rhai o brentisiaethau lefel 3
  • gwneud cysylltiadau clir â’r fframwaith cymwysterau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant

Rydyn ni eisiau clywed eich barn chi am y newidiadau arfaethedig hefyd.

Beth nesaf?

  • Ar ôl yr ymgynghoriad, byddwn yn gweithio gyda Medr i newid dogfennau'r fframwaith.
  • Bydd Medr yn cyhoeddi'r fframweithiau wedi'u diweddaru ar ei wefan.
  • Bydd y fframweithiau presennol yn parhau i fod mewn grym nes bydd y fframweithiau newydd yn cael eu cyhoeddi.

Ar gyfer pwy mae’r ymgynghoriad hwn?

Rydyn ni eisiau clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb ym mhrentisiaethau’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Mae gennym ddiddordeb penodol mewn clywed gan y canlynol:

  • pobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru
  • cyflogwyr pobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru
  • pobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru
  • teuluoedd a gofalwyr
  • gwirfoddolwyr
  • darparwyr dysgu sy'n cynnig prentisiaethau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant ac iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Sut i ymateb

Gallwch chi ddarllen y fframweithiau prentisiaethau yma:

Rhannwch eich adborth

Gallwch rannu eich adborth drwy'r ffurflen ar-lein hon.

Neu, gallwch lawrlwytho cwestiynau'r ymgynghoriad yn y ddogfen Word yma a'i ebostio atom drwy FPAymgynghori@gofalcymdeithasol.cymru

Gallwch hefyd anfon eich barn atom mewn fformat gwahanol os yw hynny’n haws i chi.

Os oes angen copi o’r ymgynghoriad hwn arnoch mewn fformat gwahanol neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy FPAymgynghori@gofalcymdeithasol.cymru

Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw dydd Gwener 10 Hydref 2025.

Diolch am roi o’ch amser i rannu eich barn â ni.

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch data

Darganfyddwch sut byddwn ni'n defnyddio'ch data a beth yw eich hawliau.