Jump to content
Beth yw fy nghyfrifoldebau fel cyflogwr?

Fel cyflogwr yn y sector gofal cymdeithasol, rydych chi’n chwarae rhan hanfodol mewn helpu i wneud yn siŵr bod gennym ni weithlu diogel a medrus sydd wedi’i gefnogi’n briodol yng Nghymru. Mae gwybodaeth fanwl isod am eich cyfrifoldebau a sut gallwn ni eich cefnogi chi. Gallwch chi hefyd ddod o hyd i grynodeb o'r adnoddau sydd ar gael i chi yma.

Cofrestru

Fel rheolwr cofrestredig neu Unigolyn Cyfrifol, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod eich staff wedi’u cofrestru â ni. Er gwybodaeth:

  • mae gan bob gweithiwr gofal cymdeithasol chwe mis i gofrestru â ni o ddyddiad cychwyn eu swydd
  • rhaid i weithwyr cymdeithasol gofrestru cyn y gallant weithio fel gweithiwr cymdeithasol yng Nghymru
  • mae angen i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol gofrestru ar ddechrau eu cwrs ac mae rhaid iddyn nhw aros wedi'u cofrestru drwy gydol eu hastudiaethau
  • rhaid i bob rheolwr gofal cymdeithasol gofrestru cyn eu diwrnod cyntaf mewn swydd newydd.

Gallwch chi ganfod mwy am bwy sydd angen cofrestru a pham yma.

Gallwch chi chwilio’r Gofrestr i weld a yw eich staff presennol neu eich darpar staff wedi’u cofrestru.

Bydd angen o leiaf un cymeradwywr neu lofnodwr ar eich sefydliad. Gallwch ganfod manylion y swydd hon a gwybodaeth am sut i wneud cais i fod yn gymeradwywr neu’n llofnodwr yma. Mae’n bwysig bod eich staff yn gwybod pwy yw’r cymeradwywr neu’r llofnodwr ar gyfer eich sefydliad fel y gallant eu dewis fel rhan o’r broses ymgeisio.

Os mai chi yw’r cymeradwywr neu’r llofnodwr ar gyfer eich sefydliad, bydd gennych chi fynediad at fanylion eich sefydliad a’ch staff drwy GCCarlein.

Gallwch chi weld y staff sy’n gweithio i’ch sefydliad yn yr adran ‘Fy Sefydliad’. Yma gwelwch chi unrhyw gamau bydd angen i chi eu cwblhau, fel cymeradwyo cais neu gadarnhau tynnu rhywun oddi ar y Gofrestr. Gallwch chi hefyd weld pan fydd yn amser i’ch staff adnewyddu neu dalu ffi flynyddol.

Pan fydd aelod o staff yn gadael eich sefydliad

Os bydd unigolyn yn gadael eich sefydliad, gallwch chi ddiweddaru’r wybodaeth hon ar GCCarlein.

I dynnu gweithiwr oddi ar restr eich sefydliad:

  • dewiswch ‘Golygu’ ger eu henw
  • yna dewiswch ‘Gorffen Cyflogaeth’
  • atebwch y cwestiynau ac yna ni fydd yr unigolyn yn ymddangos ar eich rhestr bellach.

Ni fydd hyn yn eu tynnu nhw oddi ar y Gofrestr ond bydd yn eu tynnu nhw oddi ar restr eich sefydliad.

Er y dylai unigolion ddiweddaru eu cofnodion cyflogaeth, mae’n arfer da i chi wirio bod rhestr eich sefydliad yn gyfredol. Bydd hyn hefyd yn eich atal rhag cael negeseuon e-bost diangen am unigolion sydd wedi gadael eich cyflogaeth. Mae’n bosibl bydd angen i ni gysylltu â chi o hyd os mai chi yw eu cyflogwr diwethaf.

Helpu staff i gofrestru ac adnewyddu eu cofrestriad

Cyfrifoldeb eich aelodau staff yw cynnal eu cofrestriad, ond mae’n bosibl bydd angen i chi eu helpu nhw i gwblhau ceisiadau cofrestru ac adnewyddu. Dyma ragor o wybodaeth am sut i wneud cais i gofrestru a sut i adnewyddu cofrestriad.

Rhan o’ch cyfrifoldeb chi fel cyflogwr yw gwneud yn siŵr bod eich staff wedi’u hyfforddi’n briodol a bod ganddyn nhw’r sgiliau i wneud eu swydd. Mae hyn yn golygu y dylech chi ddarparu cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) perthnasol. Pan fyddwch chi’n cymeradwyo adnewyddiad, mae’n bosibl byddwn ni’n gofyn i chi gadarnhau bod eich aelod o staff wedi cwblhau’r DPP perthnasol.

Tynnu enw oddi ar y Gofrestr

Ceir gwahanol resymau pam mae enw unigolyn yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr. Gallwch chi ganfod mwy ynghylch pam y tynnir rhywun oddi ar y Gofrestr yma.

Byddwn ni’n dechrau’r broses hon os na fydd aelod o’ch staff yn talu ffi neu os nad yw’n gwneud cais i adnewyddu ei gofrestriad. Byddwn ni’n rhoi gwybod i’r prif lofnodwr yn eich sefydliad a’r unigolyn bod y broses wedi’i chychwyn. Dylech chi ymateb i’r hysbysiad hwn drwy GCCarlein a gofyn i’ch aelod o staff gysylltu â ni.

Gall unigolion wneud cais i gael eu tynnu oddi ar y Gofrestr os nad ydyn nhw bellach yn gweithio mewn gofal cymdeithasol ac nad oes angen iddyn nhw fod wedi’u cofrestru. Pan fydd rhywun yn gwneud cais i gael ei dynnu oddi ar y Gofrestr, byddwn ni’n gofyn i chi gadarnhau nad yw bellach yn gweithio i’ch sefydliad ac nad oes gennych chi unrhyw bryderon.

Dylech chi ymateb i’r hysbysiadau hyn er mwyn helpu i wneud y broses mor effeithlon a llyfn â phosibl i chi a’r unigolyn.

Codau ymarfer

Mae’r Cod Ymarfer Proffesiynol i weithwyr gofal cymdeithasol a’r Cod Ymarfer Proffesiynol i gyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol yn amlinellu cyfres o reolau a safonau y dylai gweithwyr a chyflogwyr lynu wrthynt yn eu swyddi. Mae’r Cod ar gyfer cyflogwyr yn disgrifio beth a ddisgwylir gennych chi i sicrhau bod gennym ni weithlu diogel a medrus sydd wedi’i gefnogi’n briodol. Disgwylir i gyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol hyrwyddo’r defnydd o’r Cod a’i ystyried wrth wneud unrhyw benderfyniadau am ymddygiad ac ymarfer eich staff.

Addasrwydd i ymarfer

Gall cyflogwyr, gweithwyr neu aelodau’r cyhoedd godi pryder am weithiwr cymdeithasol cofrestredig, gweithiwr gofal cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol. Fel cyflogwr, rydych chi’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod atgyfeiriadau amserol a pherthnasol yn cael eu gwneud i ni.

Rydyn ni’n cydnabod byddwch chi o bosib yn gallu datrys nifer o’r pryderon sy’n codi yn y gweithle yn briodol. Gallwch chi ddefnyddio’r canllaw hwn ar ymchwilio i bryderon yn eich gweithle ochr yn ochr â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad.

Ceir gwybodaeth yma am y mathau o bryderon gallwn ni ymchwilio iddynt.

Gallwch anfon e-bost at ftp@socialcare.wales i godi pryder gyda ni ac i wneud atgyfeiriad am unigolyn. Bydd angen i chi gynnwys y canlynol ar gyfer y person cofrestredig:

  • enw llawn
  • rhif cofrestru
  • dyddiad geni.

Bydd angen grynodeb o'r honiadau a rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda os ydy'r unigolyn yn dal i weithio ar hyn o bryd.

Cymwysterau

Mae’n rhaid i weithwyr feddu ar y cymhwyster perthnasol i gofrestru â ni. Gallwch chi ganfod mwy am gymwysterau ar gyfer rolau swyddi penodol. Rydyn ni’n argymell bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cwblhau’r fframwaith sefydlu i Gymru Gyfan o fewn chwe mis cyntaf eu cyflogaeth. Dyma ragor o wybodaeth am beth yw’r fframwaith a pham mae’n bwysig i weithwyr newydd a chyflogwyr.

Os nad oes gan weithiwr y cymhwyster perthnasol sy’n ofynnol er mwyn cofrestru â ni, gallwch chi gwblhau asesiad cyflogwr ar gyfer cofrestru gweithiwr gofal cymdeithasol. Dylai cyflogwyr ddefnyddio’r canllaw hwn i benderfynu os ydy gweithiwr gofal cymdeithasol yn addas i ymarfer ac a oes ganddyn nhw’r ddealltwriaeth briodol i wneud cais i gofrestru â ni.

Mae angen i weithwyr gofal cymdeithasol sy’n defnyddio llwybr asesu’r cyflogwr i gofrestru gwblhau un o’r cymwysterau presennol a restrir yn y fframwaith cymwysterau. Rydyn ni’n disgwyl i’r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol gyflawni’r cymhwyster hwn o fewn eu cyfnod cofrestru tair blynedd cyntaf, ond mae gan bob gweithiwr gofal cymdeithasol chwe blynedd i’w gwblhau.

Dyma fwy o gyngor i ddysgwyr, rheolwyr a chyflogwyr ar gwblhau cymwysterau.

Os yw aelod o’ch staff yn meddu ar gymhwyster sydd ddim yn ymddangos yn y fframwaith cymwysterau nac ar y rhestr flaenorol o gymwysterau, mae’n bosibl y gellir asesu cywerthedd eu cymhwyster. Dyma fwy o wybodaeth am asesu cywerthedd cymhwyster.

Y blynyddoedd cynnar a gofal plant