Hoffem gael eich safbwyntiau a’ch syniadau chi am ein hamcanion cydraddoldeb drafft i’n helpu i ddatblygu ein Cynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2022 i 2027.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan o’n hymrwymiad i ddod yn sefydliad sy’n mynd ati’n weithredol i wella bywydau pobl sydd â nodweddion gwarchodedig drwy:
- fynd i’r afael â gwahaniaethu
- hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
- creu cymdeithas fwy cynhwysol.
Rydym yn cydnabod ein rôl i fod yn arweinydd yn y meysydd hyn mewn gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar, a chydweithio ag eraill yn y sector i greu newid gwirioneddol ac ystyrlon.
Nawr, rydym yn gofyn i chi ein helpu i wneud yn siŵr eu bod yn ein rhoi ar y trywydd iawn. A ydym yn canolbwyntio ar y pethau cywir? A ydym yn bod yn ddigon mentrus? Beth fydd canlyniadau ein gwaith?
Mae’r ymgyngoriad ar agor am 10 wythnos ac yn cau am 5pm, 13 Medi 2021.
Sut i ymateb
Os hoffech ddweud eich dweud am ein hamcanion cydraddoldeb arfaethedig, gallwch wneud hynny drwy:
- lenwi’r arolwg ar-lein
- llenwi’r ddogfen 'Ein hamcanion cydraddoldeb drafft ar gyfer 2022 i 2027' isod a’i e-bostio at abubakar.askira@gofalcymdeithasol.cymru
- gofyn i gael sgwrs yn un o’ch cyfarfodydd rheolaidd â ni.