Ar beth rydyn ni'n ymgynghori?
Hoffwn eich barn a'ch syniadau am ein newidiadau arfaethedig i'r rheolau ar gyfer graddau gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
Rydym am wneud newidiadau i:
- Y Fframwaith ar gyfer y Radd Gwaith Cymdeithasol: Canllawiau Atodol i'r Rheolau (2021)
- Y Fframwaith ar gyfer Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru 2021
Y newidiadau arfaethedig yw
- Dileu'r gofyniad am isafswm o oriau gofal cymdeithasol
- Dileu gofyniad cymhwyster rhifedd lefel 2 ar gyfer mynediad i waith cymdeithasol
- Cael gwared ar y gofyniad am gyfweliadau 'wyneb yn wyneb' yn y broses dderbyn
- Bod yn fwy clir ynglŷn â sut i reoli ceisiadau trosglwyddo myfyrwyr rhwng rhaglenni astudio rheoledig
- Defnyddio rhagenwau niwtral o ran rhywedd mewn rheolau sicrhau ansawdd addysg yn y dyfodol, fframweithiau ac arweiniad.
Pam ydyn ni'n awgrymu'r newidiadau hyn?
- Hyrwyddo mwy o gyfle i gael mynediad i raglenni gwaith cymdeithasol
- Er mwyn cynyddu nifer yr ymgeiswyr cymwys i raglenni cymwys
- Er mwyn darparu mwy o hyblygrwydd o ran sut mae cyfweliadau yn y broses dderbyn yn cael eu cynnal
- Er mwyn sicrhau bod ceisiadau trosglwyddo myfyrwyr yn cael eu rheoli'n gyson rhwng rhaglenni astudio rheoledig
- I wneud yn siŵr nad ydyn ni'n anfwriadol heb gynnwys unrhyw un sydd â'r rhagenwau rydym yn eu defnyddio.
Sut i ymateb
Os hoffech ddweud eich dweud am ein newidiadau arfaethedig i'r rheolau ar gyfer graddau gwaith cymdeithasol, gallwch wneud hynny drwy:
- cwblhau'r arolwg ar-lein
- cwblhau'r ddogfen hon a'i hanfon drwy e-bost at ymgynghoriadau@gofalcymdeithasol.cymru