Jump to content
Ymunwch â’n Bwrdd!
Newyddion

Ymunwch â’n Bwrdd!

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n chwilio am chwe aelod Bwrdd newydd.

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein Bwrdd yn cynrychioli amrywiaeth a diwylliant pobl Cymru, felly rydyn ni’n awyddus i glywed gan bobl o bob cefndir.

Ydych chi yn berson sydd:

  • yn trin pobl ag urddas a pharch
  • eisiau dysgu sgiliau newydd a chael profiad gwerthfawr
  • yn hoffi gweithio gydag a chynnwys pobl
  • yn dymuno gwneud Cymru y gorau y gall fod.

Os felly, beth am ystyried ymuno â’n Bwrdd?

Os oes gennych chi ddiddordeb, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am yr hyn y rydyn ni’n ei wneud yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Medi am 4pm.

Hoffech chi ddarganfod mwy?


Bydd ein Cadeirydd Mick Giannasi yn cynnal dau sesiwn briffio ar-lein i roi cipolwg o bwy ydyn ni, y gwaith rydyn ni’n ei wneud ac i ateb unrhyw gwestiynau gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’n Bwrdd.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal rhwng 7pm a 8pm, 31 Awst a 4 Medi.

Os hoffech chi ymuno â sesiwn, cysylltwch â Llinos Bradbury ar llinos.bradbury@gofalcymdeithasol.cymru